Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
40 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

acronymau

Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.

Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.

Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.

Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).

Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.

O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).

Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

adref a gartref

Yn yr iaith ysgrifenedig safonol:

  • ystyr ‘adref’ yw ‘homewards’, hy mae’n cyfleu’r syniad o fynd tua’r cartref
  • ystyr ‘gartref’ yw ‘yn y cartref’

Yn yr iaith lafar gall ‘adref’ a ‘gartref’ gyfleu’r naill ystyr neu’r llall. Ond er cysondeb yng ngwaith y Gwasanaeth Cyfieithu rydym yn defnyddio ‘adref’ ar gyfer ‘tua’r cartref’ yn unig a ‘gartref’ ar gyfer ‘yn y cartref’ yn unig.

Felly:

Teithio adref OND Aros gartref

Dyma felly a ddewiswyd ar gyfer slogan ymgyrch y Llywodraeth ‘Aros Gartref, Diogelu’r GIG, Achub Bywydau’.

annex

  • Ar ddiwedd dogfen: atodiad, nid ‘ychwanegiad’.
  • Os bydd annex ac appendix yn ymddangos gyda’i gilydd, un dewis yw defnyddio atodlen. Cofiwch, fodd bynnag, mai atodlen yw’r gair a ddefnyddir ar gyfer ‘schedule’ mewn deddfwriaeth. Felly os oes unrhyw bosibilrwydd o gamddeall, neu os yw’r darn yn cyfeirio at y tri pheth, defnyddiwch anecs ar gyfer annex.

ar gyfer

Mae ‘ar gyfer’ yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn ond peidiwch â meddwl bod eisiau ‘ar gyfer’ bob tro y ceir ‘for’ yn y Saesneg. Yn aml, mae ‘i’ yn ddigon ac weithiau bydd ‘at’ yn fwy addas ac yn fyrrach. Weithiau hefyd mae modd hepgor ‘ar gyfer’ yn gyfan gwbl. Dyma rai enghreifftiau:

 Gwell... na... 
 Cyngor defnyddiol i bobl sy'n ddi-waith Cyngor defnyddiol ar gyfer pobl sy'n ddi-waith 
 Mae cyfnod heintus y math hwn o haint yn amrywio Mae'r cyfnod heintus ar gyfer y math hwn o haint yn amrywio 

berfau

amserau’r ferf

Mae angen gofal wrth ddefnyddio gwahanol amserau’r ferf.

The Minister said (gorffennol) Dywedodd y Gweindog
The Minister has said (perffaith) Mae'r Gweinidog wedi dweud
The Minister had said (gorberffaith) Roedd y Gweinidog wedi dweud
The Members hoped (amherffaith) Roedd yr Aelodau'n gobeithio neu Gobeithiai'r Aelodau nid Gobeithiodd yr Aelodau (gorffennol)
The First Minister said (gorffennol) he would (amherffaith) Dywedodd y Prif Weinidog y bydd (dyfodol)

ffurfiau cryno a ffurfiau cwmpasog

Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau cryno’r ferf bob tro: hynny yw, nid yw ‘golyga hynny’ yn well Cymraeg na ‘mae hynny’n golygu’. Mae i’r ddau eu lle a dylid dewis a dethol yn ofalus rhwng ffurfiau cryno a chwmpasog yn ôl yr ystyr y mae angen ei gyfleu. Bydd angen ystyried hefyd effaith defnyddio’r ffurf gwmpasog ar hyd y testun cyfan os bydd cyfyngiadau o ran lle.

Mae ffurfiau cryno megis ‘penderfynodd yr aelodau’, a ‘clywodd y bobl’ yn ddigon cyfarwydd, ac felly nid oes rheswm dros eu hosgoi a defnyddio ffurfiau megis ‘fe wnaeth yr aelodau benderfynu’ a ‘fe wnaeth y bobl glywed’.

Mae i’r ffurfiau cwmpasog eu lle fodd bynnag pan fo angen osgoi ffurfiau clogyrnaidd neu orlenyddol. Er enghraifft, gellir dweud ‘fe wnaethant gydnabod’ yn hytrach na ‘cydnabuasant’, a ‘fe wnaethoch wrthod’ yn hytrach na ‘gwrthodasoch’.

Ceisiwch osgoi’r ffurfiau ‘bu inni’, ‘bu iddynt’ etc lle bo modd. Mae ‘fe wnaethon ni fwynhau ein hunain’ yn well na ‘bu inni fwynhau ein hunain’.

Mae i’r geiryn rhagferfol ‘fe’ ei le yn ein gwaith ni hefyd lle bo’n helpu llif y frawddeg neu’n cryfhau ystyr y ferf sy’n dilyn, ee Do, fe ddaeth y llythyr ymhen hir a hwyr. Dylech osgoi ei orddefnyddio serch hynny ac ni ddylid defnyddio ‘mi’, ac eithrio mewn sgriptiau ac ati.

ffurfiau amhersonol

Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau amhersonol bob tro. Gallwch eu defnyddio mewn testun ffurfiol ei naws ond os byddwch yn cyfieithu ar gyfer y cyhoedd, dyweder, gallwch hepgor yr amhersonol, ee Os yw eich eiddo ym mand C … yn hytrach na ‘Os gosodwyd eich eiddo ym mand C …’.

berfau cynorthwyol

Mae angen gofal wrth drosi ymadroddion lle defnyddir berfau’n gynorthwyol yn Saesneg.

Saesneg Cymraeg nid...
to make use of defnyddio gwneud defnydd o
to pay a visit ymweld â talu ymweliad â

this represents a step forward

mae hyn yn gam ymlaen mae hyn yn cynrychioli cam ymlaen
this serves as a warning mae hyn yn rhybudd mae hyn yn gwasanaethu fel rhybudd
to give consideration to ystyried rhoi ystyriaeth i
to take account of / to take into consideration ystyried cymryd ystyriaeth o
to make attempts to ceisio gwneud ymgais i
to make efforts to ymdrechu gwneud ymdrech i
to make a decision penderfynu gwneud penderfyniad

 

blynyddoedd

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd mewn ffigurau fel arfer.  

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd yn llawn, hy ‘yn 2016’ nid ‘yn ’16’.  

Er cysondeb, trinnir yr elfen gyntaf mewn blynyddoedd o 1000 i 1999 fel mai ‘un’ sy’n cael ei ddweud yn hytrach na ‘mil’. Felly:  

  • ‘rhwng 1998 ac 1999’ nid ‘rhwng 1998 a 1999’  
  • ‘yn 1999’ nid ‘ym 1999’.  

Yr unig eithriad i hyn fyddai darn yn y cywair clasurol lle byddai angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau yn hytrach na ffigurau, gan ddefnyddio’r system ugeiniol. Bryd hynny, byddai’n rhesymol ysgrifennu ‘ym mil naw cant’ yn hytrach nag ‘yn un naw dim dim’.

Yn yr amgylchiadau prin pan fo angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau, ee ar gyfer araith neu ddatganiad llafar, bydd y rhifau’n wrywaidd bob amser (ee ‘dwy fil a dau’ nid ‘dwy fil a dwy’). Mae hyn yn seiliedig ar eu trin fel rhifau (gwrywaidd), ac nid fel nifer o flynyddoedd (benywaidd).  

