Mae gwelliannau i amseroedd aros ac arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles wedi cadarnhau y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael ei isgyfeirio, o lefel pedwar i lefel tri. Daw hyn yn sgil ei arweinyddiaeth well, ei berfformiad ym maes gofal a gynlluniwyd a gwelliannau i'w wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Mae hyn yn golygu y bydd y bwrdd iechyd yn parhau i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i wella ei wasanaethau, ond ni fydd yn cael ei oruchwylio a'i fonitro i'r fath raddau ag o'r blaen.
Fodd bynnag, bydd y bwrdd iechyd yn parhau i fod o dan drefniadau uwchgyfeirio lefel pedwar ar gyfer perfformiad gofal argyfwng a chyllid a chynllunio.
Pan fo pryderon am berfformiad unrhyw un o sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gall Llywodraeth Cymru ymyrryd i ddarparu cymorth i wella gwasanaethau a gofal i gleifion.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Mae arweinyddiaeth newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad i'r bwrdd, ac ar ôl y gwelliannau yma, rwy'n falch o symud y bwrdd i lawr i lefel tri ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethiant.
Rwy' eisiau diolch i'r holl staff sy'n gweithio'n galed i wella eu gwasanaethau a'u canlyniadau i'r miloedd o bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
Er bod y cynnydd yn galonogol, byddwn ni'n parhau i fonitro perfformiad a chanlyniadau'r adrannau brys ac yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i wella perfformiad.