Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio (diwygiwyd Mehefin 2019).

Diben

Mae'r Bwrdd Newid yn sicrhau bod y rhaglen waith a amlinellir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl (y rhaglen) yn cael ei goruchwylio’n strategol, gan roi sylw penodol i’r tri phrif faes sydd i'w diwygio, sef:

  • y cwricwlwm
  • dysgu proffesiynol
  • atebolrwydd

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gymeradwyo argymhellion ar gyfer penderfyniadau’n ymwneud â’r rhaglen. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ar faterion allweddol a phenderfyniadau a uwchgyfeiriwyd gan Fwrdd Cyflawni'r rhaglen.

Tasgau allweddol

Bydd y bwrdd yn:

  • rhoi sicrwydd ar unrhyw faterion/penderfyniadau a uwchgyfeiriwyd gan y Bwrdd Cyflawni, ac yn
  • adrodd ar y prif agweddau ar berfformiad y rhaglen a llunio adroddiad.

Rolau a chyfrifoldebau

Mae aelodau'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • hyrwyddo'r rhaglen a'i nodau o fewn eu sefydliadau eu hunain ac ymhlith sefydliadau a rhanddeiliaid allanol, a
  • rhaeadru gwybodaeth, camau gweithredu a phenderfyniadau sy'n deillio o gyfarfodydd y Bwrdd i'r timau a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli.

Amlder y cyfarfodydd

Bydd y bwrdd yn cwrdd bob deufis fel arfer, ond cynhelir cyfarfodydd yn fwy aml os bydd angen. Lle bo angen, gellir gwneud penderfyniadau y tu allan i'r cyfarfodydd.

Ysgrifenyddiaeth

Tîm y rhaglen yng Nghyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru fydd yn darparu cymorth gweinyddol i'r bwrdd.

Aelodau

Mae aelodau'r Bwrdd Newid yn cynnwys cynrychiolwyr uwch ar lefel Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr o'r haen ganol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Awdurdodau Esgobaethol, y Consortia Addysg Rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Aelodau

  • Estyn
  • Cymwysterau Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Consortiwm Canolbarth y De (CSC)
  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS)
  • Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
  • Consortiwm Gogledd Cymru (GwE)
  • Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Prifysgolion Cymru
  • Cyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol Cymru
  • Colegau Cymru
  • Llywodraeth Cymru - y Gyfarwyddiaeth Addysg
  • Llywodraeth Cymru - Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
  • Llywodraeth Cymru - Cyfathrebu Strategol a Marchnata ar gyfer Addysg a'r Gymraeg
  • Cynghorydd Annibynnol - yr Athro Graham Donaldson
  • Cynghorydd Annibynnol – Cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru (i'w gadarnhau)
  • Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol