Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd ymarfer yn cael ei gynnal i brofi’r cynlluniau wrth gefn i fynd i’r afael ag achos o Glwy’r Traed a’r Genau. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr milfeddygol yn gweithio mewn partneriaeth â’u cyfoedion yn y gweinyddiaethau datganoledig, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i greu dynwarediad amser real o achosion clwy’r traed a’r genau. Bydd yn cael ei alw yn ‘Exercise Blackthorn’.

Bydd yr ymarfer yn cynnwys nifer o ymarferion desg, fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Bydd ymarfer byw a fydd yn cymryd deuddydd yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Ebrill. 

Bydd ‘Exercise Blackthorn’ yn dynwared achos o Glwy’r Traed a'r Genau ar raddfa ganolig i raddfa fawr, sydd wedi lledaenu o Loegr i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag o fewn Lloegr.
Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop: 

“Mae cael cynlluniau wrth gefn sy’n effeithiol, yn hanfodol i reoli’r ffordd y mae achosion o Glwy’r Traed a'r Genau yn lledaenu. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gofyn am hynny hefyd.

“Rhaid i effeithlonrwydd ein cynlluniau gael ei brofi yn llawn er mwyn i ni gael syniad o ba mor barod ydyn ni am achos o’r fath. Bydd Exercise Blackthorn yn cynnig cyfle i nodi unrhyw broblemau a gwelliannau yn y polisïau, cynlluniau, cyfarwyddiadau a gweithdrefnau sydd ar waith gennym wrth reoli achos o glefyd.”