Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi canmol llwyddiant Clwstwr Bwyd Môr Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar ôl i bedwar aelod ennill gwobrwyon Great Taste.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwobrwyon Great Taste, dan nawdd The Guild of Fine Food, yw’r meincnod a gydnabyddir ar gyfer bwyd a diod o safon uchel. Cyfeirir atynt yn aml fel ‘Oscars’ y byd bwyd. Eleni, enillodd sawsiau, halen môr ac, am y tro cyntaf erioed, bysgod cregyn o Gymru le ar restr fer y cynhyrchwyr a gafodd tair seren, dwy seren ac un seren.

Enillodd Cardigan Bay Fish dair gwobr: dwy seren am ei seigiau crancod ac un am ei paté macrell. 

Enillodd cwmni Halen Môn o Ynys Môn dair gwobr hefyd: dwy seren am ei halen gwyn pur, un seren am ei halen fanila ac un seren am ei halen umami. Enillodd bwyty Dylan ar Ynys Môn seren yr un am ddau o'i sawsiau, sef menyn caramel hallt a chili melys Thai.  

Bachodd Pembrokeshire Beach Food un seren am ei gyfres o berlysiau môr, Dulse Sea Herbs.

Mae’r pedwar cwmni llwyddiannus hyn yn aelodau o Glwstwr Bwyd Môr Cymru. Dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae’r clwstwr yn dod â busnesau pysgodfeydd uchelgeisiol at ei gilydd i rannu arferion gorau, elwa ar gyngor gan arbenigwyr a chael cymorth i greu swyddi a thwf cynaliadwy. 

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae bwyd môr Cymru yn rhan bwysig iawn o’n diwydiant bwyd a diod. Mae gennym gynlluniau mawr i ehangu’r sector 30% erbyn 2020 a bydd ein cwmnïau bwyd môr yn chwarae rôl allweddol wrth ein helpu ni i gyflawni’r nod uchelgeisiol hwn.

“Mae’n newyddion gwych bod pedwar aelod o’n Clwstwr Bwyd Môr wedi ennill gwobrwyon yn seremoni Great Taste. Mae hyn yn dangos llwyddiant ein gwaith o ddatblygu a chynnal y Clwstwr. Hoffwn i longyfarch yn bersonol y pedwar cwmni buddugol yn ogystal â gweddill ein cwmnïau cynhyrchu bwyd a diod ardderchog a gafodd eu canmol yn ystod y seremoni.

“Wrth inni geisio denu marchnadoedd allforio newydd, mae hyn yn dyst bod Cymru yn creu enw da iddi’i hunan ar gyfer bwyd a diod unigryw o safon uchel iawn."

Dywedodd Caroline Dawson, Rheolwr Clwstwr:

“Llongyfarchiadau mawr i aelodau’r Clwstwr Bwyd Môr am ennill gwobrwyon Great Taste, tipyn o gamp. Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael blasu’r cynhyrchion. Maen nhw'n llawn haeddu eu gwobrwyon ac maen nhw’n gosod y safon ar gyfer y diwydiant.”

Dywedodd Mandy Walters o Cardigan Bay Fish:

"Pwy fasai wedi meddwl? Cwmni bach o Aberteifi yn ennill gwobr Great Taste. Fedra i mo’i chredu ac dw i’n dal mewn sioc. Ar ôl mynd i weithdy a drefnwyd drwy’r clwstwr bwyd môr, mi wnes i fentro cystadlu gyda tri chynnyrch.  Y tu hwnt i bob disgwyl, des i adref gyda thair gwobr. Dw i’n edrych ymlaen at weld y sticeri ar fy nghynhyrchion."