Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2022.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd, gan gynnwys diweddariad ar y Cyd Bwyllgorau Polisi

2.1 Croesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed, y cyflymder oedd yn cael ei weld yn rhai o’r meysydd a chymeradwyodd Gylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgorau Polisi, gan nodi eu bod yn gweithio'n dda.

Eitem 3: Y Gymraeg

3.1 Trafododd y Bwrdd y defnydd o'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio cyfieithu peirianyddol.

Eitem 4: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod cynnig y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar ddiwygio'r Senedd wedi'i basio. Amlinellodd swyddogion y camau nesaf o ran gwaith paratoi ar gyfer y Bil.

Eitem 5: Diweddariad cyfathrebu

5.1 Nododd y Bwrdd y cydweithio cadarnhaol a oedd wedi digwydd ar nifer o gyhoeddiadau a wnaed dros yr wythnosau diwethaf ac amlinellwyd y gwaith paratoi oedd angen digwydd cyn y gynhadledd i'r wasg nesaf ar y cyd.