Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd, yn cynnwys ail gartrefi

2.1 Nododd y Bwrdd y diweddariad cynnydd, gydag Arweinydd Plaid Cymru yn tynnu sylw at y gwaith ar ofal plant fel enghraifft dda.

2.2 Roedd y Bwrdd yn ddiolchgar am y papur yn crynhoi'r maes ail gartrefi, a fyddai'n cael effaith gronnol. Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater hwn yn fanwl yn y cyfarfod nesaf.

Eitem 3: Y Gymraeg

3.1 Cytunodd y Bwrdd fod y papur yn rhoi crynodeb defnyddiol o'r sefyllfa bresennol ac y byddai cyfieithu ar y pryd yn cael ei drefnu ar gyfer Pwyllgorau Polisi a Chyllid y Cytundeb Cydweithio. Byddai cyfarfodydd y Bwrdd Trosolwg a chynadleddau i'r wasg ar y cyd yn mynd rhagddynt ar y sail arferol, ddwyieithog.

Eitem 4: Diwygio'r Senedd a'r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Trafododd y Bwrdd alinio amserlenni ar gyfer cerrig milltir diwygio'r Senedd, a derbyniodd y wybodaeth ddiweddaraf am waith diweddar y Comisiwn Cyfansoddiadol a'r gwaith sydd ar y gweill.