Neidio i'r prif gynnwy

Y bwriad i gael gwared ar asesiadau papur ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol yng Nghymru a chyflwyno yn eu lle asesiadau  ar-lein arloesol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd mae disgyblion rhwng blwyddyn dau a blwyddyn naw yn sefyll eu profion ar bapur.  Eu bwriad yw dysgu mwy am sgiliau darllen a rhifedd disgyblion er mwyn gweld beth yn union y mae angen i bob plentyn ganolbwyntio arno er mwyn gwella.

Bydd y profion papur yn cael eu disodli gan asesiadau personol newydd a fydd yn cael eu cynnal ar-lein ac wedi'u cynllunio'n benodol i'w defnyddio yng Nghymru. Bydd yr asesiadau newydd yn addasu'n awtomatig lefel y cwestiynau i gyd-fynd â'r unigolyn a fydd yn sefyll y prawf er mwyn cynnig her briodol i bob dysgwr.  

Bydd newid i gynnal y profion ar-lein yn lleihau amser marcio a gweinyddu.

Bydd y manteision yn cynnwys:

  • Asesiadau sydd wedi'u teilwra i ddisgyblion unigol
  • Gwybodaeth fanylach am berfformiad plentyn
  • Adborth cyflymach i athrawon a dysgwyr 
  • Hyblygrwydd i ysgolion brofi dosbarthiadau, grwpiau bach neu unigolion yn unol â'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt ac ar adeg sy'n gweddu iddynt hwy a'u dysgwyr.
Bydd y profion newydd yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd newydd 2018/19.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Diben y profion hyn yw codi safonau drwy ddangos y camau nesaf mae angen i ddysgwyr eu cymryd wrth ddysgu. Bydd symud tuag at asesiadau personol ar-lein ar gyfer darllen a rhifedd o fudd i ddisgyblion, rhieni ac athrawon fel ei gilydd.

"Bydd y disgyblion yn gwneud asesiadau a fydd yn addasu i'w hanghenion a'u sgiliau. Byddant hefyd yn elwa ar y marcio awtomatig a bydd ysgolion yn derbyn adborth yn gynt nag o'r blaen ac yn cael gwell darlun o'r hyn y gallant ei wneud i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen.

"Mae'r dull hwn wedi'i deilwra i Gymru. Mae'n dangos sut rydyn ni'n buddsoddi yn ein hysgolion i fwrw ymlaen â'n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg er mwyn gwella safonau a sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag ei gefndir, yn cael y cyfle i wireddu ei botensial."