Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Fframwaith Uwchgyfeirio: Medi 2025
Fframwaith uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2025, mae lefelau uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel a ganlyn:
- lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng (UEC), canser ac ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
- lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd, CAMHS
Lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd ac yn cydgysylltu camau gweithredu ac yn cyfarwyddo ymyriadau uniongyrchol i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti er mwyn ysgogi gwelliannau. Mae'n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd â'r nod o unioni'r problemau mewn cyfnod rhesymol o amser. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru fydd yn ymgymryd â'r ymyriadau, dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Pennir lefel 3 (monitro uwch) pan fydd Llywodraeth Cymru wedi nodi pryderon difrifol yn ymwneud â sefydliad y GIG. Bydd monitro’n digwydd yn amlach nag o dan drefniadau arferol, a hynny o bosibl drwy amrywiaeth ehangach o ffyrdd, gan gynnwys rhyngweithiadau a chyfarfodydd rheolaidd yn ogystal â chyflwyno diweddariadau ysgrifenedig ar gynnydd a thystiolaeth, gan gynnwys cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru a data ansoddol a meintiol. Bydd angen i sefydliad y GIG ddangos ei fod yn ymateb mewn modd rhagweithiol i'r lefel uwchgyfeirio, a bydd angen iddo roi prosesau effeithiol ar waith i fynd i'r afael â'r broblem hon neu problemau hyn ac ysgogi gwelliant ei hun. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro cynnydd yn agos, ei herio a'i adolygu.
Hanes uwchgyfeirio
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Ym mis Medi 2023, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Ym mis Tachwedd 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o lefel 3 i lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio wrth i'w sefyllfa ariannol waethygu.
Gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Ym mis Rhagfyr 2023, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i lefel 3 (monitro uwch).
Ym mis Gorffennaf 2025, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o lefel 3 i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar ôl cyhoeddi'r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.
Perfformiad a chanlyniadau
Ym mis Medi 2022, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer perfformiad a materion ansawdd yn arwain at amseroedd aros hir.
Ym mis Ionawr 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o lefel 3 i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â chanser, gofal a gynlluniwyd, gofal brys a gofal mewn argyfwng (UEC) ac ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.
Ym mis Mawrth 2025, isgyfeiriwyd y bwrdd iechyd o lefel 4 i lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd a CAMHS yn dilyn cyfnod parhaus o gyflawni yn erbyn y meini prawf ar gyfer isgyfeirio o lefel 4.
Ym mis Gorffennaf 2025, roedd perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng, canser a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ar lefel 4; ac roedd perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd a CAMHS ar lefel 3 o hyd.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill.
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin.
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith.
- yn cael eu cynnal mewn modd agored, yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Tra bydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:
- bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd
- caiff cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar / Prif Weithredwr GIG Cymru – bydd y rhain yn ymdrin â chynnydd yn y parthau ar lefel 4 a lefel 3, ond yn craffu'n fanylach ar gamau gweithredu ac effaith yn y parthau ar lefel 4
- cytunir ar amlder y cyfarfodydd cyswllt lefel 4 ynghylch cyllid, strategaeth a chynllunio â Perfformiad a Gwella GIG Cymru, bydd y rhain yn archwilio'r cynnydd a wnaed yn erbyn y cofnodlyfr gweithredu, yn adolygu tystiolaeth ac yn cytuno ar allbynnau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio a arweinir gan Lywodraeth Cymru
- defnyddir cyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig misol a arweinir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff y pryderon yn ymwneud â'r parth perfformiad a chanlyniadau gan gynnwys gofal a gynlluniwyd, gofal brys a gofal mewn argyfwng, canser, CAMHS a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd eu goruchwylio'n effeithiol yn barhaus.
- cynhelir adolygiad rheolaidd o gynnydd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn ystod cyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a chyfarfodydd Cyd-dimau Gweithredol penodedig. Cynhelir gwaith dadansoddi pellach ar ôl cael papurau bwrdd y bwrdd iechyd a chaiff cyfarfodydd cyswllt eu trefnu, os bydd eu hangen, â'r Cyfarwyddwr Nyrsio i olrhain cynnydd
Isgyfeirio
Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo'n bosibl, mae'r meini prawf uwchgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy'n destun uwchgyfeirio.
Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o'r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad y cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni'r meini prawf isgyfeirio.
Mae 2 ddull isgyfeirio;
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.
Rolau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at arferion gorau, canllawiau a fframweithiau perthnasol
- gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd
- adolygu cynlluniau gweithredu a rhoi adborth arnynt
- cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
- galluogi dulliau gweithredu a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol mewn sefydliadau yng Nghymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
- gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)
Rolau a chyfrifoldebau'r bwrdd iechyd yw:
- penodi Uwch-swyddog(ion) cyfrifol
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
- llunio cynllun lefel 3 a lefel 4 realistig a chyflawnadwy mewn ymateb i'r meysydd pryder ac yn unol â'r meini prawf isgyfeirio y cytunwyd arnynt
- cyflwyno adroddiadau cynnydd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun gweithredu uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
- rhoi sicrwydd bod prosesau adolygu ffurfiol ar waith yn y bwrdd iechyd i fonitro a chyflawni'r gwelliannau gofynnol
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Cyllid
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth o ran cyllid ar lefel 4 yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd weithredu a:
- dangos bod y prosesau llywodraethiant a rheolaeth ariannol yn gadarn a rhoi sicrwydd digonol eu bod yn effeithiol drwy gynnal adolygiad o'r trefniadau rheolaeth ariannol sydd ar waith yn erbyn fframwaith a fframweithiau arferion gorau priodol a datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau, a'i roi ar waith
- cyfleu ffactorau ysgogi'r diffyg presennol er mwyn llywio dull trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu a fydd yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau mewn modd cynaliadwy, ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau
- dangos polisïau a phrosesau clir sy'n cefnogi'r gwaith o nodi, cyflawni a monitro pob cynllun arbedion a chyfle. Dylai hyn gynnwys llunio fframwaith cyfleoedd clir a chadarn (a llif) sy'n cynnwys cyfleoedd realistig i gefnogi a rheoli'r heriau byrdymor a wynebir, ynghyd ag ysgogi'r newidiadau trawsnewidiol ar raddfa fwy a fydd yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor
- dangos strategaeth a dull cynllunio integredig i gyflawni'r cyfanswm rheoli targed a osodwyd ar gyfer y bwrdd iechyd o leiaf, gyda map ffordd clir a cherrig milltir ar gyfer cyflawni cynllun adennill costau dros y tymor canolig. Dylai hyn gynnwys tybiaethau cynllunio clir a realistig sy'n triongli ag amcanion strategol tymor hwy y sefydliad mewn perthynas â darparu gwasanaethau, y gweithlu, seilwaith, ac ati.
- herio a chynnal prawf straen mewn perthynas â chynllun y bwrdd iechyd ar gyfer 2025i 2026 a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella
- cyflawni trywydd ariannol sy'n gwella yn unol â chynlluniau'r sefydliad a gymeradwywyd gan y Bwrdd, gan gynnwys cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r cyfanswm rheoli targed; gafael gwell ar y pwysau ariannol a gweithredol presennol a rheolaeth well drostynt; a chynnydd pellach ynghylch nodi a chyflawni cyfleoedd
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol drwy:
- mae'r fframwaith llywodraethiant ariannol yn y bwrdd iechyd yn gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau arferion gorau
- strwythur y pwyllgor ariannol; gan gyfleu risgiau allweddol yn glir a mynd i'r afael â nhw mewn ffordd ragweithiol
- mae rheolaethau ariannol y bwrdd iechyd yn gadarn o ran eu dyluniad a'r broses o'u rhoi ar waith.
- mae gan y swyddogaeth gyllid yr adnoddau a'r galluogrwydd angenrheidiol i gefnogi anghenion y sefydliad ehangach
- adroddiadau ariannol sy'n cynnwys y dadansoddiad a'r esboniad naratif sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r rheolwyr a'r bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau, er enghraifft drwy adborth neu ddulliau hunanasesu
- adroddiadau integredig sy'n rhoi dealltwriaeth glir i'r Bwrdd o'r cysylltiad rhwng perfformiad ariannol a pherfformiad gweithredol, gan gynnwys cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y sefydliad.
- Cyllidebau wedi'u pennu'n unol â'r cynllun ac wedi'u rheoli'n effeithiol, gan ddwyn deiliaid cyllidebau i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau ariannol.
- datblygu a chyflawni cynllun gweithredu i wella'r amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol.