Bydd y ffordd o ysgrifennu’r rhif yn amrywio ar sail y cywair a’r flwyddyn dan sylw, ac hefyd (mewn araith neu ddatganiad llafar) ar sail yr hyn sy’n gweddu orau i’r siaradwr. Er enghraifft: 

  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn fwy addas na’r system ddegol, hyd yn oed yn y cyweiriau anffurfiol neu ffurfiol, ee bydd yn fwy addas ysgrifennu ‘dwy fil ac un ar ddeg’ na ‘dwy fil ac un deg un’ waeth beth yw’r cywair  
  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn addas i’r cywair clasurol yn unig, a’r system ddegol yn fwy addas i gyweiriau eraill, ee gallai ‘dwy fil a thri ar hugain’ a ‘mil naw cant a phedwar ugain’ fod yn addas yn y cywair clasurol, a gallai ‘dwy fil a dau ddeg tri’ a ‘mil naw wyth deg’ fod yn fwy addas mewn cyweiriau eraill.  
  • Sylwer y bydd angen defnyddio ‘ym’ os penderfynir defnyddio’r system ugeiniol yn achos blynyddoedd rhwng 1000 a 1999.

Felly dylai’r cyfieithydd arfer ei grebwyll wrth benderfynu beth sy’n addas, a bod yn gyson o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.

circular / newsletter

‘Cylchlythyr’ ar gyfer y ddau. Efallai y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio 'newyddlen' ar gyfer ‘newsletter’ pe bai angen gwahaniaethu rhwng y ddau yn yr un darn o waith.

cwynion (complaints)

Mae angen yr acen ar ffurfiau treigledig y gair unigol ‘cwyn’ er mwyn i’r ystyr fod yn eglur – gweler yr erthygl ‘cwyn (complaint)’.

Mae’r cwestiwn yn codi a oes angen acen grom yn y gair treigledig lluosog, ‘gwynion’. Y cyngor yn y gyfrol ‘Orgraff yr Iaith Gymraeg’ (paragraff 72(2)) yw nad oes angen yr acen honno, o ddilyn y rheolau arferol, oherwydd nad sain llafariad hir sydd i’r llythyren ‘w’ yn y ffurf luosog.

Er hynny mae’n nodi y gall fod yn syniad cael rhyw ffordd o nodi’r sain gywir gan fod cynifer o bobl yn ei chamseinio. Mae’n argymell y gellid defnyddio’r to bach – gan nad oes arwydd arall addas yn bodoli yn orgraff y Gymraeg – lle bo angen arweiniad ynghylch ynganiad cywir (neu, felly, i osgoi amwysedd yn yr ystyr).

Ein harfer ni felly, ar gyfer gwaith Llywodraeth Cymru, yw defnyddio “gwynion” ar gyfer ffurf luosog “gŵyn” ac eithrio mewn amgylchiadau penodol, prin lle gallai’r ystyr fod yn amwys, neu lle mae angen arweiniad ar yr ynganiad (ee mewn araith neu sgript). Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, dylai fod yn ddigon eglur ai lluosog yr ansoddair ‘gwyn’ ynteu lluosog yr enw ‘cwyn’, wedi’i dreiglo, a ddynodir gan y gair ‘gwynion’.

cyfieithu atebion ‘yes’ / ‘no’ mewn arolygon a holiaduron

Yn wahanol i’r Saesneg, lle gall ‘yes’ / ‘no’ fod yn atebion addas beth bynnag fo’r cwestiwn mewn arolygon a holiaduron, rhaid addasu’r atebion Cymraeg i gyd-fynd ag union eiriad, berf ac amser y cwestiwn ee

Berf                             Cwestiwn                                                         Atebion

bod                               Ydych chi’n fodlon?                                          Ydw / Nac ydw

cael                               A gaiff ei mab driniaeth frys?                            Caiff / Na chaiff

dylwn                            A ddylem ni rannu’r gyfrinach?                         Dylech / Na ddylech

gallu                              A elli di fy helpu?                                              Gallaf / Ni allaf

gwybod                         A wyddost ti ym mhle?                                      Gwn / Na wn

medru                           A fedrwch chi nofio?                                          Medrwn / Na fedrwn

 

Ar adegau, efallai y byddai’n ddefnyddiol at ddibenion fformatio a chysondeb cael yr un ateb i bob cwestiwn ee mewn holiaduron hirfaith. Er nad yw hynny’n bosibl bob amser, ystyriwch a oes modd addasu’r cwestiynau fel bod yr un atebion yn berthnasol bob tro. Er enghraifft, mae’r cyfieithiad manwl gywir o ‘yes’ a ‘no’ i’r cwestiynau isod i gyd yn amrywio, ond mae’r ail gynnig yn aralleiriad sy’n golygu bod modd defnyddio ‘Oes a ‘Nac oes’ ar gyfer pob un:

Are you a line-manager?

A ydych yn rheolwr llinell? Ydw / Nac ydw

A oes gennych chi gyfrifoldebau rheolwr llinell? Oes / Nac oes

Would you be interested in participating?

A fyddai diddordeb gennych chi mewn cymryd rhan? Byddai / Na fyddai

A oes diddordeb gennych chi mewn cymryd rhan? Oes / Nac oes

Is everyone allowed to join in?

A gaiff pawb ymuno? Caiff / Na chaiff

A oes modd i bawb ymuno? Oes / Nac oes

Opsiwn arall mewn rhai cyd-destunau fyddai defnyddio tic a chroes ond byddai angen sêl bendith yr awdur eu bod yn fodlon ar y rhain fel dewisiadau ar gyfer ‘yes’ a ‘no’.

cyfieithu ‘hub’

Mae cryn amrywiaeth o ran sut y cyfieithir “hub”. Mae’r cyfieithiadau mwyaf cyffredin ohono yn cynnwys ‘Hyb’, ‘Hwb’, ‘Canolfan’, ‘Canolbwynt’ a ‘Ffocws’. Yn achos sefydliadau allanol, rhaid cadw at beth bynnag yw’r enw swyddogol sydd wedi’i roi ar gyfer ‘hub’.

Mewn achosion lle mae ‘hub’ yn rhan o deitl, ac nid oes enw swyddogol yn bodoli, ein harfer ni yng ngwaith y Llywodraeth yw defnyddio’r sillafiad ‘hwb’ yn hytrach na ‘hyb’ os nad yw’n addas defnyddio gair arall fel ‘canolfan’.

Lle cyfeirir at ‘hub’ mewn modd disgrifiadol ac nid fel term technegol ee ‘a hub of activity’, mae’n werth ystyried a oes modd aralleirio’r testun Cymraeg i gyfleu’r ystyr yn hytrach na chanolbwyntio’n ormodol ar drosi ‘hub’. Er enghraifft, gallai ‘a hub of activity’ fod yn rhywle sy’n ‘fwrlwm o weithgareddau’.

cyfieithu ‘Welsh’ - Cymreig / Cymru / o Gymru

Weithiau gall fod yn anodd penderfynu sut i drosi’r ansoddair Saesneg ‘Welsh’, pan nad yw’r gair hwnnw yn cyfeirio at yr iaith na’r bobl.

Teitlau

Mae mwyafrif y teitlau diweddar sy’n cynnwys y gair ‘Welsh’ yn Saesneg yn defnyddio ‘Cymru’ yn Gymraeg gan eu bod yn ymwneud â Chymru neu ar gyfer Cymru, ee Llywodraeth Cymru, Bagloriaeth Cymru, Trysorlys Cymru, Athletau Cymru. 

Er hynny, mae nifer o deitlau hirsefydledig sy’n defnyddio ‘Cymreig’, ee y Pwyllgor Materion Cymreig, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Ni ellir amrywio’r ffurf Gymraeg swyddogol ar deitl, wrth gwrs.

Disgrifiadau 

Defnyddir ‘Cymru’ hefyd i drosi ‘Welsh’ yn y rhan fwyaf o ddisgrifiadau (ee Welsh block grant / grant bloc Cymru; Welsh inshore region / rhanbarth glannau Cymru). 

