Bwrdd Trosolwg y Cytundeb Cydweithio: 12 Hydref 2023
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Trosolwg ar 12 Hydref 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Rhun ap Iorwerth AS
- Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS
- Cefin Campbell AS
Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol (25 Ionawr 2023)
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod y Bwrdd Trosolwg. Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod diwethaf.
Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd
2.1 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gynnydd ar draws ymrwymiadau’r Cytundeb ers dechrau’r flwyddyn, gan ganolbwyntio ar ddiwygio’r dreth gyngor.
Eitem 3: Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Cydweithio
3.1 Nododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Cytundeb Cydweithio. Byddai fersiwn derfynol yn cael ei nodi gan y Cabinet ar 13 Tachwedd yn amodol ar fân welliannau, gan gynnwys ychwanegiadau yn sgil cyhoeddiadau a ddisgwyliwyd dros yr wythnosau canlynol.
Eitem 4: Diweddariad cyfathrebu
4.1 Amlygodd arweinydd cyfathrebu'r Cytundeb Cydweithio y gweithgarwch cyfathrebu ar y cyd diweddar, gan gynnwys lansio'r Papur Gwyn ar Ddigartrefedd.
Eitem 5: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol
5.1 Diweddarodd Cyfarwyddwr y Cyfansoddiad a Chyfiawnder y Bwrdd ar y craffu a oedd wedi digwydd ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Byddai’r Cwnsler Cyffredinol yn mynychu dwy sesiwn Pwyllgor arall yr wythnos ganlynol.
5.2 Nodwyd y byddai'r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cyfarfod â chyd-gadeiryddion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yr wythnos ganlynol.