- adolygu strwythurau cyflawni'r sefydliad ar gyfer ansawdd ac effeithiolrwydd, gan nodi unrhyw feysydd i'w gwella.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos dealltwriaeth o'r diffyg presennol a'r ffactorau allweddol, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- dangos bod dealltwriaeth glir o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd yn y diffyg ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy'n rheoli costau
- dangos proses glir a chadarn ar gyfer herio diffygion sylfaenol a gofnodwyd ar lefelau is-adrannol lleol.
- dangos dealltwriaeth lawn o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y twf cost uchel a'r sail cost uchel sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng, gyda chyfleoedd clir i leihau gwariant
- dangos dealltwriaeth a rheolaeth o'r ffactorau sy'n rheoli costau sy'n gyfrifol am y twf cost a'r sail cost uchel o fewn gofal iechyd parhaus a gofal nyrsio a ariennir
- dangos dealltwriaeth a rheolaeth o'r ffactorau sy'n rheoli costau sy'n gyfrifol am y twf cost a'r sail cost uchel o fewn rhagnodi
- dangos dealltwriaeth lawn o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y twf yng nghostau'r gweithlu, ochr yn ochr â'r cyfyngiadau ar gapasiti'r gweithlu a chamau datblygu clir i gefnogi gweithlu cynaliadwy
O ganlyniad i'r uchod, mae dulliau trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd mwyaf cynaliadwy o adnoddau.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn datblygu ac yn gwireddu cyfleoedd, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- troi cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy'r Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd yn gynlluniau arbedion lleol
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn rhoi egwyddorion gofal iechyd seiliedig ar werth ar waith ym mhob rhan o'r sefydliad ac yn cyflawni cynlluniau gofal iechyd seiliedig ar werth
- llunio proses glir ar gyfer datblygu a chyflwyno cyfleoedd strategol i gefnogi cynaliadwyedd y bwrdd iechyd
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos strategaeth a chynllun ariannol clir drwy:
- cynllun integredig a fydd yn cyflawni'r cyfanswm rheoli targed o ddiffyg o £17 miliwn yn 2025 i 2026 o leiaf, ac sy'n dangos mwy o gynnydd tuag at ddarparu gwasanaethau effeithlon gyda'r adnoddau sydd ar gael a dyhead tymor hwy i gyflawni'r ddyletswydd i adennill costau
- cynllun ymgysylltu clir i gyfleu'r angen am welliannau ariannol ym mhob rhan o'r sefydliad
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos bod y cynllun wedi'i gyflawni drwy:
- cyflawni gwelliant clir yn y llwybr ariannol a gynlluniwyd ar gyfer 2025 i 2026 (fel, cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r targed rheoli cyfanswm), gan gynnwys cynnydd pellach tuag at nodi a chyflawni cyfleoedd rheolaidd
- cyflawni arbedion targed yn ystod y flwyddyn a blwyddyn lawn a bwrw ymlaen â'r cynlluniau trawsnewid sydd eu hangen i gefnogi cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol
- dangos bod dewisiadau yn ystod y flwyddyn yn cael eu nodi a'u rhoi ar waith yn gynnar er mwyn lliniaru unrhyw bwysau sy'n dod i'r amlwg
- sicrhau bod prosesau rheoli perfformiad clir ar waith i reoli amrywiadau sy'n dod i'r amlwg mewn contractau comisiynu
Cymorth ariannol sydd ei angen
Mae'r lefel uwchgyfeirio a'r ymyriadau cysylltiedig a nodwyd yn y cynllun gweithredu ariannol wedi'u llunio i gefnogi'r bwrdd iechyd i ddangos camau gweithredu a thystiolaeth yn unol â'r amcanion allweddol. Bydd Cyfarwyddiaeth Cyflawni a Chynllunio Ariannol Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i'w helpu i gyflawni'r camau gweithredu a'r cynhyrchion a nodwyd yn y cynllun gweithredu er mwyn cael darlun clir o'r trefniadau llywodraethiant ariannol sydd ar waith, yr heriau ariannol allweddol (diagnosis), a'r cyfleoedd ar gyfer gwella, ac er mwyn meithrin dealltwriaeth o gynlluniau a chamau ar gyfer gwella.
Mae sefyllfa gronnol a phresennol y bwrdd iechyd yn seiliedig ar fuddsoddiadau perthnasol a chynnydd o ran twf cost mewn sawl maes allweddol; buddsoddiad a thwf cost ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng, rhagnodi a'r gweithlu.