Serch hynny os oes amwysedd o ran yr ystyr wrth ddefnyddio ‘Cymru' yn achos term sefydledig, cofiwch y gallwch amrywio’r gair er mwyn osgoi’r amwysedd hwnnw. Yn achos ‘Welsh legislation’, er enghraifft, byddai deddfwriaeth sydd wedi’i llunio yng Nghymru ac yn benodol ar gyfer Cymru yn cael ei disgrifio fel ‘deddfwriaeth Cymru’. Fodd bynnag, wrth drafod un darn o ddeddfwriaeth yn benodol, gallai’r ymadrodd ‘offeryn statudol Cymru’ awgrymu mai dim ond un ohonynt sydd. Byddai ‘offeryn statudol Cymreig’ yn fwy priodol felly.

Mae ‘o Gymru’ hefyd yn dderbyniol pan fo angen pwysleisio mai rhywbeth o Gymru sydd o dan sylw yn hytrach na rhywbeth sydd yn ei natur yn neilltuol i Gymru, ac mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddisgrifio cynnyrch neu fwydydd. Dwy enghraifft sy’n amlygu hyn yw bara brith a gynhyrchir yn Wolverhampton (sy’n addas ei ddisgrifio fel “cynnyrch Cymreig” gan fod y rysáit yn un sy’n neilltuol i Gymru) a chaws mozzarella o Landudno (sy’n addas ei ddisgrifio fel “cynnyrch o Gymru”).

cystrawen

Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

The scheme was important in creating opportunities.
Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
 
The aim of the scheme is to improve standards in schools.
Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

Whilst we acknowledge that we cannot ...
Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

These are the potential problems.
Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

The number of cases has risen by 20%.
Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%. 
neu 
Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

To provide the public with information.
Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

cysylltnod

Mae adrannau IV.31-IV.36 Gramadeg yr Iaith Gymraeg, a’r adrannau ar gyfansoddeiriau rhywiog ac afryw yn Orgraff yr Iaith Gymraeg (paragraffau 1-22), yn disgrifio swyddogaethau gramadegol ac orgraffyddol y cysylltnod. Fodd bynnag, gall arferion go iawn fod yn wahanol i’r hyn a ddisgrifir yn y ffynonellau hynny, ac weithiau gall fod yn anodd cymhwyso’r cyngor i eiriau sy’n codi mewn testunau. Bwriad yr erthygl hon yw rhoi arweiniad ymarferol ynghylch penderfynu a ddylid cynnwys y cysylltnod mewn geiriau ai peidio.

Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bendant fod angen y cysylltnod yn ôl gramadeg ac orgraff y Gymraeg. Er enghraifft, mae angen cynnwys y cysylltnod er mwyn:

•    Gwahanu graffemau cytseiniol sydd naill ai’n gallu cael eu dehongli fel un lythyren yn hytrach na dwy (ee ‘ail-lenwi’) neu wahanu dwy graffem gytseiniol sydd yr un fath (ee ‘rhydd-ddeiliad’, ‘rhyng-golegol’) 
•    Dynodi mai ar y sillaf olaf y mae’r pwyslais mewn cyfansoddeiriau llac, yn ôl diffiniad Orgraff yr Iaith Gymraeg (ee ‘cam-drin’, ‘hunan-barch’, ‘cyd-fyw’)
•    Rhannu elfennau ymadroddion sy’n gweithredu’n eiriau syml (ee ‘di-droi’n-ôl’, ‘di-asgwrn-cefn’).

Mewn cyd-destunau eraill, nid yw o angenrheidrwydd yn ieithyddol-angenrheidiol cynnwys y cysylltnod, ond gall fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:

  • Gwahanu graffemau llafarog. Gwneir hynny weithiau, yn enwedig mewn termau gwyddonol, i hwyluso darllen y term (‘gastro-oesoffagaidd’, ‘bio-olew’)
  • Gwahanu’r elfennau mewn cyfansoddeiriau, i hwyluso darllen y term (ee ‘oedran-gyfeillgar’, ‘rhywedd-benodol’, ‘nyrs-ragnodydd’)
  • Dynodi’r cyfrwng electronig – rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-’ i gyfleu’r cyfrwng electronig (ee ‘e-bost’, ‘e-bostio’, ‘e-dendro’, ‘e-Gymru’)
  • Pan fo ‘cyd-’, ‘cyn-’, ‘is-’, ‘ôl-’ ac ‘uwch-’ yn elfennau cyntaf mewn geiriau a bod pwyslais arbennig arnynt, mae angen cysylltnod ar eu hôl i ddynodi hynny. Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar gyfer enw ar gyrff a swyddi ee ‘cyd-bwyllgor’, ‘cyn-lywydd’, ‘is-gadeirydd’, ‘uwch-gyfieithydd’.
  • Mewn termau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘marw_’ ee ‘marw-enedigaeth’ a ‘marw-anedig’. Mae hyn er hwylustod y darllen ac mae’n adlewyrchu’r defnydd cyffredin. Mae’n cyd-fynd â’r hyn a nodir yng Ngeiriadur yr Academi a’r Porth Termau, ond mae’n wahanol i’r hyn a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

Heblaw mewn sefyllfaoedd fel hyn, fel arfer nid oes angen y cysylltnod, yn enwedig mewn cyfansoddeiriau lle mae’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill (ee ‘ailadrodd’, ‘cydweithio’, ‘camarwain’, ‘aralleirio’) hyd yn oed os gwneir hynny yn y gair cyfatebol Saesneg, ee ‘re-assess’, ‘ailasesu’; ‘co-operate’, ‘cydweithredu’; ‘anti-bacterial’, ‘gwrthfacterol’.

Os ydych yn ansicr a oes angen cysylltnod mewn gair, edrychwch ar y cofnodion perthnasol yn TermCymru, y Porth Termau a Geiriadur Prifysgol Cymru, neu mewn dogfennau blaenorol cysylltiedig. Os nad oes cofnodion perthnasol, y maen prawf yw a fyddai cynnwys y cysylltnod yn ei gwneud yn haws i’r darllenydd ddeall ffurfiant ac ystyr y gair.

Mae confensiynau penodol ar ddefnyddio cysylltnodau mewn enwau lleoedd. Am esboniad llawn gweler adran 3 yng nghanllawiau safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/polisi-ac-ymchwil/enwau-lleoedd 

 

cyweiriau ac arddulliau

Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol 

Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion). 

Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.

Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.

Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.

Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull  y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.

 

Cyweiriau cyffredinol 

Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn. 

Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn. 

Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau. 

1. Y cywair clasurol

Mathau o waith:      

  • deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau  
  • deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

Nodweddion: 

  • ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
  • ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’). 
  • Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol. 

Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol. 

 

2. Y cywair ffurfiol

Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:

  • papurau pwyllgorau
  • papurau’r Cabinet 
  • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
  • adroddiadau blynyddol
  • dogfennau polisi
  • rhai holiaduron a ffurflenni
  • llythyrau.

Nodweddion:

  • ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’. 
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
  • Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
  • Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’ 
  • Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
  • ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’ 
  • Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’ 
  • Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’. 

 

3. Y cywair anffurfiol

Mathau o waith:

  • datganiadau i’r wasg
  • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
  • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd 
  • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
  • rhai taflenni hysbysrwydd 
  • rhai holiaduron a ffurflenni 
  • posteri, sticeri

 

Nodweddion:

  • ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’) 
  • Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
  • Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
  • Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
  • ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’. 
  • Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer. 

 

4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

Mathau o waith:

  • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
  • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
  • rhai posteri/pamffledi
  • gemau/cartwnau 

Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn: 

  • Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’ 
  • Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’ 
  • Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’ 
  • Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’ 
  • Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’ 
  • Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
  • Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
  • Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
  • Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’ 
  • Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’. 
  • Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.

