Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau COVID-19

Adnoddau Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r coronafeirws.

Termau allweddol drafft COVID-19

Yn y tabl hwn cewch dermau allweddol drafft nad ydynt wedi cyrraedd TermCymru eto.

Term Saesneg Term Cymraeg Diffiniad Statws Nodiadau
   


 

 

 

Termau allweddol cyhoeddedig COVID-19

Ar waelod y ddalen hon, cewch ddolen i restr Excel o dermau allweddol COVID-19 sydd eisoes yn TermCymru.  Am ragor o wybodaeth am y termau, trowch at y cofnod llawn yn TermCymru.

Diweddarwyd y rhestr Excel hon ar 05/02/2021.

Cofiwch: gall termau eraill fod yn berthnasol i'r maes hwn, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y rhestr o dermau allweddol. Gallwch chwilio cronfa TermCymru ei hun am ein holl dermau.

Arddull

Rydym wedi ychwanegu nifer o eitemau i'r Arddulliadur sy'n berthnasol i'r argyfwng. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gartref ac adref, sy'n ein hatgoffa o'r gwahaniaeth rhwng y ddau air mewn cyweiriau mwy ffurfiol.

Cofau cyfieithu

Ar waelod y dudalen hon cewch dair ffeil cof cyfieithu sy'n berthnasol i'r argyfwng. Mae un yn seiliedig ar ddogfennau cyffredinol ac un ar ddogfennau deddfwriaethol. Mae'r cof ategol yn cynnwys deunyddiau nad ydynt wedi cael eu prawfddarllen gan staff Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Byddem yn eich annog i lawrlwytho'r tri chof. Er bod cywair y testunau ynddynt yn wahanol iawn, fe allent gynnwys termau defnyddiol.

Ffeiliau TMX yw'r rhain a chânt eu rhyddhau o dan y drwydded OGL. Byddwn yn ychwanegu dogfennau atynt yn rheolaidd.

Diweddarwyd y tri chof COVID-19 ddiwethaf ar 06/07/2020.

Mae * yn enw’r cof yn dynodi nad yw’r cynnwys wedi ei brawfddarllen gan staff Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.