Mae'r meysydd a argymhellwyd ar gyfer capasiti allanol ac ychwanegol yn adeiladu ar yr agweddau craidd a nodwyd drwy'r cynllun gweithredu lefel 4 ac maent yn cynnwys y canlynol:
- adolygu strwythurau cyflawni'r sefydliad ar gyfer ansawdd ac effeithiolrwydd, gan nodi unrhyw feysydd i'w gwella.
- adolygu'r rheolaethau a'r prosesau mewn meysydd risg allweddol nad ydynt wedi'u hadolygu'n ddiweddar ac mewn meysydd gwariant a risg perthnasol allweddol fel y gweithlu (er enghraifft, gweithwyr banc a sefydliad). Gellid hefyd ystyried arbenigedd archwilio mewnol ychwanegol, ond y model a ffefrir yw capasiti allanol, dilysu a herio.
- adolygu gofal brys a gofal mewn argyfwng ac ymgysylltu â'r arbenigedd sydd ei angen i wella capasiti ac adolygu'r broses, y llwybrau a'r modelau sy'n sail i ofal brys a gofal mewn argyfwng a chefnogi'r broses o ddatblygu datrysiadau cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r sefyllfa sylfaenol, gwaith a wnaed gan y bwrdd iechyd, adolygu meysydd buddsoddi nad ydynt wedi arwain at well canlyniadau a nodi datrysiadau cynaliadwy a gostyngiadau mewn gwariant.
- adolygu gofal iechyd parhaus ac ymgysylltu â'r arbenigedd sydd ei angen i wella capasiti ac adolygu'r broses, y llwybrau a'r modelau sy'n sail i ofal brys a gofal mewn argyfwng a chefnogi'r broses o ddatblygu datrysiadau cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r sefyllfa sylfaenol, gwaith a wnaed gan y bwrdd iechyd, adolygu meysydd buddsoddi nad ydynt wedi arwain at well canlyniadau a nodi datrysiadau cynaliadwy a gostyngiadau mewn gwariant.
- arbenigedd cynllunio a chyflawni allanol i gynnal profion straen a herio cynllun y bwrdd iechyd ar gyfer 2025/25, gan gynnwys herio'r diffyg sylfaenol a'r camau gweithredu i leihau'r sefyllfa hon, cyfleoedd i leihau'r twf cost a ragwelir, a chefnogi'r bwrdd iechyd wrth droi cyfleoedd yn arbedion. Mae hyn yn cynnwys nodi camau gweithredu i'w rhoi ar waith yn gyflym er mwyn helpu i gyflawni'r cyfanswm rheoli targed a chefnogi'r tymor hwy drwy ddatblygu map llwybr clir tuag at fantoli'r gyllideb. Mae hyn hefyd yn cynnwys ffocws ar nodi cyfleoedd i atgyfnerthu capasiti a gallu cynllunio a chyflawni'r bwrdd iechyd.
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
- gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer ymyrraeth wedi'i thargedu gan gynnwys o leiaf gamau gweithredu i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
- datblygu cynllun blynyddol gyda chymeradwyaeth y bwrdd a dangos llwybr gwelliant ariannol sylweddol er mwyn cyflawni'r cyfanswm rheoli targed o leiaf
Strategaeth a chynllunio
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â strategaeth a chynllunio ar lefel uwchgyfeirio 4 yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gyflwyno a chyflawni cynllun cymeradwy, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- dangos gwaith cynllunio integredig gwell ym mhob rhan o'r sefydliad i ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig y gellir ei gymeradwyo, gan roi trywydd ar gyfer cyflawni uchelgais tymor hwy y bwrdd iechyd
- cyflawni cynllun blynyddol credadwy fel cam tuag at gynllun tymor canolig integredig llawn a mantoledig
- gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r targedau gweinidogol, y disgwyliadau o ran cyflawni a'r camau galluogi (a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2028), y meini prawf atebolrwydd a'r gofynion ar gyfer lefel 4
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae'r broses o gyflawni strategaeth a chynllun clinigol yn cefnogi'r canlynol:
- gwaith cynllunio a phenderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol
- penderfyniadau a wneir ym mhob rhan o'r sefydliad
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae gwaith cynllunio rhanbarthol yn helpu'r bwrdd iechyd i wneud y canlynol:
- sicrhau y caiff amcanion allweddol eu cyflawni drwy'r Cyd-bwyllgor â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ddangos cydweithredu rhanbarthol lle y bo angen i sicrhau diogelwch parhaus, ansawdd a hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus gwasanaethau rhanbarthol, gan gynnwys orthopedeg ac offthalmoleg
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cyflwyno cynllun blynyddol derbyniol yn unol â'r fframwaith cynllunio cyfredol
- dangos map ffordd clir a rhoi cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
- cynyddu hyder Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni yn seiliedig ar asesiad yn erbyn matrics aeddfedrwydd cynllunio y cytunwyd arno
- gwneud cynnydd o ran gwaith cynllunio rhanbarthol mewn perthynas ag orthopedeg, offthalmoleg, gwasanaethau strôc, wroleg, a gwasanaethau gastroberfeddol uwch yn 2025 i 2026 fel y dangosir gan gynlluniau ar y cyd, gwell trefniadau gweithio, a mwy o weithgarwch yn cael ei gynnal drwy drefniadau gweithio rhanbarthol
Gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Ym mis Gorffennaf 2025, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o lefel 3 i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu).
