Neidio i'r prif gynnwy

Cofau cyfieithu

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cofau cyfieithu o fersiynau dwyieithog cyhoeddedig dogfennau a deunyddiau eraill gan Lywodraeth Cymru.

Ffeiliau TMX yw’r ffeiliau hyn. Ar ochr dde y dudalen hon, cewch ddolen i dudalen sy’n rhoi arweiniad ar fewnforio ffeiliau TMX i nifer o’r systemau cof cyfieithu mwyaf cyfarwydd.

Byddwn yn ychwanegu cofau yn rheolaidd i’r casgliad. Dewch yn ôl yma yn rheolaidd er mwyn ychwanegu rhagor o’n cofau i’ch system gof cyfieithu chi.

Cyhoeddir y cofau hyn, fel holl adnoddau BydTermCymru, o dan y drwydded OGL.

Mae * yn enw’r cof yn dynodi nad yw’r cynnwys wedi ei brawfddarllen gan staff Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.

Mae ** yn dynodi mai dogfen o eiddo’r Senedd yw cynnwys y cof.

Ychwanegwyd y tri chof COVID-19 i'r dudalen hon ar 31/10/2023.

Dogfennau