Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Sharon Lovell (SL): cadeirydd

Simon Stewart (SSt)

Joanne Sims (JS)

Shahinoor Shumon (SSh)

Lowri Jones (LJ)

Kelly Harris (KH)

Marco Gil-Cervantes (MG)

David Williams (DW)

Sian Elen Tomos (ST)

Deb Austin (DA)

Dyfan Evans (DE), Pennaeth y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Donna Lemin (DL), Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Hayley Jones (HJ), Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Kirsty Harrington (KHa), Swyddog Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Dareth Edwards (DaE), Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru

Cyfarfod 1 (10 Hydref 2022): cofnodion a chamau gweithredu

Cymeradwywyd cofnodion a chamau gweithredu’r cyfarfod ar 10 Hydref 2022 gan bob aelod fel cofnod gwir a chywir o’r cyfarfod.

Cam Gweithredu 1: KHa i drefnu bod cofnodion y cyfarfod ar 10 Hydref 2022 yn cael eu cyhoeddi.

Cylch Gorchwyl y Bwrdd

Cytunodd yr aelodau ar y cylch gorchwyl mewn egwyddor ond awgrymwyd y newidiadau canlynol ganddynt:

  • dylid cryfhau peth o’r iaith i egluro cylch gorchwyl y Bwrdd
  • o ystyried cyfranogiad pobl ifanc, dylai’r cylch gorchwyl gynnwys cyfeiriad at Weithdrefnau Diogelu Cymru, gyda SL yn cael ei henwi fel arweinydd diogelu dynodedig y Bwrdd
  • dylai’r cylch gorchwyl gynnwys cyfeiriad at yr ymrwymiad i’r Gymraeg a sicrhau bod y Bwrdd yn gweithio’n ddwyieithog ym mhob cyfarfod
  • y bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn dilyn fformat hybrid fel arfer safonol

Cam Gweithredu 2: KHa i ddiweddaru’r cylch gorchwyl i adlewyrchu awgrymiadau’r Bwrdd cyn ei gyhoeddi.

Y rhyngwyneb rhwng y Pwyllgor Pobl Ifanc (y Pwyllgor) a’r Bwrdd

Trafododd aelodau’r Bwrdd y ffyrdd gorau o sicrhau bod gwaith y Pwyllgor yn cyd-fynd â gwaith y Bwrdd. Cytunwyd bod angen amseru cyfarfodydd y Bwrdd fel eu bod yn cael eu cynnal pan fo cynrychiolwyr y Pwyllgor ar gael. Cydnabuwyd hefyd mai un agwedd yn unig ar y model llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc sydd wrth wraidd y gwaith hwn oedd cyfranogiad aelodau’r Pwyllgor. Felly, mae angen hefyd cyfathrebu’n rheolaidd â grŵp ehangach o bobl ifanc, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymwneud â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Cytunwyd bod angen ymgysylltu’n ehangach â phobl ifanc i wneud defnydd o’r strwythurau cyfranogi presennol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Fodd bynnag, roedd diffyg strwythurau cyson yn cyflwyno heriau i gyfathrebu a chynnwys pobl ifanc. Gallai’r diffyg hwn gael ei gefnogi gan y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu arfaethedig.

Cam Gweithredu 3: DaE i drefnu i aelodau’r Bwrdd fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

Gweithgorau: archwilio sgiliau a diddordebau aelodau’r Bwrdd

Yn dilyn trosolwg o strwythurau cyfranogi hanesyddol a sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, gan gynnwys y Grwpiau Cyfranogiad Strategol, rhannodd aelodau’r Bwrdd y meysydd y mae ganddynt arbenigedd a diddordeb penodol ynddynt mewn perthynas â 14 o argymhellion y Bwrdd Dros Dro

Myfyrdodau o gyfarfod 1 a gweithdai ar argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Edrychodd aelodau’r Bwrdd yn fanwl ar bob un o 14 o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro mewn gweithgorau llai. Roedd hynny er mwyn archwilio’n fanylach y camau nesaf a’r pwyntiau i’w hystyried i fod yn sail i drafodaeth fanylach rhwng y Bwrdd a’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu maes o law.

Cryfhau neu sefydlu sail ddeddfwriaethol newydd ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys cryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

Amlinellodd swyddogion y sail ddeddfwriaethol bresennol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Trafododd y Bwrdd a’r swyddogion nifer o agweddau ar y ddeddfwriaeth bresennol, gan gynnwys sut y gallai fod angen cryfhau’r agweddau hyn, a’r dulliau posibl ar gyfer gweithredu newidiadau o’r fath.