Tynnodd nifer o adroddiadau, gan gynnwys yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, adolygiad dan arweiniad teuluoedd grŵp cymorth mamolaeth Bae Abertawe, a'r Adroddiad ar Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a gyhoeddwyd gan Llais, sylw at bryderon difrifol mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch, arweinyddiaeth a llywodraethiant gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd, yn ogystal â'r angen i wella prosesau ansawdd a llywodraethu.
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar lefel uwchgyfeirio 4 yn cwmpasu'r 4 maes canlynol:
- llywodraethiant ac arweinyddiaeth
- cynlluniau gwella a chamau gweithredu yn unol ag argymhellion o'r adolygiadau o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
- ansawdd a diogelwch
- ymgysylltu'n effeithiol â menywod a theuluoedd
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos llywodraethiant ac arweinyddiaeth, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- sicrhau strwythur llywodraethu priodol i'r gwasanaeth ar lefel uwchgyfeirio 4 gan gynnwys penodi uwch-swyddog cyfrifol, trefniadau goruchwylio gan y bwrdd ac adroddiadau rheolaidd sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan y bwrdd
- adolygu effeithiolrwydd y cynllun datblygu arweinyddiaeth, gan ei wella fel y bo angen
- cynnal asesiadau ansoddol o lesiant y staff a gwneud gwelliannau priodol yn dilyn adborth
- sicrhau bod y rhan fwyaf o'r swyddi interim a dros dro yn y gwasanaeth wedi'u llenwi'n barhaol a bod digon o staff ar gyfer pob shifft. Sicrhau bod y staff wedi'u hyfforddi, yn cael eu cefnogi a'u datblygu yn eu rolau. Rhoi trosolwg o drosiant staff gan gynnwys trosolwg o gyfweliadau ymadael
- cynnal tîm arweinyddiaeth sefydlog, gan sicrhau ei fod yn weladwy ac yn effeithiol; sicrhau bod cymorth datblygu arweinyddiaeth ar waith a bod y tîm amlddisgyblaethol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gweithredu mewn ffordd ragweithiol i ysgogi gwelliannau i'r gwasanaeth, gan gynnwys cymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant i staff a monitro cydymffurfiaeth â'r hyfforddiant hwn.
