Neidio i'r prif gynnwy

Rhestr o Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog Safonol

Rhestr o'r holl arwyddion ffyrdd dwyieithog safonol y gall awdurdodau priffyrdd Cymru eu codi heb ofyn am awdurdod gan Lywodraeth Cymru.

Taenlen Excel yw hon.

Mae’r testun wedi ei gymryd o’r darluniau awdurdodol sydd ar gael ar ffurf PDF o wefan Llywodraeth Cymru. Argymhellir eich bod yn defnyddio’r daenlen ar y cyd â’r ffeiliau PDF i weld cyd-destun llawn yr arwyddion dan sylw. Ewch i'r dudalen hon, dewis y pennawd addas a chlicio ar rif y darlun fel yr ymddengys yn y daenlen.

Mae gwaith ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r darluniau hyn.

Sylwch y cymerwyd y testun o’r ffeiliau PDF fel y maent, gan gynnwys elfennau fel enwau lleoedd a ddefnyddiwyd fel enghreifftiau. Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod ffurfiau’r enwau lleoedd yn nhestun yr arwyddion hyn yn rhai cymeradwy.

Lle mae symbol yn ymddangos ar arwydd, nodir [symbol] yn y daenlen.

Adnodd drafft yw’r rhestr o arwyddion ffyrdd safonol dwyieithog.