Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd, yn cynnwys yr amserlen

2.1 Roedd y bwrdd yn ddiolchgar am y nodyn ar gynnydd, ac fe groesawyd yr amserlen o’r 46 maes wedi ei diweddaru. Cytunwyd y byddai gwaith ar arferion trosi yn cael ei weithredu ar y cyd fel rhan o’r ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu LGBTQ+.

Eitem 3: Ail gartrefi

3.1 Trafododd y Bwrdd wahanol feysydd polisi’r ymrwymiad ail gartrefi, a nodi’r meysydd ble fydd angen trafodaeth bellach dros yr wythnosau nesaf er mwyn cyrraedd cytundeb ar y penderfyniadau sydd angen eu gwneud.

Eitem 4: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

4.1 Nododd y Bwrdd y cyfarfod defnyddiol a gynhaliwyd gyda Chyd-Gadeiryddion y Comisiwn Cyfansoddiadol ym mis Ebrill, gyda'r cyfarfod nesaf i'w drefnu cyn toriad yr haf. O ran diwygio'r Senedd, nododd y Bwrdd y disgwylid cyhoeddi’r adroddiad gan Bwyllgor Diben Arbennig y Senedd yn fuan, cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mehefin.

Eitem 5: Diweddariad cyfathrebu

5.1 Rhoddodd swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ddyddiadau posibl ar gyfer y gynhadledd nesaf i'r wasg ar y cyd.