- dangos tystiolaeth bod materion sy'n ymwneud â'r gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn cael eu cyflwyno a'u trafod ar lefel y bwrdd gweithredol
- dangos tystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi defnyddio prosesau meincnodi ynghyd ag enghreifftiau eraill o wasanaethau amenedigol ag ymarfer da o ansawdd uchel yng Nghymru neu'r tu allan i Gymru. Bydd hyn yn cynnwys adroddiadau a gwybodaeth allanol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos cynllun gwella integredig wedi'i ddiffinio'n glir gyda dulliau clir ar gyfer adrodd ar gynnydd sy'n cynnwys y canlynol:
- camau gweithredu ac argymhellion o adroddiadau penodol ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Abertawe, gan gynnwys yr argymhellion hynny o adolygiad Llais, yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd ac adolygiad annibynnol y bwrdd iechyd
- camau gweithredu o arolygiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) neu adroddiadau gan reoleiddwyr allanol eraill
- dull gweithredu integredig mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
- camau gweithredu lleol yn deillio o argymhellion y rhaglen diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos ansawdd a diogelwch, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- cwblhau'r broses o ddatblygu'r dangosfwrdd sy'n cynnwys gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a dangos sut y caiff ei ddefnyddio i wella ansawdd a diogelwch gofal
- sicrhau y caiff digwyddiadau, yr Adnodd Adrodd ar Farwolaethau Amenedigol (PMRT), LRI/NRI, cwynion a phryderon eu hintegreiddio i mewn i drefniadau llywodraethu ansawdd y sefydliad gan sicrhau y cânt eu cynnal fel tîm amenedigol ac yr ymatebir i bob mater o fewn yr amserlen ofynnol ac y caiff gwersi priodol eu dysgu
- cynnal adolygiad chwarterol o ganlyniadau'r uchod (gan gynnwys sampl ôl-weithredol o ansawdd yr ymatebion, mesur nifer y cwynion a gafodd eu hailagor ac ati)
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau i ymgysylltu â menywod a theuluoedd, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- dangos prosesau a systemau effeithiol ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd, fel rhan annatod o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan gynnwys rhoi Mesurau Profiad Amenedigol ar waith fel rhan o'r prosesau ar gyfer adrodd ar brofiadau teuluoedd. Defnyddio'r set ddata hon i ddangos gwelliannau cadarnhaol mewn profiadau ac i lywio gwelliannau parhaus i wasanaethau
- dangos tystiolaeth bod adborth gan fenywod a theuluoedd yn llywio'r broses o ddylunio gwasanaethau
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- sicrhau y caiff argymhellion a chamau gweithredu'r Adolygiad Annibynnol eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt ac adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru bob mis, gan dynnu sylw at risgiau a allai atal y broses gyflawni.
- sicrhau y caiff y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd i wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe eu rhoi ar waith yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt ac adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru bob mis, gan dynnu sylw at risgiau a allai atal y broses gyflawni.
- cael asesiad cadarnhaol gan arsylwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
- cytuno ar gyfres o amodau cynaliadwyedd gyda Llywodraeth Cymru y gellir ei defnyddio i olrhain gwelliannau.
- dangos tystiolaeth bod gan y Bwrdd brosesau craffu a goruchwylio effeithiol ar waith ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
- rhoi'r dangosfwrdd mamolaeth a newyddenedigol ar waith ym mhob rhan o'r gwasanaeth er mwyn dangos bod y data yn ysgogi penderfyniadau go iawn.
- adolygu'r gofrestr risgiau, prosesau rheoli risg priodol, a chamau lliniaru yn rheolaidd.
- cynnal adolygiadau rheolaidd yn erbyn y canlyniadau y cytunwyd arnynt er mwyn dangos bod yr LRI/NRI, y broses ar gyfer cwynion a phryderon sy'n rhan o'r prosesau llywodraethu ansawdd, yn cael eu rhoi ar waith yn barhaus, gan sicrhau ymatebion amserol.
- dangos tystiolaeth o gyfarfodydd PMRT effeithiol ar y cyd ym mhob rhan o'r gwasanaeth gan ymgysylltu â'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt.
- cynnal y cyflenwad staffio gofynnol gan sicrhau'r niferoedd a'r graddau priodol.
- cyflawni a chynnal cyfraddau cydymffurfiaeth â hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
- dangos camau cywirol gofynnol yn erbyn data Mesurau Canlyniadau a Gofnodir gan Gleifion a Mesurau Profiadau a Gofnodir gan Gleifion ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
- dangos tystiolaeth o'r ffordd mae adborth gan fenywod a theuluoedd yn llywio'r broses o ddylunio gwasanaethau yn y bwrdd iechyd.
