Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r termau hyn yn seiliedig ar dermau a safonwyd gan y Gwasanaeth Cyfieithu at ddiben cyfieithu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.  

Term Saesneg (English term) Term Cymraeg (Welsh term) Lluosog (Plural) Diffiniad (Definition) Statws (Status) Nodiadau (Notes)
asexual (ace) arywiol (ace) Disgrifiad o bobl sy'n cael dim neu prin ddim profiad o atyniad rhywiol at eraill. Ace yw'r label byrfodd. A  
anti-LGBTQ+ gwrth-LHDTC+   A  
aromantic (aro) aramantaidd (aro) Disgrifiad o bobl sy'n cael dim neu prin ddim profiad o atyniad rhamantaidd at eraill.  Aro yw'r label byrfodd. A  
sex assignment pennu rhyw Y weithred o ddynodi rhyw baban ar adeg ei eni, gan amlaf fel benyw neu wryw. Gwneir hyn gan amlaf gan ymarferydd meddygol, ar sail nodweddion corfforol. A  
assign at birth pennu adeg geni   A  
biphobia deuffobia     A  
biphobic deuffobig     A  
cisgender (cis) cisryweddol (cis) Disgrifiad o berson y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. A Daw’r elfen 'cis' o’r rhagddodiad Lladin 'cis-', sy’n golygu ‘yr ochr hon i [rywbeth]’. "sis" yw’r ynganiad Saesneg ond "cis" yn Gymraeg, gan adlewyrchu ynganiad y Lladin gwreiddiol. 
cisgender man (cis man) (cisman) dyn cisryweddol (dyn cis) (cisddyn) dynion cisryweddol (dynion cis) (cisddynion) Gwryw y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. A  
cisgender woman (cis woman) (ciswoman) menyw cisryweddol (menyw cis) (cisfenyw) menywod cisryweddol (menywod cis) (cisfenywod) Benyw y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. A  
conversion practices arferion trosi Ymyriadau o natur amrywiol y bwriedir iddynt newid neu atal cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd person, ee ceisio newid person o fod yn berson nad yw'n heterorywiol i fod yn berson heterorywiol, neu o fod yn berson trawsryweddol neu rywedd-amrywiol i fod yn berson cisryweddol. A  
conversion therapy therapi trosi therapïau trosi A Gweler y ffurf conversion practices / arferion trosi am ddiffiniad. Mae'r term hwn yn gyfystyr â'r ffurf honno, ond yn gyffredinol ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ffurf conversion therapy / therapi trosi.
endosex endoryw     A Dyma'r gwrthwyneb i intersex/rhyngryw.
gender rhywedd rhyweddau Hunaniaeth o ran bod yn wryw, yn fenyw neu'n berson anneuaidd, yng nghyd-destun gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol. A Gall y term hwn hefyd fod yn gyfystyr â gender identity / hunaniaeth rhywedd. Gweler y cofnod hwnnw am ddiffiniad o'r cysyniad hwnnw.
gender-diverse rhywedd-amrywiol   A  
gender expression mynegiant rhywedd   A  
gender identity hunaniaeth rhywedd hunaniaethau rhywedd  Term a all fod yn gyfystyr â gender/rhywedd, ac sy'n cyfeirio at ymdeimlad person ohono'i hun fel gwryw, benyw neu berson anneuaidd. A  
gender marker dynodwr rhywedd dynodwyr rhywedd Dynodiad ysgrifenedig sy'n cofnodi rhywedd unigolyn, gan amlaf mewn ffurflenni neu gronfeydd data. A  
gender reassignment ailbennu rhywedd Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, lle y'i diffinnir fel proses (neu ran o broses) y bydd person yn bwriadu mynd drwyddi, yn mynd drwyddi neu wedi mynd drwyddi at ddiben ailbennu rhyw y person hwnnw drwy newid priodweddau ffisiolegol neu briodweddau eraill sy'n perthyn i ryw.  A  
gender recognition cydnabod rhywedd Y weithred gyfreithiol o gofnodi rhywedd person yn swyddogol. A  
gender-neutral language iaith niwtral o ran rhywedd Geirfa sy'n osgoi tuedd tuag at ryw neu rywedd penodol. A Cymharer â gendered language / iaith ryweddol.