Deddfau, Biliau a Mesurau

Mae peth dryswch am y termau hyn. Mae rhai unigolion a sefydliadau yn defnyddio ‘Mesur’ i gyfieithu ‘Bill’ ac nid oedd hynny’n broblem hyd nes i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau i wneud yr hyn a elwid yn ‘Mesurau’r Cynulliad’ (Assembly Measures) rhwng 2007 a 2011. ‘Biliau’ (Bills) yw’r enw ar gyfreithiau arfaethedig y Cynulliad (rhwng 2011 a 6 Mai 2020) a'r Senedd (ers iddo newid ei enw ar 6 Mai 2020), a ‘Deddfau’ (Acts) yw’r enw ar gyfreithiau sydd wedi’u pasio gan y corff hwnnw. Er mwyn gwahaniaethu’n glir rhwng ‘Measure’ a ‘Bill’ yn Gymraeg, arfer Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yw defnyddio ‘Bil’ ar gyfer pob ‘Bill’ – boed yn rhai San Steffan, Holyrood, Stormont neu Fae Caerdydd. Mae’r defnydd o ‘Bil’ yn yr ystyr hwn yn mynd yn ôl at y ddeunawfed ganrif o leiaf.  Defnyddiwn ‘Mesur’ am ‘Measure’. Er nad yw’r Senedd yn pasio Mesurau bellach, mae’r rhai a basiwyd ee Mesur y Gymraeg, yn dal yn rhan fyw o’r corff o ddeddfwriaeth Gymreig. Ac ar ben hynny, mae Eglwys Loegr yn dal i basio ‘Mesurau’ (Measures).

degawdau

Rhowch rifolion ar gyfer degawdau ond geiriau ar gyfer cyfnodau:

  • y 1960au (dim collnod), nid ‘y 60au’ nac ‘y chwedegau’ am nad yw’r ganrif yn cael ei phennu
  • dyn yn ei bumdegau, yr unfed ganrif ar hugain

dyddiadau

Dyma’r drefn y dylid ei defnyddio ar gyfer dyddiadau: 
1 Ionawr 2006, nid ‘1af Ionawr 2006’ na ‘Ionawr 1, 2006’

Fe’i cynhelir ddydd Gwener, 30 Mehefin, nid ‘Fe’i cynhelir Ddydd Gwener, 30 Mehefin’ (hynny yw, nid oes angen priflythyren yn ‘Ddydd’).

Bydd y pwyllgor yn cael adroddiad tua diwedd mis Hydref nesaf, nid  ‘... tua diwedd Hydref nesaf’. 

Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth

Egwyddorion

Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.

Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:

  1. Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
  2. Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
  3. Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
  4. Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
  5. Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.

Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd

  • Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
  • Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
  • Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
  • Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
  • Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
  • Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
  • Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
  • Yn gyffredinol hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Belarws.
O ran y fannod
  • Gall y defnydd o'r fannod amrywio gyda rhai enwau, ac ystyrir y defnydd hwnnw wrth bennu'r ffurf safonol.

Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

  • Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
  • Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
  1. Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
  2. Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
  3. Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.

Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol

  • Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
  • Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).

Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg

  • Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
    1. elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
    2. ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
    3. cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
    4. pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
    5. elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
  • Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.

Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau

  • Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
  • Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
  • Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.

Tabl o'r categoriau

Categori Treiglo Acennu Pa fath o leoedd
1

Ffurf sefydledig Gymraeg

Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen
Confensiynau arferol y Gymraeg Confensiynau arferol y Gymraeg

Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol).

Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft

Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig.

Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig
2 Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Confensiynau arferol y Gymraeg Osgoi acennu yn gyffredinol

Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond

(i) bod y lle yn Ewrop

Lithwania, Slofenia, Wcráin.

(ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant

Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico
3

Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig)

Estonia, Tonga, Iran, Jamaica.

Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra:

Canada, India, Sweden.

Dim treiglo

Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau  orgraff y Gymraeg.

Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi)
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig

Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion

Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya

Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu

De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

 

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

ffontiau

Dylid dilyn fformat y ddogfen wreiddiol o ran y ffont, maint y teip ac ati.

Arial 12 yw ffont ‘swyddogol’ y Llywodraeth ond os bydd ffont neu faint teip gwahanol i hynny mewn dogfen, dilynwch fformat y ddogfen benodol honno. Ond, os bydd y ffont honno’n anaddas ar gyfer rhoi toeau bach ar ‘w’ ac ‘y’, tynnwch sylw’r cwsmer at hynny er mwyn ceisio dylanwadu arno i’w newid.

Arial 16 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer penawdau.

Arian 14 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer isbenawdau.

Ni ddylid defnyddio ffontiau ‘Cymraeg’ megis Heledd neu Afallon yn lle’r ffontiau a ddefnyddiwyd yn y fersiwn Saesneg.

ffracsiynau

Ysgrifennwch ffracsiynau syml yn llawn mewn testunau nad ydynt yn rhai mathemategol ond defnyddiwch rifolion ar gyfer ffracsiynau mwy cymhleth ac ar gyfer cyfuniad o rifau cyfain a ffracsiynau, ee dwy ran o dair, 1½, 7¾.

geiriau jargonllyd

Mae’n bosibl mai geiriau jargonllyd mewn testunau Saesneg yw un o gas bethau rhai cyfieithwyr. A ddylid defnyddio neu fathu jargon Cymraeg? A fyddai’n well aralleirio neu symleiddio? Y nod yma yw rhoi gair o gyngor ynghylch y pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu, a chynnig rhai enghreifftiau ac awgrymiadau.

Yn ogystal â’r geiriaduron arferol, mae nifer o ffynonellau defnyddiol eraill ar gael sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gyfieithu geiriau ac ymadroddion, ee rhestrau geiriau Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: Geiriaduron - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Chorpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad: Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad |.

termau yn y lle anghywir

Un diffiniad o ‘jargon’ yw termau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau amhriodol. Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term, a phan fo’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno rhaid defnyddio’r term Cymraeg cyfatebol. Ar y llaw arall, os defnyddir y term mewn maes gwahanol neu i gyfleu ystyr mwy cyffredinol, gallai gair neu ymadrodd mwy cyffredin fod yn addas.

Dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged helpu’r cyfieithydd i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg. Wrth ddewis gair neu ymadrodd amgen, ystyriwch a yw’n cyfleu’r hyn y mae awdur y darn yn dymuno’i ddweud yn llawn ac yn gywir. Rhoddir rhai enghreifftiau isod, gan bwysleisio mai cynigion yn unig yw’r geiriau neu’r ymadroddion amgen, ac y gallai opsiynau eraill fod yn briodol.

Term Saesneg Term Cymraeg Gair neu ymadrodd

projection

Economeg / Ystadegau: cyfrifiad neu ragolwg
ar sail tueddiadau presennol

amcanestyniad rhagolygon

scoping

Ymchwil academaidd: prosiect sy’n edrych yn
ystemataidd ar y dogfennau mewn maes penodol,
gan nodi’r cysyniadau a damcaniaethau allweddol,
y ffynonellau tystiolaeth a bylchau yn y gwaith ymchwil

Dadansoddi data: adnabod is-set o elfennau o fewn
set ehangach

cwmpasu pennu hyd a lled

align

Technoleg iaith: y broses o drefnu testun yn segmentau
cyfochrog cyfatebol mewn dwy iaith.

alinio

cyd-fynd
cydweddu
gwneud yn gydnaws â

geiriau aneglur neu eang iawn eu hystyr

Ceir math arall o jargon lle mae ystyr y Saesneg yn aneglur, neu lle mae llu o wahanol ystyron ymhlyg yn y gair neu’r ymadrodd. Nid yw’r rhain yn dermau mewn unrhyw faes penodol. Gellid barnu ar adegau mai bod yn ymhonnus y mae’r awdur, a bryd hynny dylid ystyried ai tôn bwriadol sydd wedi’i daro, ynteu a fyddai’n briodol symleiddio wrth gyfieithu. Fodd bynnag, dylai’r cyfieithydd ystyried a yw pob elfen, neu’r elfennau allweddol, yn cael eu cyfleu yn llawn. A yw ‘trafod’, er enghraifft, yn cyfleu pob agwedd ar y gair ‘negotiate’ yn y cyd-destun dan sylw?