Fel cam nesaf, awgrymodd swyddogion yr angen i ymchwilio’n fanylach i agweddau penodol ar y dirwedd ddeddfwriaethol bresennol, gan ganolbwyntio ar nodau polisi. Byddai archwilio’r rhain yn fanylach yn helpu i lywio’r camau nesaf o ran sut i gyflawni’r nodau hyn orau.

Cam Gweithredu 4: HJ i ddatblygu papur yn nodi agweddau penodol ar y ddeddfwriaeth bresennol a phwyntiau i’r Bwrdd eu trafod.

Adolygiad annibynnol o ddigonolrwydd, tryloywder, atebolrwydd ac effeithiolrwydd cyllid a gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yn hyn ar yr adolygiad cyllid annibynnol a gwnaethant egluro sut y byddai’r adolygiad hwn yn cael ei strwythuro. Rhannwyd papurau â’r Bwrdd yn rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y byddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud. Trafododd y Bwrdd y dull sy’n cael ei ddilyn ar gyfer cwblhau’r adolygiad hwn. Roedd aelodau’r Bwrdd yn awyddus i sicrhau bod cwmpas y gwaith hwn yn glir. Yn fwy cyffredinol, nododd aelodau’r Bwrdd fod llawer o sefydliadau yn y sector yn aml yn ddibynnol ar grantiau tymor byr. Nododd swyddogion y byddai’r adolygiad yn ystyried yn fanwl beth sy’n strwythurau cyllido effeithiol.

Mynegodd aelodau’r Bwrdd yr angen i’r adolygiad hwn ystyried yr hyn sy’n cael ei wario ar hyn o bryd a’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys, o bosibl, cost darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid cyffredinol.

O ran cwmpas yr adolygiad hwn, ni fydd yn ystyried costau sefydlu a rhedeg y corff cenedlaethol arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, esboniodd swyddogion bwysigrwydd bwrw ymlaen â’r adolygiad hwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch cylch gorchwyl a strwythur corff o’r fath.

Fel rhan o’r trafodaethau hyn ac er mwyn sefydlu’r cyd-destun, rhoddodd swyddogion hefyd drosolwg o’r dyraniadau cyllid a wnaed ar gyfer 2022 i 2023. Gofynnodd aelodau’r Bwrdd am ragor o wybodaeth am ddyraniadau’r Grant Cymorth Ieuenctid, yn ogystal â dyraniadau cyllid eraill, a manylion y cyllid a ddyrannwyd i argymhellion penodol y Bwrdd Dros Dro.

Cam Gweithredu 5: DR i ddarparu rhagor o fanylion am ddosbarthu’r Grant Cymorth Ieuenctid a dyraniadau cyllid eraill, gan gynnwys dyraniadau i gefnogi argymhellion penodol.

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Ymunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg â’r cyfarfod ar Teams. Gwnaeth y Bwrdd y cyflwyniadau a nodi eu barn ar y trafodaethau hyd yn hyn cyn i’r Gweinidog nodi ei weledigaeth ar gyfer y cam nesaf hwn o waith.

Marchnata a chyfathrebu

Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd codi proffil gwaith ieuenctid ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Trafodwyd mentrau marchnata a chyfathrebu amrywiol, gan gynnwys blaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol nesaf, a’r angen i arddangos y gorau o waith ieuenctid yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Gweithgorau: cytuno ar y camau nesaf ac arweinwyr y grwpiau

Gan adeiladu ar y drafodaeth flaenorol ynghylch sgiliau a diddordebau aelodau’r Bwrdd, trafododd y Bwrdd y strwythur yn y dyfodol ar gyfer y grwpiau cyfranogiad. Cytunwyd y byddai pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu, fel a ganlyn:

  1. Grŵp Cyfranogiad Gweithredu: Datblygu’r Gweithlu
  2. Grŵp Cyfranogiad Gweithredu: mae Pobl Ifanc yn Ffynnu
  3. Grŵp Cyfranogiad Gweithredu: Gwybodaeth a Chynnig Digidol i Ieuenctid
  4. Grŵp Cyfranogiad Gweithredu: y Gymraeg
  5. Grŵp Cyfranogiad Gweithredu: Ymgysylltu Strategol a Chyfathrebu

Cytunwyd y dylai’r grŵp marchnata a chyfathrebu presennol aros yr un fath.

Byddai’r grwpiau newydd hyn yn anelu at ddechrau ar eu gwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a byddai cyfleoedd i aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Strategol sydd wedi bod ar waith, yn ogystal ag eraill nad ydynt wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, ymuno â grwpiau.

Cam Gweithredu 6: Gofynnwyd i’r aelodau anfon datganiadau o ddiddordeb mewn perthynas â chymryd rhan a/neu cadeirio Grŵp Cyfranogiad Gweithredu at SL.