Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud y bydd pwerau newydd i ymdrin â llygredd aer a sŵn yn arwain at Gymru lanach, iachach a gwyrddach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ddydd Llun 20 Mawrth, gan roi mwy o allu i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn.

Mae'r Bil newydd yn rhan o becyn o fesurau i wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru.

Bydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau hirdymor newydd ar gyfer ansawdd aer dan fframwaith cenedlaethol a fydd yn ystyried yr wybodaeth wyddonol ddiweddaraf gan gynnwys Canllawiau Ansawdd Aer Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd y Bil yn helpu i greu parthau allyriadau isel ar gefnffyrdd Llywodraeth Cymru lle bo angen, a bydd yn rhoi mwy o bŵer i awdurdodau lleol fynd i'r afael â cherbydau sy'n segura.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae ein Rhaglen Lywodraethu'n nodi ymrwymiad i gyflwyno Bil Aer Glân i Gymru ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y cam cyntaf yn ein taith ddeddfwriaethol a fydd yn arwain y ffordd at ddyfodol glanach, iachach a gwyrddach."

"Drwy gyflwyno'r Bil hwn, ein huchelgais yw gwella ansawdd aer a seinweddau ymhellach drwy gyflwyno mesurau newydd i leihau effeithiau llygredd aer a sŵn ar iechyd pobl, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol."

"Mae maint a chwmpas y Bil yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella ansawdd ein hamgylchedd aer ar lefel Cymru gyfan, ar lefel lleol a rhanbarthol ac ar draws cymdeithas.

Mae'r Bil hefyd yn cynnig rhwymedigaeth flaengar ar Weinidogion Cymru i gyflwyno strategaeth seinweddau genedlaethol. Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i wneud yr ymrwymiad hwn.

Bydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud polisïau sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â sŵn nad oes ei eisiau, ond hefyd yn amddiffyn synau sy'n bwysig i bobl, fel galwadau hamddenol cân adar a byd natur, neu seiniau croesawgar canol tref fywiog.

Mae'r strategaeth seinweddau yn ymateb i wyddoniaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiau seiniau ar ein hiechyd a'n llesiant, yn ogystal ag ar effaith anifeiliaid. Os caiff ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynlluniau o'r fath.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton:

"Mae tystiolaeth gref yn dangos bod dod i gysylltiad â llygredd aer yn gallu cynyddu'r risg o salwch difrifol a gall sŵn diangen neu niweidiol achosi niwed i'n clyw yn ogystal â lleihau ansawdd ein bywydau.

"Rydym eisoes yn cymryd camau ar draws y llywodraeth i wella'r aer rydym yn ei anadlu ac yn hyrwyddo seinweddau iach.

"Mae'r Bil yn mynd ymhellach a'i nod yw gwneud ein haer yn lanach a'n hamgylcheddau sain yn well. Dyna pam yr wyf yn cefnogi Bil Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) Cymru yn llawn."

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru:

"Dylen ni allu cerdded i lawr y stryd gan wybod bod yr aer rydyn ni'n ei anadlu yn ddiogel ac yn iach. Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gyflwynwyd i'r Senedd heddiw, yw'r cam nesaf hollbwysig i wneud i hyn ddigwydd.

"Mae llygredd aer yn un o'r materion iechyd cyhoeddus mwyaf dybryd rydym yn ei wynebu, gan gyfrannu at farwolaethau dros 2000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru. Mae'n effeithio ar y mwyaf bregus yn ein cymdeithas sydd wedi gwneud y lleiaf i'w achosi, ac mae'n arbennig o niweidiol i ysgyfaint sy'n datblygu ein plant. Ar ben hynny, mae'n ddrwg i'r blaned, gan fod rhai o'r llygryddion aer sy'n cael eu gollwng gan ein cerbydau yn achosi i'r hinsawdd gynhesu.

"Mae'r ddeddfwriaeth aer glân hon nid yn unig yn fuddugoliaeth aruthrol i ysgyfaint pobl Cymru ond hefyd yn garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at ddyfodol mwy gwyrdd ac iach, lle rydym yn cerdded ac yn beicio mwy ac yn defnyddio'r car yn llai. Rydym yn galw ar bob plaid i gydweithio i wneud y Bil hwn mor gryf â phosib."