Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r “podiau ymweld” cyntaf sy’n darparu gofod ymweld ychwanegol mewn cartrefi gofal wedi'u dosbarthu yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wylesfield, cartref gofal preswyl yn Llandrindod sydd dan reolaeth Shaw Healthcare, oedd un o'r cyntaf i dderbyn pod. Mae'r cartref deulawr pwrpasol yn darparu llety i 27 o bobl, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, a gofal seibiant.

Mae Rosina Mayer, 97 oed, wedi byw yn yr ardal ers dros 40 mlynedd ac mae ganddi ddau fab, chwech o wyrion a 10 o or-wyrion. Er bod rhai o'i theulu bellach yn byw yn Sbaen, mae un o'i meibion, Richard, yn dal i fyw yn Llandrindod.

Bydd y pod yn ein gwneud yn rhan o'r gymuned eto, yn hytrach na theimlo ein bod wedi ein cau i ffwrdd," meddai.

Bydd yn wahanol i chwifio drwy'r ffenestr a bydd yn sicr yn gynhesach na chwrdd yn yr ardd. Rwy'n teimlo'n lwcus i fod yma yn Wylesfield, ond mae'n teimlo fel ein bod wedi bod yn byw bywyd gwahanol am y rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae pawb yn edrych ymlaen at ddychwelyd i normal.

O dan y cynllun peilot gwerth £3 miliwn, sy'n cynnwys caffael, gosod a llogi hyd at 100 o bodiau ymweld, bydd bron i 80 o unedau'n cael eu gosod ac yn barod i'w defnyddio cyn y Nadolig. Mae'r pod ymweld yn Wylesfield wedi'i gyflenwi a'i osod gan Portakabin. 

Mae’r cyllid yn cynnwys £1 filiwn ar gyfer cynlluniau i gefnogi darparwyr sydd wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ar sail debyg gan rentu pod am gyfnod o hyd at chwe mis.

Mae cartrefi gofal ar draws Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i drefnu ymweliadau o dan do, yn enwedig ar gyfer tymor yr ŵyl, a helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau lle nad yw wedi bod yn bosibl cynnal ymweliadau rheolaidd.

Bydd ehangu capasiti mewn cartrefi gofal yn helpu i gefnogi ymweliadau, gydag asesiad risg, yn ystod misoedd y gaeaf gan fod rhai darparwyr gofal wedi ei chael yn anodd cefnogi ymweliadau a sicrhau pellter cymdeithasol oherwydd y diffyg gofod ymweld.

Mae lefelau coronafeirws yng Nghymru’n uchel ar hyn o bryd ac mae diogelwch y bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn hollbwysig. Gwneir penderfyniadau ynglŷn ag ymweliadau gan ystyried y sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws, y lefel rhybudd a thrafodaethau gyda’r cartref.

Dechreuodd y cynllun peilot cyntaf i brofi cyflwyno brechlynnau i gartrefi gofal ddoe [dydd Mercher] yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint – ychydig dros wythnos ar ôl i'r brechlynnau cyntaf gael eu rhoi i staff iechyd, gofal cymdeithasol a chartrefi gofal mewn canolfannau arbennig ar draws Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un o’r anoddaf erioed yng Nghymru, ac mae effaith coronafeirws wedi’i theimlo drwy ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd dyfodiad y podiau ymweld hyn i’r cartref gofal yn helpu rhai o'n pobl mwyaf agored i niwed i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau, a hynny mewn modd diogel.

Ynghyd â dechrau cyflwyno'r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal, rydym yn awr yn gweld llygedyn o oleuni ar ddiwedd twnnel hir. Hoffwn ddiolch i'n staff gofal cymdeithasol am eu hymdrechion enfawr i gadw eu preswylwyr yn ddiogel.

Dywedodd Lowri Owen, rheolwr Wylesfield:

Mae ein trigolion a'u teuluoedd wedi bod yn llawn cyffro ers clywed ein bod yn mynd i gael pod ymweld yn Wylesfield. Mae peidio â gallu cyfarfod eu hanwyliaid wyneb yn wyneb wedi bod yn un o'r pethau anoddaf i lawer o'n trigolion yn ystod y pandemig, felly mae gallu cynnig ffordd ddiogel o ganiatáu i bobl wneud hynny yn wych.

Mae ein tîm wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw ein cymunedau'n ddiogel, a cheisio sicrhau hefyd bod teuluoedd yn gallu cadw mewn cysylltiad. Mae'r galwadau fideo wedi bod yn wych, ond mae gallu cael cyswllt wyneb yn wyneb rhwng preswylwyr a theuluoedd mor bwysig i lesiant ein trigolion, ac yn rhywbeth rwy'n gwybod y bydd eu teuluoedd yn ddiolchgar iawn amdano.

Dywedodd Robert Snook, Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol, Portakabin:

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r GIG a Llywodraethau ar draws y DU i ddarparu amrywiaeth o adeiladau ac rydym yn parhau i gynnig atebion pan a ble y mae eu hangen fwyaf.

Rydym yn gobeithio y bydd yr adeiladau rydym wedi'u cynllunio ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi ychydig o normalrwydd i fywydau llawer drwy alluogi teuluoedd ac anwyliaid i ddod at ei gilydd yn ddiogel yn amgylchedd y cartref gofal. Mae ein tîm wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu 30 o gyfleusterau ar wahân ar draws Cymru ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniadau.

Mae Portakabin yn gweithio'n rheolaidd gyda'n llywodraethau a'r GIG ac rydym yn falch o allu cefnogi system gofal iechyd ein cenedl yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal diweddaraf wedi’i gyhoeddi heddiw [dydd Iau]. Gan ganolbwyntio ar chwe maes allweddol – atal a rheoli heintiau; cyfarpar diogelu personol; cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer cartrefi gofal; llesiant preswylwyr; llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol a chynaliadwyedd ariannol – mae’n elfen allweddol o gynllun diogelu'r gaeaf Llywodraeth Cymru.