Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. Bydd y cynllun yn parhau ar gyfer unigolion sy’n dewis astudio rhaglen gymwys ym maes gofal iechyd yng Nghymru, gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2020/2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er bod y cynllun bwrsariaeth – ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd – wedi’i ddileu yn Lloegr yn 2017, bydd y pecyn llawn yn dal ar gael yng Nghymru i’r rhai a fydd yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau’r fwrsariaeth hyd at 2021 i fyfyrwyr a darparwyr, a fydd yn eu galluogi i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Bydd yr estyniad yn golygu y bydd modd cynnal gwaith ymgysylltu sylweddol gyda rhanddeiliad yn ystod y misoedd nesaf, gan weithio ar sail yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd. Bydd hefyd yn caniatáu i’r Gweinidog wneud penderfyniadau, ar sail gwybodaeth lawn, am y trefniadau ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn y dyfodol. Os hoffech gael gwybod am y gweithgareddau ymgysylltu sydd i’w cynnal, anfonwch eich manylion i nhsbursary@llyw.cymru.

Mae’r fwrsariaeth yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Drechu Tlodi, trwy gynnig cyfleoedd am yrfa yn y GIG i rai na fyddai, o bosibl, wedi gallu fforddio talu am eu hastudiaethau neu gostau cysylltiedig fel costau gofal plant. Mae’r cynllun hefyd yn galluogi unigolion i helpu i ddarparu’r gwasanaethau yn ystod eu hyfforddiant, sy’n golygu y gallant feithrin eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth gynorthwyo cleifion ar adeg sy’n gallu bod yn anodd iddynt.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Yng Nghymru rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn hyfforddiant y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd.  Trwy estyn y pecyn cymorth hwn, rwy am ddangos pa mor werthfawr yw ein gweithlu gofal iechyd inni a pha mor benderfynol yr ydyn ni o’u cefnogi drwy gydol eu cyfnod astudio. 

“Rydyn ni hefyd yn cymryd camau positif i ddenu mwy o weithwyr iechyd proffesiynol o rannau eraill o’r DU ac o lefydd eraill drwy ein hymgyrch farchnata ‘Gwlad Gwlad – Hyfforddi, Gweithio, Byw’ sy’n dangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Bydda i’n mynd ati nawr i ystyried pa drefniadau y gellir eu sefydlu yn y tymor hwy wrth inni ddal ati i ddatblygu ein gweithlu.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae’n newyddion gwych bod y cynllun bwrsariaeth wedi’i estyn yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i ddenu gweithwyr proffesiynol medrus i Gymru ac i’w cadw ar ôl iddyn nhw fod yn astudio yma. Mae’r fwrsariaeth yn ategu ein pecyn ariannu ar gyfer myfyrwyr, sydd wedi ei wella – yr un mwyaf hael yn y DU.”