Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Adam Price AS

Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y mynychwyr i'r cyfarfod. Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022.

Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd

2.1 Bu'r Bwrdd yn trafod gwahanol ymrwymiadau dan sylw yn y diweddariad cynnydd ac fe gytunwyd ar y camau nesaf. Roedd trafodaethau pwysig ar y gweill ar ymrwymiadau ar draws y Cytundeb, ond roedd materion yn ymwneud â’r ymrwymiad gofal plant angen eu trafod yn benodol. Roedd y drafodaeth hefyd yn cynnwys ystyried y safbwynt diweddaraf ar y Bil Amaeth ac ar yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol arfaethedig.

Eitem 3: Diwygio’r Senedd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol

3.1 Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Cyfansoddiad a Chyfiawnder ddiweddaru'r Bwrdd ar y cynnydd oedd wedi’i wneud ar ddiwygio'r Senedd.

3.2 Roedd y Comisiwn Cyfansoddiadol yn parhau i weithio ar ei adroddiad interim a’r gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys yn yr Eisteddfod. Roedd cyfarfod pellach rhwng y Cyd-gadeiryddion, y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cael ei drefnu ar gyfer yr hydref.

Eitem 4: Diweddariad cyfathrebu

4.1 Nododd y Bwrdd y cyhoeddiadau cyfathrebu oedd wedi’u gwneud ar y cyd ers y cyfarfod diwethaf.