Bydd prosiect, sydd wedi gweld meddalwedd iPad yn cael ei datblygu i ganfod problemau golwg mewn plant ifanc, yn cael ei estyn.
Mae prosiect a noddir gan yr UE, sydd wedi helpu busnesau mewn rhai rhannau o Gymru i ddatblygu technolegau arloesol a chynyddu cynhyrchiant, yn ehangu i gynnwys yr holl wlad.
Cafodd y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET) ei lansio yn 2016, ac mae eisoes wedi helpu i ddatblygu meddalwedd iPad i ganfod problemau golwg mewn plant ifanc, system rithwir sy'n gwella diogelwch ar gyfer plant a gweithwyr ar reilffyrdd, a chynnyrch sy'n cyfathrebu â phlant drwy gymeriad anifail sy'n cael ei weithredu o bell sy'n ymddangos ar sgrin deledu, ymhlith datblygiadau arloesol eraill ym myd uwch-dechnoleg.
O dan arweinyddiaeth Prifysgol De Cymru, a chyda chymorth £4.3 miliwn o gyllid gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru, mae CEMET wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau yn y Cymoedd, y Gorllewin a'r Gogledd dros y ddwy flynedd diwethaf. Bydd £1.2 miliwn arall o gyllid gan yr UE, a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn galluogi cwmnïau ledled Cymru i elwa ar yr arbenigedd. Mae CEMET Cymru gyfan bellach yn brosiect £8.9 miliwn, gyda £5.5 miliwn o gyllid gan yr UE, a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2023.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Bydd yr ehangu hwn yn gweld CEMET yn adeiladu ar y cymorth mae eisoes wedi'i roi i nifer o fusnesau bach a chanolig i ddylunio a threialu technolegau symudol newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, er mwyn creu cynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn arwain at lwyddiant masnachol.
Mewn tirwedd fusnes sy'n newid drwy'r amser, mae technolegau symudol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn chwarae rhan gynyddol bwysig ar gyfer cwmnïau, ac mae'n wych gweld y Llywodraeth, prifysgolion a busnesau'n gweithio gyda'i gilydd i chwilio am ddatrysiadau a datblygiadau arloesol sydd o fudd gwirioneddol i gwmnïau, defnyddwyr a'r cyhoedd yn ehangach.
Mae'r pecyn cymorth cynhwysfawr hwn eisoes wedi gweld nifer o fusnesau'n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n arloesol, ac sydd mewn rhai achosion wedi gwneud newid gwirioneddol i fywydau pobl. Gyda'r cyllid diweddaraf hwn gan yr UE, a oedd ei angen yn fawr iawn ac a fydd yn caniatáu i'r gwaith amhrisiadwy hwnnw gyrraedd pob cwr o Gymru, rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect yn cyfrannu at ragor o lwyddiannau busnes yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."
Dywedodd Mark Griffiths, Cyd-gyfarwyddwr CEMET:
"Ers iddo gael ei lansio, mae'r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ac wedi rhoi cymorth i fusnesau bach a chanolig sydd bellach yn ehangu'n gyflym.
Er enghraifft, mae Motion Rail yn defnyddio technoleg rithwir arloesol i helpu plant i ddeall peryglon y rheilffyrdd, tra bo afatar Evoke Education, sef Moe, wedi llwyddo i annog plant nad oeddent yn siarad i siarad, ac mae'r sector cyfreithiol ac arbenigwyr seicoleg plant wedi dangos diddordeb yn y cynnyrch.
Rydym hefyd wedi gweithio gyda chwmni sydd wedi cyflwyno Realiti Estynedig i fanwerthwyr stryd fawr lleol yn Ne Cymru, ac mae'n paratoi i lansio'r cynnyrch ledled y wlad.
Gyda chymorth y cyllid hwn, mae'r entrepreneuriaid hyn wedi llwyddi i ddatblygu eu syniadau a'u cynhyrchion arloesol, ac i ehangu eu busnesau.
Gan ein bod ni bellach yn gweithredu ledled Cymru, bydd CEMET yn gallu darparu cymorth i ragor o fusnesau bach a chanolig, i'w galluogi i ddatblygu eu syniadau a'u troi yn gynnyrch sy'n barod ar gyfer y farchnad."
Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE wedi creu 45,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, wrth hefyd helpu dros 85,000 o bobl i gael swyddi.