Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gynnydd.

Eitem 3: Cymryd stoc

3.1 Nododd y Bwrdd yr adolygiad a gynhaliwyd dros doriad y Pasg a chytunwyd y dylid cynnal ymarfer tebyg yn yr haf.

Eitem 4: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol

4.1 Bu'r Bwrdd yn trafod yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.

Eitem 5: Diwygio'r Senedd a'r Comisiwn Cyfansoddiadol

5.1 Trafododd y Bwrdd ddiwygio'r Senedd gyda swyddogion yn diweddaru bod cynnydd da wedi'i wneud o ran recriwtio i'r tîm a fyddai'n bwrw ymlaen â'r gwaith ar ôl i'r Pwyllgor Diben Arbennig gyflwyno’i adroddiad.

Eitem 6: Diweddariad cyfathrebu

6.1 Myfyriodd y Bwrdd ar y gynhadledd i'r wasg ar y cyd a gynhaliwyd ym mis Mawrth ac roedd yn ddiolchgar am yr holl waith paratoi a wnaed gan swyddogion.