Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Bu'r Bwrdd yn trafod y cynnydd sylweddol a welwyd ers y cyfarfod diwethaf ar draws ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio.

Eitem 3: Y Gyllideb

3.1 Bu'r Bwrdd yn trafod rheoli dyraniadau cyllidebol y Cytundeb Cydweithio yn y flwyddyn bresennol a'r camau nesaf ar ôl cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr.

Eitem 4: Diweddariad cyfathrebu

4.1 Bu'r Bwrdd yn ystyried y gynhadledd i'r wasg ar y cyd a gynhaliwyd i gyd-fynd â chyhoeddi'r adroddiad blynyddol a sesiwn y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog.

Eitem 5: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

5.1 Trafododd y Bwrdd y gwaith datblygu polisi ar ddiwygio'r Senedd er mwyn llywio'r gwaith o baratoi'r ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r mesurau cysylltiedig.