gendered language iaith ryweddol Geirfa sydd â thuedd tuag at ryw neu rywedd penodol. Er enghraifft, geirfa yn cynnwys elfen mewn gair neu ymadrodd sy'n awgrymu rhywedd y person mwyaf addas ar gyfer cyflawni rhyw rôl (ysgrifenyddes, dyn tân). Gall elfennau gramadegol eraill yn y Gymraeg, fel treigliadau, awgrymu rhywedd hefyd. A Cymharer â gender-neutral language / iaith niwtral o ran rhywedd
heterosexual (straight) heterorywiol (syth) Disgrifiad o ddyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd at fenywod neu at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd at ddynion. A  
homophobia homoffobia   A  
homophobic homoffobig   A  
intersectionality croestoriadedd Y ffordd y mae gwahanol agweddau o hunaniaeth person, e.e. ethnigrwydd, dosbarth, rhyw, rhywedd, anabledd, yn gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu anghyfartaledd. A  
intersex rhyngryw   Person nad yw'n cyfateb i'r disgwyliadau confensiynol ar gyfer datblygiad benyw neu wryw o ran anatomi, metaboliaeth neu eneteg. A Dyma'r gwrthwyneb i endosex/endoryw.
LGBTQ+ LHDTC+   Byrfodd sy'n cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol/traws a cwiar/pobl sy'n cwestiynu. Defnyddir y symbol + i gynnwys a chydnabod yr amrywiol dermau eraill y mae pobl yn eu defnyddio i ddisgrifio eu hunaniaethau a'u cyfeiriadedd, gan gynnwys rhyngryw, arywiol ac aramantaidd.  A  
LGBTQ+ disabled people pobl anabl LHDTC+   A  
LGBTQ+ inclusive education addysg sy'n LHDTC+-gynhwysol A  
LGBTQ+ people pobl LHDTC+   A  
LGBTQ+ rights hawliau pobl LHDTC+ A  
LGBTQ+ veteran cyn-aelod o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+ A  
LGBTQ+ Welsh speaker siaradwr Cymraeg LHDTC+ A  
non-binary anneuaidd Disgrifiad o berson sydd â rhywedd y tu allan i'r syniad traddodiadol deuaidd gwryw/benyw o rywedd. Gall y rhywedd hwnnw fod unrhyw le ar hyd y sbectrwm rhwng gwryw a benyw, neu gall profiad y person o rywedd fod yn gyfan gwbl y tu hwnt i'r sbectrwm hwnnw. A  
Pride Cymru Pride Cymru   A  
pride   balchder   Label a ddefnyddir ar ddigwyddiadau cyhoeddus neu arteffactau (baneri, etc) sy'n hyrwyddo hawliau pobl LHDTC+ neu'n dathlu'r diwylliant LHDTC+. A Yn aml, defnyddir priflythyren gyda'r gair yn yr ystyr hon.
queer cwiar     A Yn y gorffennol defnyddid y term hwn fel un difrïol am unigolion LHDTC+, ac mae rhai pobl yn ystyried bod y term yn un sarhaus. Mae bellach wedi cael ei adfeddiannu gan nifer o bobl LHDTC+. Weithiau gwelir y ffurf Gymraeg 'cwiyr' hefyd.
sex rhyw rhywiau Y term cyffredinol am y labeli a bennir i bobl ar sail ystod o nodweddion gan gynnwys cromosomau, proffiliau hormonau a nodweddion corfforol (ee organau rhyw). Gwryw a benyw (neu ddyn a menyw) yw'r labeli deuaidd traddodiadol ar ryw.  A Cymharer â'r diffiniad o gender / rhywedd.
sexual orientation cyfeiriadedd rhywiol Atyniad rhywiol un person at berson arall. Gall pobl ddefnyddio'r termau heterorywiol, hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol, ymysg eraill, i ddisgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol. A  
transgender (trans) trawsryweddol (traws) Term cyffredinol i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yn cyd-fynd â'r rhywedd a bennwyd iddynt adeg eu geni. Bydd rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn bobl drawsryweddol, ond nid pob un.  A  
transgender man (trans man) dyn trawsryweddol (dyn traws) dynion trawsryweddol (dynion traws) A  
transgender people (trans people) pobl drawsryweddol (pobl draws) A Gweler y diffiniad o transgender/trawsryweddol.
transgender woman (trans woman) menyw drawsryweddol (menyw draws) menywod trawsryweddol (menywod traws) A  
transphobia trawsffobia   A  
transphobic trawsffobig   A