Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn galw ar bawb i “chwarae eu rhan” i gael gwared ar sbwriel a thipio anghyfreithlon o ddinasoedd, moroedd a chefn gwlad Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (dydd Iau, 28 Ionawr), lansiodd y Gweinidog gynllun newydd: ‘Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio’, sy’n amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â’r broblem, gan wahodd pawb yng Nghymru i gyflwyno eu syniadau ar sut i wneud hynny.

Dywedodd y Gweinidog:

Nid oes esgusodion dros daflu sbwriel a thipio. Rwyf am weld diwedd i’r ymddygiadau gwrthgymdeithasol hyn sy’n difetha ein strydoedd, ein traethau a’n cefn gwlad, gyda’r cyhoedd yn aml yn ysgwyddo’r gost glanhau. 

Yn ogystal â’i olwg hyll a’r ffaith ei fod yn difetha ein mwynhad o’n trefi a’n cefn gwlad, mae sbwriel – yn enwedig sbwriel plastig a thipio anghyfreithlon – yn effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant ac yn bygwth bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru, gan beryglu eu colli nid yn unig i genedlaethau’r dyfodol ond i bawb sy’n byw yng Nghymru heddiw.

Mae nodau’r cynllun yn uchelgeisiau pellgyrhaeddol, a bydd gorfodi yn chwarae rôl allweddol, ond nid yw gorfodi ar ei ben ei hun yn ddigon i fynd i’r afael â’r materion hyn. Bydd angen i bawb chwarae eu rhan ar bob lefel cynhyrchu, defnyddio a gwaredu nid yn unig i leihau sbwriel ond i atal eitemau rhag dod yn sbwriel yn y lle cyntaf.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Ers dechrau pandemig Covid-19, mae llawer o bobl wedi achub ar y cyfle yn ystod y cyfnod clo i fynd am dro yn eu hardaloedd lleol a mannau gwyrdd yn agos i’w cartrefi ond yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld masgiau untro wedi’u taflu ar hyd y lle a’r Ymddiriedolaeth ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn apelio i bobl beidio â gwaredu eu sbwriel yn y mannau prydferth hyn.

Mae golygfeydd o’r fath yn dystiolaeth bod angen cyflwyno trefniadau newydd i helpu i fynd i’r afael â’r ddwy broblem hyn, ac i annog pobl i waredu eu sbwriel yn iawn yn ogystal ag ystyried dewisiadau eraill yn hytrach nag eitemau untro a thafladwy.

Mae sawl strategaeth eisoes ar waith i helpu i leihau faint o eitemau gwastraff sy’n cael eu gwaredu’n anghywir neu’n anghyfreithlon yng Nghymru, a symud tuag at ddefnyddio cynhyrchion mwy cynaliadwy, gan gynnwys cynlluniau uchelgeisiol i stopio defnyddio plastigion untro yng Nghymru.

Mae rhai o’r camau gweithredu sydd yn y cynllun newydd yn cynnwys:

  • Cymell busnesau i gynhyrchu pecynnau mwy ecogyfeillgar;
  • Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes i helpu i leihau faint o gynwysyddion diodydd sy’n cael eu taflu fel sbwriel;
  • Gwella sut y caiff achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat a chyhoeddus eu monitro a’u hadrodd;
  • Lansio ymgyrch gwrth-sbwriel genedlaethol i godi ymwybyddiaeth;
  • Adolygu’r trefniadau gorfodi presennol ar gyfer sbwriel a thipio anghyfreithlon, gan gynyddu cosbau pe bai angen; gan gynnwys edrych ar sut y gallai Cymru gyflwyno deddfwriaeth i atal pobl rhag taflu sbwriel o gerbydau sy’n symud.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 25 Mawrth.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus:

Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn cael effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sylweddol a phellgyrhaeddol ar gymunedau. Credwn yn gryf fod angen dull sy'n seiliedig ar atal os ydym am fynd i'r afael â'r materion hyn yn effeithiol a chroesawn yr ymgynghoriad pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae'n ddatblygiad cyffrous a fydd, gobeithio, yn arwain at benderfyniadau polisi beiddgar a chydweithio ar draws sectorau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. Byddwn yn chwarae ein rhan gyda Caru Cymru, sy’n brosiect partneriaeth uchelgeisiol newydd gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o annog cymunedau i gymryd camau i gael gwared ar sbwriel o'n tirwedd.

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru:

Mae Taclo Tipio Cymru yn croesawu'r ymrwymiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru drwy Gynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon cyfun.

Mae tipio anghyfreithlon yn cael effeithiau negyddol eang ar yr amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol yng Nghymru. Mae dull cydweithredol yn hanfodol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, ac rydym yn annog y cyhoedd a'r holl fusnesau a sefydliadau perthnasol i rannu eu barn drwy ymateb i'r ymgynghoriad hwn.

Mae'r Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yn rhoi cyfleoedd inni ychwanegu at y cynnydd a wnaed hyd yma o ran mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at gydweithio â'n partneriaid tuag at gyflawni ei nodau.