Sut rydym yn bwriadu newid cofrestru gwartheg ac adrodd symud.
Cynnwys
Beth sy’n newid?
Bwriedir symud y broses cofrestru gwartheg a chofnodi symudiadau yng Nghymru oddi wrth Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) a'r System Olrhain Gwartheg (CTS) i EIDCymru.
EIDCymru yw'r system adnabod da byw yng Nghymru sydd eisoes yn rheoli cofnodi symudiadau defaid, geifr a cheirw. Y bwriad yw creu un system Gymreig ar gyfer cofrestru da byw a chofnodi symudiadau.
Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni (gaeaf 2026).
Beth mae hyn yn ei olygu i geidwaid gwartheg?
Am y tro, does dim byd yn newid.
Dylech barhau i:
- gofrestru genedigaethau gwartheg
- rhoi gwybod am symudiadau gwartheg
- rhoi gwybod am farwolaethau gwartheg
trwy BCMS, yn union fel rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd.
Pan fydd y newid yn digwydd yn y dyfodol:
- bydd ceidwaid gwartheg yng Nghymru yn rhoi gwybod am gofrestriadau a symudiadau gwartheg drwy EIDCymru yn hytrach na BCMS neu CTS Ar-lein
- bydd cymorth ac arweiniad ar gael
- byddwch yn cael gwybodaeth glir am yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Ni fydd disgwyl i neb newid systemau heb rybudd.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Mae'r symud i EIDCymru ar gyfer ceidwaid gwartheg Cymru wedi'i gynllunio ar gyfer hwyrach eleni, ond dyw'r union ddyddiadau ddim ar gael eto.
Byddwch yn:
- cael gwybod am y trefniadau ymhell ymlaen llaw
- cael cyfarwyddiadau ac arweiniadau clir
- cael cefnogaeth drwy'r newid
Peidiwch â cheisio cofrestru gwartheg ar EIDCymru eto - mae adrodd am wartheg yn parhau i fod gyda BCMS am y tro.
A fydd angen i mi ddysgu sgiliau newydd?
Mae EIDCymru eisoes yn cael ei ddefnyddio gan lawer o ffermwyr yng Nghymru ar gyfer cofnodi symudiadau defaid, geifr a cheirw.
Bydd canllawiau a chymorth ar gael i helpu ceidwaid gwartheg, gan gynnwys:
- canllawiau ar-lein
- cyfarwyddiadau camwrthgam
- cymorth i'r rhai sydd ei angen
Beth am fy nghofnodion gwartheg?
Bydd eich cofnodion gwartheg yn parhau i gael eu rheoli'n ddiogel ac yn briodol.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd data gwartheg yn trosglwyddo i EIDCymru yn cael ei rhannu'n agosach at amser y newid.
Beth os nad ydw i'n defnyddio'r rhyngrwyd?
Bydd cymorth ffôn yn parhau i fod ar gael.
Ni fydd yn ofynnol i chi reoli cofnodion gwartheg ar-lein heb gymorth.
Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Am y tro, dylai ceidwaid gwartheg yng Nghymru:
- barhau i ddefnyddio BCMS fel arfer
- cadw'ch CPH a'ch manylion cyswllt yn gyfredol gydag EIDCymru, BCMS a RPW Ar-lein
- Cadwch lygad am ddiweddariadau swyddogol gan Lywodraeth Cymru ac EIDCymru
Bydd cadw'ch manylion cyswllt yn gyfredol yn helpu i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Ble alla' i gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch wneud y canlynol:
- cysylltu ag EIDCymru os oes gennych gwestiynau
- gwirio LLYW.CYMRU am ddiweddariadau swyddogol
- parhau i ddefnyddio BCMS nes i ni ddweud wrthych fel arall
Byddwn yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i fwy o fanylion gael eu cadarnhau.
Bydd ceidwaid yn cael arweiniad clir, digon o rybudd, a chefnogaeth cyn unrhyw newid.
