Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y bydd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhywogaethau penodol o adar yng Nghymru yn cael ei godi, a hynny o 15 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd y gwaharddiad dros dro ym mis Rhagfyr 2016, ar ôl datgan bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar. Gnwaed  hynny ar ôl cadarnhau bodolaeth straen H5N8 o’r ffliw adar ledled gwledydd Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet na fyddai’r Parth Atal Ffliw Adar yn cael ei ailgyflwyno ar ôl i gyfnod y Parth presennol ddod i ben ar 30 Ebrill. Fodd bynnag, roedd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhai rhywogaethau o adar yn parhau.

Bydd y gwaharddiad dros dro yn cael ei godi o 15 Mai yn dilyn asesiad risg wedi ei ddiweddaru sy’n seiliedig ar dystiolaeth,  ar yr amodna fydd achosion pellach o H5N8 mewn dofednod, adar caeth eraill nac mewn adar gwyllt eraill. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rwyf wedi gwneud y penderfyniad ar sail yr asesiad risg ansoddol diweddaraf,  a oedd yn ystyried y perygl y gallai HPAI H5N8 ledaenu i ffermydd dodefnod o ddod i gysylltiad ag adar dŵr gwyllt, ond hefyd trwy ffyrdd eraill posibl.  

“Daeth yr asesiad diweddaraf i’r casgliad y dylid asesu bod y risg gyffredinol ynisel, sef 'prin ond yn gallu digwydd o dro i dro'.  Penderfynir ar y risg gyffredinol  drwy edrych ar y posibilrwydd y bydd y feirws yn parhau mewn adar gwyllt a’r amgylchedd a rheini’n dod i gysylltiad â dodefnod.

“Yn ôl barn arbenigol, bydd y risg i ddofednod yn lleihau wrth i’r adar gwyllt ymfudol adael Prydain Fawr ac wrth i’r adar dŵr gwyllt sy’n byw yma gychwyn ar eu tymor magu.   Bydd yr haintamgylcheddol yn parhau i leihau dros amser, yn enwedig felly, yn ystod tywydd sych a chynhesach ac wrth i’r lefelau UV godi.   Felly, mae’r risg y bydd y straen yn dod i gysylltiad â dofednod yn isel gan fod yr adar dŵr gwyllt sy’n byw yma yn cychwyn ar eu tymor magu, ac o’r herwydd maent yn llai heidiol ac felly mae’r posibilrwydd o haint amgylcheddol yn lleihau. 

"Mae’r risg gyffredinol sy’n gysylltiedig â chrynoadau hefyd yn lleihau, ar yr amod bod lefelau uchel o fioddiogelwch yn y crynhoad, gyda phawb yn sicrhau nad yw rhywogaethau yn cymysgu a bod y broses o lanhau a diheintio yn cael ei gwneud."

“Os na fydd unrhyw achosion pellach, bydd y drwydded gyffredinol gyfredol yn cael ei dirymu ac ar 15 Mai bydd trwydded gyffredinol newydd yn cael ei rhoi yn ei lle, sy'n caniatáu pob math o grynoadau adar."

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

“Tra bydd ceidwaid dodefnod ac adar caeth eraill yn croesawu’r newyddion yma, prysuraf i’w hatgoffa ei bod yn bwysig iddynt fod yn effro i unrhyw arwydd o afiechyd a chynnal arferion ardderchog o ran bioddiogelwch.”