Rhaid cadw mewn cof hefyd y gall fod pwrpas bwriadol i’r amwysedd yn Saesneg. Mae’n bosibl y defnyddir ‘minded to’, er enghraifft, er mwyn osgoi cyfleu bwriad pendant neu benderfyniad terfynol. Os felly, rhaid i’r cyfieithydd ystyried a oes angen cyfleu’r un amwysedd.

Mae temtasiwn weithiau i gyfieithu rhai o’r geiriau hyn yn llythrennol. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain yn y grŵp cyntaf isod, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu.

Mae’r ail grŵp yn ymadroddion sydd, o bosibl, yn fwy trosiadol ac yn defnyddio geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr newydd.

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
overarching trosfwaol

cyffredinol
rhychwantol
sy’n llywodraethu
prif
hollbwysig

[gain / give an] insight

mewnwelediad

dealltwriaeth
[cael / cynnig] darlun eglur
[cael / cynnig] cipolwg ar
taflu goleuni ar

maximise uchafu

manteisio i’r eithaf ar
cynyddu i’r eithaf
sicrhau’r xxx mwyaf

engage(ment) ymgysylltu

ymwneud â
ymgymryd â
ennyn diddordeb
ennyn sylw
trafod

 

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
gain access to cael mynediad at

manteisio ar
cael gafael ar

inform

[ee This will be crucial in informing
policy going forward.]
hysbysu

cyfrannu at
elwa ar
cyfoethogi
defnyddio

look at [doing] edrych ar

ystyried
bwriadu
ceisio

ymadroddion trosiadol

Dyma ymadroddion sydd wedi cael eu gorddefnyddio nes iddynt ddod yn ystrydebol, bron. Maent yn gyffredin ym maes marchnata a busnes, ond i’w gweld mewn meysydd eraill hefyd. Sylwch y gall ystyr rhai o’r ymadroddion hyn fod yn ddifrïol neu’n ffafriol – mae’n dibynnu ar y cyd-destun a thôn y darn.

Saesneg Cymraeg
blue sky thinking

meddwl yn greadigol
cynnig syniadau mewn byd delfrydol
syniadau anymarferol

thinking outside the box

meddwl mewn ffordd arloesol
meddwl yn agored
meddwl yn wahanol i’r arfer

close of play

diwedd y diwrnod gwaith
diwedd y prynhawn

 

gwefannau

Pan geir dolen sy’n arwain at safle neu ddogfen Saesneg ar y rhyngrwyd, nid digon yw ei chynnwys fel y mae yn y cyfieithiad, gan fod angen rhoi gwybod i’r darllenydd sut mae darganfod y safle neu’r ddogfen Gymraeg gyfatebol.

Gwefan Llywodraeth Cymru:
http://www.llyw.cymru (yr ochr Gymraeg)
http://www.gov.wales (yr ochr Saesneg)

Mae gan rai o’r adrannau gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we. Er enghraifft, yr Adran Amaeth:

http://www.cefngwlad.cymru.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
http://www.countryside.wales.gov.uk (yr ochr Saesneg)

Ond nid yw hynny’n wir am bob adran ac is-adran ac felly, wrth gyfieithu, bydd angen edrych ar y we bob amser i wneud yn siwr eich bod yn rhoi’r cyfeiriadau cywir.

Mae gan rai cyrff gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we, er enghraifft:

http://www.sirddinbych.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
http://www.denbighshire.gov.uk/ (yr ochr Saesneg)

http://www.cyfoethnaturiol.cymru (yr ochr Gymraeg)
http://www.naturalresources.wales (yr ochr Saesneg)

Os ceir cyswllt sy’n arwain at ddogfen Saesneg benodol, bydd angen ei newid er mwyn iddi arwain at y ddogfen Gymraeg gyfatebol, ee

www.wales.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-e.htm
www.cymru.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-w.htm

Mae’r enghraifft hon yn un eithaf syml – newid ‘wales’ i ‘cymru’ ac ‘e’ i ‘w’ – ond mae rhai yn fwy cymhleth na hynny. Bydd angen agor y ddogfen Gymraeg i ddarganfod y cyswllt cywir.

Rydym yn ceisio cael ein cwsmeriaid i ddarparu’r dolenni Cymraeg i ddogfennau, gan nad gwaith cyfieithu yw hwn mewn gwirionedd. Os bydd rhestr helaeth ohonynt ar ddiwedd dogfen, rhowch wybod i’r gweinyddwyr fel y gellir trefnu i’r cwsmer chwilio amdanynt tra byddwch chi’n cyfieithu’r ddogfen. Neu, os byddwch yn gadael dolenni yn Saesneg yma ac acw mewn darn o waith, cofiwch ddweud wrth y cwsmer eich bod wedi gwneud hynny.

Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Aelodau'r Senedd

Llywodraeth Cymru – Welsh Government

Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion y Cynulliad, ynghyd â’r gweision sifil sy’n gweithio i’r is-adrannau polisi. Mae’n bwysig iawn peidio â chymysgu rhwng y rhain. Ni ddylid cyfieithu ‘Welsh Government’ fel ‘Senedd Cymru', er enghraifft. 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' oedd yr enw blaenorol ar Lywodraeth Cymru.

Wrth gyfeirio’n ôl at ‘y llywodraeth’ mewn brawddeg, cofiwch mai enw benywaidd ydyw, ee Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ei pholisïau.

Senedd Cymru – Welsh Parliament

Yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 newidiodd enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y sefydliad (hy, y corff corfforaethol sy’n cynnwys 60 Aelod etholedig ar hyn o bryd, ac yn cynyddu i 96 Aelod yn dilyn etholiad 2026) ddau enw swyddogol, ‘Senedd Cymru’ a ‘Welsh Parliament’.

Polisi Llywodraeth Cymru yw cyfeirio at Senedd Cymru yn gyffredinol fel '[y/the] Senedd' yn Gymraeg a Saesneg. Defnyddir ‘Senedd Cymru’ y tro cyntaf i’r teitl godi mewn dogfennau ffurfiol megis Memoranda Esboniadol, ac ‘[y/the] Senedd’ wedi hynny. Dim ond ‘[y/the] Senedd’ a ddefnyddir mewn dogfennau llai ffurfiol megis llythyrau, areithiau a datganiadau i’r wasg.

Mewn testun sy’n cyfeirio at Senedd Cymru ac at Senedd y DU, defnyddiwch ‘y Senedd’ ar gyfer y ddeddfwrfa ddatganoledig, a rhoi ‘Senedd y DU’ neu ‘Senedd San Steffan’ yn llawn. Os oes unrhyw amwysedd yn codi o hyn, gellid ychwanegu gair neu ddau o esboniad y tro cyntaf i’r teitlau godi, ee:

The COVID-19 pandemic continues to have an impact on Bill progression through UK Parliament and Senedd Cymru (the Senedd).

Mae pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith ar hynt y Bil trwy’r Senedd a Senedd y DU (cyfeiriad at Senedd Cymru yw pob cyfeiriad at ‘y Senedd’ o hyn ymlaen).

Gweler hefyd yr eitem ‘cyfieithu ‘Wales’ mewn teitlau’.

Aelodau o’r Senedd (ASau) – Members of the Senedd (MSs) 

Mae teitlau’r Aelodau wedi newid i Aelod o’r Senedd (AS) ac Aelodau o’r Senedd (ASau) yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Mewnosodwyd testun i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (deddf a wnaed yn Saesneg yn unig) sy’n nodi: ‘Members of the Senedd are to be known by that name or as Aelodau o’r Senedd.’

