Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

1.1 Trafododd y Bwrdd y gwaith datblygu polisi yr oedd swyddogion wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â diwygio'r Senedd. Nododd y Bwrdd hefyd yr angen i rannu gyda Phwyllgor Busnes y Senedd bersbectif Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion y gofynnwyd i'r Pwyllgor eu hystyried.

Eitem 2: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

2.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw gan nodi bod cofnodion cyfarfodydd Mehefin ac Awst bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Eitem 3: Diweddariad ar gynnydd, gan gynnwys yr amserlen

3.1 Bu'r Bwrdd yn trafod y cynnydd a welwyd ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys diweddariad ar draws pob un o'r 46 ymrwymiad. Canolbwyntiodd y drafodaeth yn bennaf ar yr ymrwymiadau sy'n ymwneud â'r OECD a’r Ysgol Lywodraethu Genedlaethol.

Eitem 4: Adroddiad blynyddol

4.1 Cytunodd y Bwrdd ar ddrafft yr Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cytundeb Cydweithio i'w gyhoeddi tua blwyddyn o ban lofnodwyd y Cytundeb ym mis Rhagfyr, yn amodol ar fân newidiadau.

Eitem 5: Diweddariad cyfathrebu

5.1 Nododd y Bwrdd y gwahanol ymweliadau a’r cyfathrebu ar y cyd a oedd wedi digwydd ers y cyfarfod diwethaf.