- rhoi sicrwydd bod arweinyddiaeth glinigol yn gyson, yn weladwy, yn effeithiol a bod cymorth datblygu arweinyddiaeth ar gael.
rhoi sicrwydd a dangos tystiolaeth o ddiwylliant sy'n gwella drwy arolygon priodol, a asesiadau ansoddol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
Perfformiad a chanlyniadau
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol
- gwella perfformiad gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu diogel, amserol ac effeithiol ar gael i gleifion, gan leihau amseroedd aros, oedi a gwella ansawdd
- cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw'r llwybr disgwyliedig
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth am brofiad cleifion yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae'n ymdrin â nhw, fel rhan o'r cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol
- cynnal asesiadau o ddigwyddiadau parhad busnes a ddatganwyd, gan gynnwys y rhesymau pam, y camau a gymerwyd, a'r gwersi a ddysgwyd
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- sicrhau bod cleifion yn glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- gweithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys y Rhaglen Gofal Sylfaenol Strategol, y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith
- cefnogi'r broses o roi cyfleodd a nodir gan GIRFT ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a'u gwireddu
- sicrhau ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion gan Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- gostyngiad parhaus o 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- gwelliant parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
- ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud
- gostyngiad parhaus o 5% mewn llwybrau gofal gohiriedig (gan ganolbwyntio ar y rhai sy'n deillio o broblemau asesu) am dri mis yn olynol a chynnal hynny (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
Ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer ansawdd gofal mewn perthynas â heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy drwy wneud y canlynol:
- sefydlogi'r llwybr cynyddol o achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a thystiolaeth o welliant parhaus ynghyd â dull a chynllun gwella ansawdd cadarn sy'n cael eu goruchwylio a'u monitro gan Bwyllgor a Bwrdd Ansawdd Diogelwch y bwrdd
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos llywodraethiant ac arweinyddiaeth, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- llunio cynllun gwella clir yn seiliedig ar ddadansoddiad o achosion sylfaenol er mwyn mynd i'r afael ag achosion o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd sy'n dechrau mewn ysbyty
- sicrhau bod prosesau ymateb clir ac effeithiol ar waith i ymateb i frigiadau o achosion, gan adrodd yn uniongyrchol i'r bwrdd
Meini prawf isgyfeirio
fodloni'r meini prawf isod:
- lleihau nifer yr achosion o heintiau clostridium-difficile (c-diff) sy'n dechrau mewn ysbyty 40% a chynnal y lefel honno am dri mis (o linell sylfaen y cytunwyd arni)
- lleihau nifer yr achosion o heintiau staphylococcus aureus (staph-aureus) sy'n dechrau mewn ysbyty 25% a chynnal y lefel honno am dri mis (o linell sylfaen y cytunwyd arni)
- lleihau nifer yr achosion o heintiau escherichia-coli (e-coli) sy'n dechrau mewn ysbyty 20% a chynnal y lefel honno am dri mis (o linell sylfaen y cytunwyd arni)
- lleihau nifer yr achosion o heintiau klebsiella sy'n dechrau mewn ysbyty 10% a chynnal y lefel honno am dri mis yn seiliedig ar ffigurau 2017 i 2018 (o linell sylfaen y cytunwyd arni)
Canser
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer canser yn cwmpasu'r meysydd canlynol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- datblygu cynllun gwella cadarn yn unol â gofynion cenedlaethol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- sicrhau cydymffurfiaeth â phob agwedd ar y llwybrau optimwm cenedlaethol.
- cynnal perfformiad ym maes canser yn unol â'r safonau y cytunwyd arnynt a sicrhau y caiff yr ôl-groniad o gleifion sy'n aros rhwng 62 a 104 diwrnod ei gadw i'r lefel isaf posibl y cytunwyd arni.
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth am brofiadau cleifion yn ymwneud â chanser, a sut mae'n ymdrin â nhw, fel rhan o'r cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer canser yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- gweithio gyda'r rhwydwaith clinigol ar gyfer canser a rhoi ei argymhellion ar waith
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, a rhaid iddo sicrhau:
- ymgysylltu ac ystyrlon â chleifion mewn perthynas â natur frys bosibl eu cyflwr, polisïau amseroedd aros a darparu cymorth priodol sy'n cadw cleifion yn iach wrth iddynt aros
- cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol ag ymarferwyr cyffredinol mewn perthynas â rheoli atgyfeiriadau
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel uwchgyfeirio nesaf, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cynnal cydymffurfiaeth o 60% am dri mis yn erbyn y targed ar gyfer achosion posibl o ganser
Gofal a gynlluniwyd
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 3 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau a gynlluniwyd cynaliadwy, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- datblygu cynllun gwella cadarn yn unol â gofynion cenedlaethol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth
- gwella mynediad at ofal a gynlluniwyd gan leihau amseroedd aros yn unol â'r meini prawf isgyfeirio
- cyflawni'r camau galluogi yng nghanllawiau cynllunio 2025 i 2028
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth am brofiad cleifion yn ymwneud â gofal a gynlluniwyd, a sut mae'n ymdrin â nhw, fel rhan o'r cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol
- rhoi cynllun trawsnewid ar gyfer cleifion allanol ar waith yn unol â gofynion y rhaglen gofal a gynlluniwyd.