Fodd bynnag, mae’n dderbyniol amrywio rhwng ‘Aelodau o’r Senedd’, ‘Aelodau’r Senedd’ ac ‘Aelodau Senedd Cymru’, mewn gwahanol gyd-destunau. 

Mae ‘Aelodau Senedd Cymru’ ac ‘Aelodau’r Senedd’ yn addas wrth gyfeirio at yr holl aelodau, tra bod ‘Aelodau o’r Senedd’ yn gallu awgrymu mai rhai aelodau yn unig sydd o dan sylw. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio’r fannod gan fod ‘yr Aelodau o’r Senedd’ yn awgrymu mai cyfran o’r aelodau sydd o dan sylw yn hytrach na phob aelod. Ystyriwch y gwahaniaeth ystyr rhwng y brawddegau canlynol: 

•            ‘Bydd Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig’ – holl aelodau'r Senedd 

•            ‘Bydd Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig’ – rhai amhenodol o aelodau'r Senedd 

•            ‘Bydd yr Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y cynnig' – rhai penodol o aelodau'r Senedd (ee unigolion neu grŵp a adnabuwyd yn gynharach yn y darn).

Penderfyniad y Senedd oedd defnyddio’r byrfoddau AS / MS ar gyfer Aelodau’r Senedd, a bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn yr arfer hwnnw. Gan fod y byrfodd Cymraeg AS yr un fath ar gyfer Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol (Aelodau Senedd y DU), efallai y bydd angen defnyddio’r teitlau’n llawn os bydd defnyddio’r byrfoddau’n creu dryswch rhwng y ddau fath o aelod. 

 

magwyd/maged a ganwyd/ganed

Y terfyniad '-wyd' a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer berf amhersonol amser gorffennol 'magu' a 'geni'.

Er bod y terfyniad '-ed' yn ddilys yn Gymraeg, 'magwyd' a 'ganwyd' yw’r terfyniad a argymhellir er cysondeb.

meddai a dywedodd

Mae’r cyngor yn amrywio yn y ffynonellau gramadeg o ran pryd mae’n gywir defnyddio ‘meddai’ a ‘dywedodd’.

Er cysondeb yng ngwaith y Llywodraeth, ein cyngor yw bod modd defnyddio ‘dywedodd’ gyda dyfyniadau uniongyrchol neu anuniongyrchol:

‘Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn.’
‘“Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn,” dywedodd y Gweinidog.’

Rydym yn argymell cadw ‘meddai’ ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol yn unig. Er bod modd ei roi ar y dechrau, ei leoliad arferol erbyn hyn yw yng nghanol y dyfyniad neu ar y diwedd:

‘“Bydd y cynllun yn cael ei lansio yn y gwanwyn,” meddai’r Gweinidog.’

‘”Yn y gwanwyn” meddai’r Gweinidog “y bydd y cynllun yn cael ei lansio”’.

mwyafrif / rhan fwyaf

Sylwer bod ystyr y ddau ymadrodd ychydig yn wahanol. Defnyddir ‘mwyafrif’ ar gyfer unrhyw beth y gellir ei gyfrif, fel y mae’r elfen ‘rhif’ yn y gair yn ein hatgoffa.

‘Pleidleisiodd y mwyafrif o’r Aelodau Seneddol o blaid y cynnig.’

Mae’r ymadrodd ‘rhan fwyaf’, ar y llaw arall, yn ymwneud â symiau na ellir eu cyfrif.

‘Defnyddiodd Arwel y rhan fwyaf o’r blawd i wneud bara.’

Gweler hefyd yr erthygl ‘of’ sy’n egluro pryd y mae angen cynnwys y gair ‘o’ yn y Gymraeg.

Mae’r un gwahaniaeth yn union yn bodoli rhwng ‘cynifer’ a ‘cymaint’.

‘Braf oedd gweld cynifer o bobl ifanc yn y gynhadledd.’
‘Braf oedd gweld cymaint o ddŵr yn y gronfa ar ôl y glaw.’

person

Mae rhai o’r ffynonellau awdurdodol yn cynghori ysgrifenwyr Cymraeg i beidio â defnyddio ‘person’ heblaw bod angen penodol i wneud hynny, er enghraifft wrth gyfieithu’r gair ‘parson’ neu yn yr ystyr ramadegol (‘y trydydd person unigol’ etc). Yn y ffynonellau hynny, cynghorir ysgrifenwyr i ddefnyddio gair arall fel ‘rhywun’, ‘y sawl’ neu ‘unigolyn’, neu aralleirio er mwyn osgoi defnyddio ‘person’ yn llwyr.

Serch hynny, ym marn y Gwasanaeth Cyfieithu, erbyn hyn mae’n briodol defnyddio ‘person’ yn Gymraeg dan fwy o amgylchiadau nag y mae’r cyngor hwnnw’n ei awgrymu. Bu cynnydd yn y defnydd o ‘person’ mewn termau technegol Cymraeg (gan gynnwys yr ystyr benodol gyfreithiol sydd i'r term hwnnw), a chynnydd hefyd yn y defnydd o ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ gan siaradwyr y Gymraeg. 

Yn gyfreithiol, mae ystyr ehangach i ‘person’ nag i ‘unigolyn’ – gall ‘person’ fod yn berson naturiol ond gall hefyd fod yn berson corfforaethol. Un o ganlyniadau hynny yw bod cofnodion yn TermCymru ar gyfer termau a theitlau sy’n ymwneud â rolau a swyddi penodol (gan gynnwys rhai a bennir mewn deddfwriaeth) yn defnyddio’r ffurf ‘person’ yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu’r ystyr gyfreithiol sydd i ‘person’ yn y cyd-destunau hyn. Er enghraifft, ‘person â chyfrifoldeb’ am ‘person in charge’, a ‘rhyddhad gan berson cymwys’ am ‘qualified person release’. Y ffurf luosog safonol ar ‘person’ mewn termau technegol yw ‘personau’, ond mae modd defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘personau’ pan fo'n amlwg mai bodau dynol yn unig sydd dan sylw. 

At hyn, defnyddir y gair ‘person’ bellach yn gwbl naturiol gan lawer o siaradwyr Cymraeg mewn cyfuniadau sefydlog fel ‘person ifanc’, ‘person o liw’ ac ati. Mae cofnodion TermCymru yn cynnwys enghreifftiau o gyfuniadau sefydlog fel y ddau uchod. Y ffurf luosog arferol ar ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ yw ‘pobl’ (sydd, yn ramadegol, yn enw benywaidd unigol wrth gwrs). 

Felly mewn termau technegol, ac wrth gyfeirio at rolau penodol neu gyfuniadau sefydlog, mae’n debygol mai ‘person’ fydd y cyfieithiad gorau. Os yw’n glir bod y gair ‘person’ yn Saesneg yn cyfeirio at fod dynol – hynny yw, person naturiol, heb fod unrhyw ystyr ehangach i’r gair – gall fod yn fwy priodol cyfieithu ‘person’ mewn ffordd arall, gan ddefnyddio gair arall fel ‘rhywun’, ‘y sawl’ neu ‘unigolyn’, neu aralleirio er mwyn osgoi defnyddio ‘person’ yn llwyr, ee:

  • am ‘All persons will be banned from smoking gallwch roi ‘Gwaherddir pawb rhag smygu
  • y sawl a oedd yn annerch y gynulleidfa’ neu ‘yr un a oedd yn annerch y gynulleidfa yn hytrach nag ‘y person a oedd yn annerch y gynulleidfa’.

pobl

  • Y ffurf luosog safonol ar ‘person’ mewn termau technegol yw ‘personau’, ond mae modd defnyddio ‘pobl’ yn hytrach na ‘personau’ pan fo'n amlwg mai bodau dynol yn unig sydd dan sylw. Y ffurf luosog arferol ar ‘person’ mewn iaith ‘bob dydd’ yw ‘pobl’. Gweler y cofnod yn yr Arddulliadur ar gyfer ‘person’.
  • Enw benywaidd unigol yw ‘pobl’ ac felly ‘y bobl dda’ sy’n gywir.

portmanteaux

Gair sy’n asio elfennau o ddau air arall, o ran sain ac ystyr, yw portmanteau. Maen nhw’n gyffredin iawn yn Saesneg, ee brunch o breakfast a lunch, smog o smoke a fog.

