Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS
  • Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol (15 Rhagfyr 2022)

1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Trafododd y Bwrdd y cynnydd a wnaed ar draws ymrwymiadau’r Cytundeb dros y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf a chytunwyd ar gamau nesaf.

Eitem 3: Diweddariad cyfathrebu

3.1 Bu'r Bwrdd yn ystyried y gwaith cyfathrebu ar y cyd ar y gweill ar gyfer mis Chwefror a thrafodwyd opsiynau posib ar gyfer ymweliad ar y cyd.

Eitem 4: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Trafododd y Bwrdd y gwaith oedd ar y gweill i ddatblygu’r polisi a’r ddeddfwriaeth ar ddiwygio’r Senedd ac amlinellwyd y bwriad ar gyfer y datganiad llafar ar y Comisiwn Cyfansoddiadol yr wythnos ganlynol.