Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae deddfwriaeth newydd wedi cael ei phasio yn y Senedd a fydd yn moderneiddio ac yn symleiddio'r broses y tu ôl i ddatblygu prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Bil Seilwaith (Cymru) newydd, a gafodd ei gyflwyno yn y Senedd ym mis Mehefin 2023, yn gwneud newidiadau mawr i'r fframwaith deddfwriaethol ac yn cyflymu'r broses gydsynio ar y tir ac ar y môr tiriogaethol.

Gelwir y ffurf newydd o gydsyniad yn 'Gydsyniad Seilwaith' a bydd yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith Arwyddocaol, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff a dŵr, ymhlith mathau eraill o seilwaith.

Bydd y broses gydsynio unedig yn creu rhagor o gysondeb a sicrwydd o ran gallu Cymru i sicrhau, datblygu a denu rhagor o fuddsoddiadau mewn seilwaith. 

Wrth annerch y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio: 

"Mae proses gydsynio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol er mwyn cyflawni prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'n huchelgeisiau sero-net.

"Nid yn unig y bydd yn gwella cystadleurwydd Cymru fel lle deniadol ar gyfer buddsoddi a swyddi, bydd hefyd yn grymuso cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill drwy ddarparu cyfleoedd cadarn i gymryd rhan mewn proses agored a theg i helpu i gyfrannu at ddatblygiadau sy'n effeithio arnynt."

Bydd y Bil hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy wrth inni symud tuag at allyriadau sero-net erbyn 2050, gan alluogi cydsynio i brosiectau ynni adnewyddadwy mewn modd cadarn ond prydlon.

I sicrhau bod y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gweithredu mewn ffordd ddidrafferth, bydd papurau ymgynghori'n cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y gwanwyn.

Bydd y papur ymgynghori cyntaf yn canolbwyntio ar y broses ymgynghori cyn-ymgeisio, a bydd yn alwad am dystiolaeth i randdeiliaid, cymunedau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn ceisio syniadau ac awgrymiadau o ran sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

Bydd yr ail bapur ymgynghori'n canolbwyntio ar y ffioedd am y broses gydsynio. 

Anogir cymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau i helpu i gyfrannu at ddatblygiadau sy'n effeithio arnyn nhw. 

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen: 

"Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid wrth i'r is-ddeddfwriaeth gael ei datblygu i helpu i sicrhau bod y broses gydsynio ar gyfer seilwaith yn gweithredu mewn ffordd effeithiol, effeithlon a chyda chymaint o gyfranogiad ag y bo modd."