Cynigir isod nifer o ddulliau posibl o drosi portmanteaux, ynghyd ag ambell ystyriaeth wrth benderfynu pa un i’w ddefnyddio. Nid ydynt mewn unrhyw drefn arbennig. Bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer y gair dan sylw. Mae’n werth ystyried hefyd a ydy portmanteau newydd yn un o gyfres, ac felly y byddai’n ddymunol dilyn yr un patrwm ar gyfer pob un (gweler ‘vishing’ a ‘smishing’ isod).

  • Cadw’r un gair ag yn y Saesneg

Gallai hyn fod yn briodol os yw’r gair wedi ennill ei blwyf yn gyflym iawn, mewn deunyddiau Cymraeg a Saesneg, ee Brexit.

  • Cymreigio’r sillafiad

Er enghraifft ‘glampio’ am ‘glamping’ a ‘secstio’ am ‘sexting’. Mae’n bosibl bod angen ystyried cywair y darn yma. Er enghraifft, byddai ‘secstio’ yn addas mewn deunyddiau wedi’u targedu at bobl ifanc ond mae’n bosibl y byddai ‘anfon delweddau rhywiol eu natur’ yn fwy priodol mewn deunyddiau mwy ffurfiol.

  • Cyfieithu un neu ragor o’r elfennau, neu aralleirio

Gwelir enghreifftiau lle mae un elfen wedi’i chyfieithu, ee ‘blog fideo’ am ‘vlog’. Mewn enghreifftiau eraill mae’r ddwy elfen yn cael eu cyfieithu, ee ‘llais-rwydo’ am ‘vishing’ (‘voice’ + ‘phishing’) ac ‘SMS-rwydo’ am ‘smishing’ (‘SMS’ + ‘phishing’) – ill dau yn seiliedig ar ‘gwe-rwydo’ am ‘phishing. Gellid hefyd aralleirio’r cysyniad cyfan, ee ‘llysieuwr hyblyg’ am ‘flexitarian’.

Un ystyriaeth yma fyddai hyd y cyfieithiad neu’r aralleiriad. Gallai fynd yn feichus os yw’n codi’n aml mewn darn. Gallai hefyd fod yn amhriodol mewn rhywbeth byr a bachog fel neges drydar.

  • Creu portmanteau Cymraeg

Ateb gwych pan mae modd dod o hyd i un sy’n gweithio, ee ‘sgyrsfot’ am ‘chatbot’, ‘gweddarlledu’ am ‘webcasting’.

Rhaid gofalu ei bod yn amlwg ar unwaith i’r darllenydd pa ddau air sydd wedi cael eu cyfuno i greu’r gair newydd.

pwyntiau'r cwmpawd

Ni ddylid defnyddio priflythyren ar gyfer pwyntiau’r cwmpawd fel rheol, oni bai ei fod yn rhan o enw gwlad, rhanbarth neu ardal benodol:

gogledd Cymru
i’r de o Aberystwyth
Gogledd Iwerddon
De America

Rhanbarthau Cymru
Os ydy’r Saesneg yn nodi “North Wales”, “Mid Wales”, “South East Wales” ac ati, yn amlach na pheidio mae’n fwy naturiol hepgor “Cymru” o’r cyfieithiad. Os ydy’r testun yn cyfeirio at y rhain fel rhanbarthau penodol, yn hytrach na chyfeiriad daearyddol, defnyddiwch y pwynt cwmpawd (neu “Canolbarth”) gyda’r fannod yn unig, a phriflythyren:

North Wales – y Gogledd
Mid Wales – y Canolbarth

Is-bwyntiau’r cwmpawd
Mae angen cysylltnod yn is-bwyntiau’r cwmpawd. Fel uchod, nid oes angen priflythyren ar gyfer cyfeiriad daearyddol. Os ydych yn cyfeirio at ardal neu ranbarth penodol, mae angen priflythyren gychwynnol ond nid oes angen ail briflythyren ar ôl y cysylltnod:

i’r de-ddwyrain o Mumbai
De-ddwyrain Asia
Mae’r Fflint yn y Gogledd-ddwyrain

Byrfoddau
Dyma’r byrfoddau a ddefnyddir ar arwyddion ffyrdd y Llywodraeth:

G – gogledd; D – de; Dn – dwyrain; Gn – gorllewin
GOn – gogledd-orllewin; GDdn – gogledd-ddwyrain; DOn – de-orllewin; DDdn – de-ddwyrain

rhifau

Dilynwch y drefn yn y Saesneg o ran geiriau neu ffigurau.

Rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 11 ymlaen.

Peidiwch â dechrau brawddeg â rhifolyn: 

  • gallwch ei ysgrifennu’n rhan o’r frawddeg
    Ugain o geisiadau a dderbyniwyd, nid ‘20 o geisiadau a dderbyniwyd’ 
  • gallwch ail-lunio’r frawddeg
    Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn y flwyddyn 2012, nid ‘2012 yw’r flwyddyn y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain’

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo 'miliwn' na ‘biliwn’.

risg rhywbeth / risg o rywbeth

Pa gystrawen sy’n gywir? A ydym ni’n gyndyn o ddefnyddio’r ail i gyfieithu ‘the risk of’ gan ofni gorddefnyddio ‘o’ (gweler hefyd yr eitem ‘of’)? Os yw’r ddwy gystrawen yn gywir, a ydym ni’n newid yr ystyr wrth ychwanegu’r ‘o’?

Ceir dau ddehongliad posibl:

  • y risg sy’n perthyn i rywbeth neu sy’n tarddu o rywbeth
  • y risg y bydd rhywbeth yn digwydd

Er mwyn sicrhau cysondeb ac osgoi amwysedd yng ngwaith y Llywodraeth, penderfynwyd y gellid ystyried ‘risg rhywbeth’ yn ymadrodd genidol (ar yr un patrwm â ‘cwch pysgotwr’ neu ‘het mam’). Mae’n cyfateb felly i’r ystyr cyntaf, ‘y risg sy’n perthyn i rywbeth’. Er enghraifft:

‘Risg newid yn yr hinsawdd yw y bydd ardaloedd isel yn cael eu boddi wrth i lefelau dŵr godi.’

Ni welwyd dim tystiolaeth yn y llyfrau gramadeg ei bod yn anghywir defnyddio ‘o’ mewn cystrawen o’r fath, ac felly defnyddier honno ar gyfer ‘y risg y bydd rhywbeth yn digwydd’.

‘Bydd y risg o newid yn yr hinsawdd yn cynyddu os na fyddwn yn lleihau allyriadau.’

Mae’r gystrawen hon hefyd yn gweithio’n well os oes ansoddair yn disgrifio’r ‘risg’ ee

‘Bydd risg uchel o newid yn yr hinsawdd os na fyddwn yn lleihau allyriadau.’

Sylwer hefyd ar ‘risg from climate change’. Dylid osgoi defnyddio ‘o’ i gyfieithu’r ‘from’ yma gan y gallai hynny greu amwysedd rhwng ‘risk of’ a ‘risk from’. Byddai ‘y risg sy’n deillio o’ neu gyfieithiad tebyg yn addas.

