Mae tram-drenau newydd a fydd yn chwyldroi trafnidiaeth yn ne Cymru bellach yn eu cam olaf o brofion cyn cael eu cyflwyno i wasanaeth ar rai o Linellau Craidd y Cymoedd y gwanwyn hwn.
Mae gan y Tram-Drenau Dosbarth 398, sy'n rhan o fuddsoddiad o £800 miliwn Llywodraeth Cymru mewn trenau newydd sbon ledled Cymru a'r Gororau, y gallu unigryw i redeg ar linellau rheilffordd a thramiau, gan gynnig teithiau amlach a chyflymach, camu i mewn gwastad, aerdymheru modern, socedi pŵer, sgriniau gwybodaeth gwell i deithwyr ac ardaloedd aml-ddefnydd ar gyfer beiciau a chadeiriau olwyn.
Bydd y 36 o drenau newydd sbon yn rhedeg ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert, gan deithio i Gaerdydd a Bae Caerdydd.
Wrth siarad ar ymweliad â depo Ffynnon Taf lle bydd y tram-drenau newydd yn cael eu lleoli, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Gwella trafnidiaeth ledled Cymru yw un o'm prif flaenoriaethau – buddsoddi mewn trafnidiaeth o ansawdd uchel, sy'n fwy dibynadwy, yn fwy cyfleus ac yn fwy pleserus i'w defnyddio.
"Rwy'n falch iawn fod teithwyr bellach yn profi manteision sylweddol ein buddsoddiad ym Metro De Cymru gyda gwasanaethau gwell, trenau newydd sbon a chyfleusterau gwell ar y trac ac oddi arno. A chyda dyfodiad y tram-drenau newydd yn y gwanwyn mae'n gyfnod cyffrous i drafnidiaeth yng Nghymru.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Mae'r dyfodol i reilffyrdd yng Nghymru yn ddisglair – trenau modern, gwasanaethau cyflymach a mwy rheolaidd a thram-drenau chwyldroadol yn dod i lawr y trac – mae ein gweledigaeth o greu system drafnidiaeth sy'n gynaliadwy, hygyrch, effeithlon, ac yn diwallu anghenion ein holl gymunedau bellach yn dod yn realiti.
"Ond nid hyn yn unig; o fis Mai bydd gwasanaethau ar draws prif reilffordd Gogledd Cymru yn cynyddu 50%, gyda chynnydd o 100% mewn gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer a chyflwyno technoleg Talu wrth Fynd yng ngogledd Cymru eleni hefyd."
