Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS
  • Siân Gwenllian AS

Ymddiheuriadau

  • Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Bu'r Bwrdd yn trafod y cynnydd sylweddol a welwyd ers y cyfarfod diwethaf ar draws ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio.

Eitem 3: Adroddiad blynyddol – adolygu ac adnewyddu

3.1 Cymeradwyodd y Bwrdd y copi prawf wedi'i ddylunio o'r Adroddiad Blynyddol Cytundeb Cydweithredu cyntaf i'w gyhoeddi ar 1 Rhagfyr, ochr yn ochr â Datganiad Ysgrifenedig. Byddai'r cyhoeddiad yn cael ei nodi gyda chynhadledd i'r wasg ar y cyd.

Eitem 4: Ynni Cymru

4.1 Nododd y Bwrdd y papur gan swyddogion yn amlinellu'r camau nesaf ac ystyriaethau ehangach ar gyfer sefydlu Ynni Cymru.