Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheolau newydd i warchod gweithwyr yn ystod yr achosion o goronafeirws yn dod i rym fore dydd Mawrth, cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rheoliadau’n golygu y bydd y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, lle mae gwaith ac atgyweiriadau’n cael eu gwneud a gofod awyr agored. Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i’r gweithleoedd hynny nad ydynt yn dod o dan y rheolau aros gartref gwreiddiol a gyflwynwyd bron i bythefnos yn ôl.          

Bydd rhaid i bob busnes weithredu pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl yn yr eiddo pan mae gwaith yn cael ei wneud. Bydd cyfarwyddyd yn cael ei gyhoeddi i esbonio beth ellir ei ddisgwyl yn rhesymol gan gyflogwyr a busnesau.

Mae’r rheolau am bwy all fynychu angladdau’n cael eu llacio ond bydd y rheol 2m yn golygu y bydd cyfyngiad o ran uchafswm y bobl sy’n gallu eu mynychu.            

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Rydyn ni wedi gofyn i bobl aros gartref, achub bywydau a gwarchod y GIG. Mae’r cyfyngiadau dros dro hyn ar gyfarfodydd a symudiad pobl yng Nghymru’n rhan bwysig o’n hymdrechion ni i helpu i warchod y cyhoedd rhag lledaeniad coronafeirws.

Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau bod gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle, drwy sicrhau bod y mesurau cadw pellter cymdeithasol rydyn ni wedi’u sefydlu hefyd yn berthnasol yn holl fannau gwaith pobl.

Bydd cyfarwyddyd manwl yn cael ei gyhoeddi pan ddaw’r rheoliadau newydd i rym wythnos nesaf. Ond mae llawer o sefydliadau a chyrff cynrychioliadol wedi cyhoeddi cyngor eisoes am sut gellir cadw at gadw pellter cymdeithasol mewn gwahanol amgylcheddau, gan gynnwys adeiladu a gweithgynhyrchu. 

Hefyd mae’r rheoliadau newydd yn esbonio’r trefniadau ar gyfer angladdau ac amlosgfeydd – gall pobl fynychu angladdau os ydynt yn berson sydd wedi trefnu’r angladd, os ydynt wedi cael gwahoddiad i fynychu neu os ydynt yn ofalwr i berson sy’n mynychu angladd.

Ond bydd cyfyngiad ar nifer y bobl sy’n gallu mynychu, gan ddibynnu ar faint o bobl y mae’r lleoliad yn ei ddal a chan ystyried y rheol 2m.

Dylai pawb sy’n mynychu angladd gymryd pob mesur rhesymol i gadw 2m oddi wrth bobl nad ydynt yn byw gyda hwy nac yn gofalu amdanynt, a dylai’r rhai sy’n gyfrifol am reoli’r amlosgfa, y man addoli neu’r fynwent wneud trefniadau i gynnal y rheol 2m.

Mae’r cyfarwyddyd ar angladdau’n esbonio y gall mynwentydd barhau ar agor ond rhaid rhoi ystyriaeth i gadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â’r angen am gymryd pob mesur rhesymol er mwyn cynnal y rheol 2m mewn claddedigaethau.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James:

Mae marwolaeth aelod o’r teulu neu ffrind yn ddigwyddiad gofidus iawn a dyma pam rydyn ni wedi diwygio’r rheoliadau fel bod pobl yn gallu mynychu angladdau o dan amgylchiadau penodol.

Er y bydd pobl yn gallu gadael eu cartref i fynd i angladd yn ystod yr achosion o goronafeirws, gofynnwn iddynt ddeall bod rhaid i ni osod cyfyngiadau ar nifer y bobl all fynychu angladd er mwyn helpu i leihau lledaeniad coronafeirws.

Ein cyngor yw mai dim ond angladdau teulu a ffrindiau agosaf ddylai pobl eu mynychu a dim ond os ydynt wedi cael gwahoddiad y gallant wneud hynny. Ond mae sawl ffordd o gynnwys teulu a ffrindiau ehangach, er enghraifft, drwy ffrydio’r angladd yn fyw neu drwy drefnu digwyddiad coffa neu ddathliad o fywyd unwaith y bydd y pandemig wedi dod i ben.

Mae’r rheolau aros gartref, a gyflwynwyd bron i bythefnos yn ôl, yn golygu y dylai pobl aros gartref. Gallant fynd allan ar gyfer y canlynol:

  • siopa ar gyfer angenrheidiau a chyflenwadau sylfaenol, a dylai hynny fod mor anaml â phosib
  • ymarfer unwaith y dydd – er enghraifft, rhedeg, cerdded neu feicio – ar eu pen eu hunain neu gydag aelodau eu teulu
  • cael sylw meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu person agored i niwed
  • teithio i ac o’r gwaith, ond dim ond os nad ydynt yn gallu gweithio o gartref yn rhesymol

Dylai pobl gadw o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd bob amser.   

Nid yw cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy’n cynnwys mwy na dau o bobl mewn llefydd cyhoeddus yn cael ei ganiatáu ac eithrio o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn, er enghraifft, lle mae’n hanfodol at ddibenion gwaith.