- dangos tystiolaeth o effaith trefniadau gweithio rhanbarthol
- gweithio gyda rhaglenni cenedlaethol a rhoi eu hargymhellion ar waith, gan gynnwys y Rhaglen Gwella Gofal a Gynlluniwyd a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill
- cefnogi'r broses o roi gofynion y polisi tri A, GiRFT, rhaglenni optimeiddio theatrau, rhaglenni optimeiddio rhwydweithiau gweithredu clinigol ac argymhellion gwella cenedlaethol cysylltiedig ar waith a'u gwireddu
- sicrhau ymatebion effeithiol i arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, a rhaid iddo sicrhau:
- ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon â chleifion mewn perthynas â newidiadau i wasanaethau, polisïau amseroedd aros a darparu cymorth priodol sy'n cadw cleifion yn iach wrth iddynt aros
- bod gan gleifion ddealltwriaeth glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth
- bod buddiannau llwybrau newydd fel profi yn syth, rheoli gofal sylfaenol, hunanreoli a sylw yn ôl symptomau yn cael eu cyfleu'n effeithiol
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 52 wythnos a chynnal hynny am dri mis
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 75% o'r holl lwybrau agored i gleifion allanol amseroedd aros o lai na 26 wythnos
- sicrhau bod gan 100% o lwybrau agored amseroedd aros o lai na 104 wythnos a chynnal hynny am dri mis
- cyflawni gwelliant parhaus tuag at sicrhau bod gan 80% o'r holl lwybrau agored amseroedd aros o lai 36 wythnos
- gwelliant yn nifer y cleifion sy'n wynebu oedi o 100% ar gyfer eu hapwyntiad dilynol am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen Tachwedd 2024)
- sicrhau bod gan 68% o lwybrau cleifion offthalmoleg R1 amseroedd aros sydd o fewn neu heb fod yn hirach na 25% o'u dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a chynnal hynny am dri mis
- sicrhau bod 85% o gleifion sy'n aros am brawf diagnostig yn aros am lai nag 8 wythnos a chynnal hynny am dri mis, gan ganolbwyntio ar wella'r amseroedd aros ar gyfer endosgopi diagnostig, sganiau uwchsain nad ydynt yn ymwneud ag obstetreg a sganiau MRI nad ydynt yn ymwneud ag achosion cardiaidd
- sicrhau bod 90% o gleifion sy'n aros am therapïau yn aros am lai na 14 wythnos a chynnal hynny am dri mis
Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS)
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 3 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer CAMHS yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwasanaethau cynaliadwy, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- datblygu cynllun gwella cadarn yn unol â gofynion cenedlaethol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- cynnal perfformiad CAMHS yn unol â'r safonau a nodir yn y Ddeddf Iechyd Meddwl a'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo wneud y canlynol:
- gweithio gyda'r Rhaglen Diogelwch Cleifion mewnol a rhoi ei hargymhellion ar waith
- sicrhau ymatebion effeithiol i arolygiadau dirybudd gan AGIC, argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos camau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol a'u rhoi ar waith, a rhaid iddo sicrhau:
- ymgysylltu ystyrlon â chleifion mewn perthynas â newidiadau i wasanaethau, polisïau amseroedd aros a darparu cymorth priodol sy'n cadw cleifion yn iach wrth iddynt aros ac y gallant gael gafael ar y lefelau priodol o gymorth
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cynnal 80% o asesiadau iechyd meddwl LPMHSS o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y daw'r atgyfeiriad i law
- dechrau 70% o ymyriadau therapiwtig o fewn 28 diwrnod yn dilyn asesiad gan LPMHSS
- sicrhau bod gan 85% o drigolion y bwrdd iechyd sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gynllun gofal a thriniaeth dilys
- dangos ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau gan AGIC, pryderon, digwyddiadau, digwyddiadau byth, ceisiadau gan y crwner a rheoliad 28s
