Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Awst 2022 gan ofyn am ddiweddariad ar waith yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Crynhodd swyddogion y cynnydd a wnaed ar draws gwahanol ymrwymiadau dros gyfnod yr haf gan nodi bwriadau ar gyfer y camau nesaf o ran rhaglen waith tan y Nadolig. Nododd y Bwrdd y gweithgarwch sylweddol a oedd yn cael ei ragweld dros dymor yr Hydref a phwysleisiodd yr angen i Weinidogion ac Aelodau Dynodedig wneud cynnydd pellach a chyrraedd pwyntiau penderfynu ar draws gwahanol ymrwymiadau.

Eitem 3: Dull o gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol

3.1 Cytunodd y Bwrdd ar y dull o weithredu wrth baratoi adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio.

Eitem 4: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Diweddarodd swyddogion ar y cynnydd a wnaed ar ddatblygu'r polisi ar gyfer y Bil a'r camau nesaf ar gyfer dod i benderfyniadau ar feysydd allweddol dros yr Hydref i ganiatáu drafftio cyfreithiol.

Eitem 5: Diweddariad cyfathrebu

5.1 Bu'r Bwrdd yn myfyrio ar y gweithgarwch cyfathrebu a oedd wedi digwydd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, gan gynnwys yr ymweliad i gyd-fynd â dechrau'r broses o gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim. Nodwyd hefyd y gweithgareddau oedd ar y gweill.