Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni gosododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro dechnolegau arbed ynni ar draws sawl safle.
Crynodeb
Yn 2022 i 2023, datblygodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei raglen effeithlonrwydd ynni gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Canolbwyntiodd y fenter ar osod ystod o dechnolegau carbon isel ar draws cyfleusterau gofal iechyd, gwella effeithlonrwydd gweithredol a chyfrannu at amgylcheddau gofal cleifion gwell. Ariannwyd y rhaglen drwy fuddsoddiad aml-flwyddyn o £7.1 miliwn gan Re:fit, a disgwylir i'r mesurau dalu'r gost yn ôl o fewn 8 mlynedd.
Ein cefnogaeth
Darparodd y Gwasanaeth Ynni arolygon technegol a chefnogodd gais llwyddiannus y Bwrdd Iechyd am gyllid Re:fit. Yn sgil hyn, bu modd gosod technolegau arbed ynni mewn sawl safle, gan helpu i leihau costau ynni ac allyriadau carbon wrth wella ansawdd y gofal.
Datrysiad technoleg
- 20,500 o ffitiadau golau LED.
- 2,500 o baneli solar ffotofoltäig (PV).
- 23 o wyntyllau effeithlonrwydd uchel.
- Inswleiddio falf a phibellau.
- Uwchraddio system rheoli ynni adeiladau, gan gynnwys 48 o welliannau rheolydd ynni.
Buddsoddiad
- £7.1 miliwn o gyllid Re:fit wedi'i ddyfarnu dros sawl blwyddyn.
Effaith
- £900,000 o arbedion bob blwyddyn ar filiau ynni.
- Gwell amgylcheddau gofal cleifion, yn enwedig yn yr Ysbyty Plant.
- .Yn cefnogi nodau datgarboneiddio GIG Cymru a chynaliadwyedd hirdymor
Mae gosod y gwelliannau ynni hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r Ysbyty Plant. Mae'n golygu y gallwn ni ofalu am ein cleifion mewn amgylchedd gwell sy'n cynnig cysur a lles iddynt.
Alison Oliver, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth, Gwasanaethau Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
