Enwau lleoedd yng Nghymru
Rhestrau o wahanol fathau o enwau lleoedd yng Nghymru, a gwybodaeth am Restr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg
Cyhoeddir y rhestrau hyn er hwylustod i’r rheini a fyddai’n elwa o gael casgliadau o wahanol fathau o enwau lleoedd yng Nghymru. Gallwch ychwanegu’r ffeiliau CSV hyn at gronfeydd termau mewn systemau cof cyfieithu.
Gallwch hefyd weld yr holl enwau sydd yn y rhestrau hyn, a’u data ategol, yng nghronfa dermau TermCymru.
Rhyddheir yr holl adnoddau hyn o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, gan Gomisiynydd y Gymraeg
Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru.
Ewch draw i wefan y Comisiynydd i gael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf ar y Rhestr. Yno hefyd cewch gopi o’r canllawiau safoni cenedlaethol sy’n sail i’r ffurfiau yn y Rhestr.
Enwau wardiau etholiadol Cymru
Rhestr o enwau swyddogol holl wardiau etholiadol Cymru, yn y ddwy iaith.
Pennwyd y 762 o enwau hyn yn gyfreithiol gan Lywodraeth Cymru mewn cyfres o Orchmynion Trefniadau Etholiadol a wnaed yn 2021.
Sylwch nad yw’r enwau yn y rhestr hon o reidrwydd yn adlewyrchu’r ffurfiau safonol ar enwau unrhyw aneddiadau sy’n rhannu’r un enw, nac o reidrwydd yn adlewyrchu’r ffurfiau swyddogol ar enwau unrhyw gymunedau sy’n rhannu’r un enw. Am y ffurfiau safonol ar enwau aneddiadau, trowch at Restr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru.
Dyma’r colofnau sydd yn y ffeil CSV hon: Awdurdod lleol; Enw Saesneg; Enw Cymraeg.
Edrychwch ar fersiwn ar-lein o'r rhestr.
Edrychwch ar fersiwn ar-lein o restr o'r Gorchmynion Trefniadau Etholiadol, a dolenni iddynt.
Enwau henebion yng ngofal Cadw
Bydd rhestr o enwau dwyieithog safonol yr henebion sydd yng ngofal Cadw yn cael ei chyhoeddi yma cyn hir.