Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf heb sylwadau.

Eitem 2: Diweddariad Cynnydd

2.1 Croesawodd y Prif Weinidog y cynnydd diweddar o ran penodi Aelodau Dynodedig a Chynghorwyr Arbennig. Trafododd y Bwrdd restr ddrafft gychwynnol o flaenoriaethau i'w datblygu ar unwaith.

2.2 Myfyriodd y Bwrdd ar y camau nesaf a'r heriau ar gyfer meysydd polisi.

Eitem 3: Pwyllgorau Polisi – Rhagolwg

3.1 Trafododd y Bwrdd yr opsiynau a gyflwynwyd i weithredu'r pwyllgorau polisi. Cytunodd y Bwrdd i gael un pwyllgor polisi sefydlog, a allai fod yn hyblyg ac wedi'i deilwra i bolisïau penodol yn unol â'u hamserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau.

3.2 Trafododd y Bwrdd y Pwyllgor Cyllid.

3.3 Cytunodd y Bwrdd y dylid cael yr amrywiad lleiaf posibl o'r iaith y cytunwyd arni gan y ddwy ochr yn y ddogfen Mecanweithiau pan gafodd y dogfennau, a oedd yn ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio, eu drafftio.

Eitem 4: Diwygio'r Senedd a'r Pwyllgor Cyfansoddiadol

4.1 Trafododd y Bwrdd ddiwygio'r Senedd, gan gynnwys yr ymateb i'r Pwyllgor.