Enghraifft yw ‘risg’ yma wrth gwrs, a gallai’r uchod hefyd fod yn berthnasol i ‘perygl rhywbeth’, ‘posibilrwydd rhywbeth’ ac ati.

space, place, point, area

Nid yw bob amser yn hawdd dewis y cyfieithiad mwyaf priodol ar gyfer y grŵp hwn o eiriau. Mae fframwaith y cysyniadau a’r ystyron yn wahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Y peth pwysig yw peidio â chymryd bod un gair Cymraeg yn cyfateb i’r un gair Saesneg bob tro. Nid ‘gofod’ yw pob ‘space’. Nid ‘ardal’ yw pob ‘area’.

Rhoddwyd cynnig ar fapio’r gwahanol ystyron yn y tabl isod. Mae opsiynau eraill yn bosibl, wrth gwrs. Er enghraifft, gellid defnyddio ‘ennyd’ neu ‘eiliad’ yn lle ‘adeg’. Y diben yw tynnu sylw at y gwahanol gysyniadau dan sylw, yn hytrach na phennu yn union pa air y dylid ei ddefnyddio ym mhob cyd-destun.

Cymraeg Diffiniad Enghraifft Saesneg cyfatebol
Adeg Ennyd benodol neu dyngedfennol mewn amser

Dyna’r adeg y disgynnodd yr afal ar ei ben

point
Ardal Rhan o dref, o wlad neu o’r byd

Mae cefn gwlad Sir Fynwy yn ardal hardd

area
Arwynebedd Graddfa neu fesuriad arwyneb neu ddarn o dir

Dyma’r fformiwla ar gyfer mesur arwynebedd triongl

area
Cyfnod Ysbaid o amser – yn aml wrth bwysleisio pa mor fyr yw’r ysbaid o gofio’r hyn sydd wedi digwydd Collodd ei ffôn ddwywaith mewn cyfnod o wythnos space
Gofod

Tri dimensiwn uchder, dyfnder a lled y mae popeth yn symud ac yn bodoli oddi mewn iddo

Mae’r gwaith yn cyfleu ymdeimlad o daith trwy ofod ac amser space
Y bydysawd ffisegol y tu hwnt i atmosffer y ddaear Ni all gwyddonwyr gytuno lle mae atmosffer y ddaear yn gorffen a’r gofod yn dechrau space
Yr ardal o amgylch rhywun neu rywbeth Mae'r meddyg sy'n cynnal y prawf yn gwthio nodwydd rhwng dau o'r fertebrâu ac i mewn i'r gofod o amgylch llinyn yr asgwrn cefn space
Lle man penodol, lleoliad daearyddol Mae Aberystwyth yn lle braf place
lle gwag digonol i gynnwys rhywun neu rywbeth Does dim digon o le ar y bws i chi space
(room)

Math o fan â rhyw nodwedd benodol iddo, neu a ddefnyddir i bwrpas penodol

(Gweler hefyd o dan ‘man’)

Mae’r unedau diwydiannol ar gael i’w rhentu â lle swyddfa ynghlwm space
Man naturiol neu briodol i rywbeth fod, man yr arferir cadw rhywbeth Lle i bopeth a phopeth yn ei le place
Maes Pwnc astudiaeth neu ddiddordeb Y gwyddorau yw’r maes y mae’n ymddiddori ynddo yn bennaf area
Man Darn o dir nad oes adeiladau arno Roedd hi’n hoff iawn o fannau agored space

Math o le â rhyw nodwedd benodol iddo, neu a ddefnyddir i bwrpas penodol

(Gweler hefyd o dan ‘lle’)

Man cyfarfod
Man cychwyn

place
Llecyn neu safle penodol mewn ardal, neu ar fap neu arwyneb Dim mynediad heibio i’r man hwn point
Pwynt Dot neu farc bychan Wrth gysylltu’r pwyntiau ar y graff, gwelwn eu bod yn creu llinell syth point
Rhan Darn o rywbeth cyfan, rhaniad, elfen Ym mha ran o’r corff y mae’r boen? area

 

symbolau a llaw-fer mewn cyhoeddiadau ystadegol

Mewn cyhoeddiadau ystadegau swyddogol, defnyddir symbolau a llaw fer yn unol â chanllawiau Swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth. Dylai’r rhain fod yr un fath mewn cyhoeddiadau a thablau data Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd ee 'p' ar gyfer ‘dros dro’, 'r’ ar gyfer ‘diwygiedig’ ac 'u' ar gyfer ‘dibynadwyedd isel’. Mae nifer o sefydliadau sy’n cyhoeddi data swyddogol am Gymru yn defnyddio 'k' (yn hytrach nag ‘isel’/‘low’) fel llaw-fer ar gyfer 'ffigwr isel ond nid sero go iawn' gan fod hynny’n addas ar gyfer cyhoeddiadau dwyieithog.

teitlau

cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru

Mae modd  dod o hyd i deitlau llawer o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn TermCymru neu ar ochr Gymraeg safle’r Llywodraeth ar y wefan www.llyw.cymru.

Ni ddylid cyfieithu teitl os nad yw’r ddogfen ei hun wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg.

cyhoeddiadau cyffredinol

Gellir dod o hyd i’r rhain weithiau drwy ddefnyddio peiriannau chwilio megis Yahoo a Google. Gallwch hefyd chwilio gwefan y corff a gyhoeddodd y ddogfen sydd dan sylw – y Cyd-bwyllgor Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati.

Mae’r wefan www.gov.uk yn ddefnyddiol ar gyfer cyhoeddiadau llywodraethol cyffredinol.

deddfwriaeth Gymreig

Os nad yw teitl darn o ddeddfwriaeth Gymreig yn TermCymru, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

Deddfau Senedd y DU

Er ei bod yn arferol defnyddio teitlau Cymraeg ar gyfer deddfau seneddol, nid yw’n arferol cyfieithu dyfyniadau o ddeddfau i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiadau o’r fath.

Weithiau, yn achos dyfyniadau byr o ddau neu dri gair, gellir aralleirio’r testun ond peidio â defnyddio dyfynodau.

Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

deddfwriaeth

Mae’n hen arfer defnyddio teitlau Cymraeg  ar gyfer deddfau Senedd y DU, er nad yw’r deddfau eu hunain ar gael yn Gymraeg.

Wrth gwrs, os yw’r offeryn statudol ar gael yn Gymraeg, mae’n bwysig iawn defnyddio’r teitl Cymraeg swyddogol. Mae llawer o’r teitlau wedi’u cynnwys yn TermCymru.

Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion

Mae teitlau swyddogol aelodau’r Cabinet i gyd ar TermCymru. 

Pan ddefnyddir y ffurfiau ‘Minister for Education’ etc yn Saesneg: 

Pan ddefnyddir y ffurfiau ‘Cabinet Secretary for Education’ etc yn Saesneg: 

  • Defnyddir y ffurfiau ‘Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg’ etc yn Gymraeg (nid ‘Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg’ nac ‘Yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg’) 
  • Os yw’r Saesneg yn defnyddio fersiwn fer o’r teitl, gellir gwneud hynny yn Gymraeg hefyd, ee cyfeirio at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant 
  • Os yw’r Saesneg yn cyfeirio at ‘the Cabinet Secretary’ heb roi gweddill y teitl, gall defnyddio ‘Ysgrifennydd y Cabinet’ roi’r argraff mai un Ysgrifennydd sydd gan y Cabinet, yn hytrach na’i fod yn un o nifer (cofiwch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn swydd yng Ngwasanaeth Sifil Llywodraeth y DU hefyd). Mewn amgylchiadau fel hyn, os oes posibilrwydd o amwysedd, gellir defnyddio ‘yr Ysgrifennydd Cabinet’ – mae ‘Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymweld â’r safle’ yn fwy eglur na ‘Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â’r safle’ os nad yw’r cyd-destun yn ei gwneud yn amlwg at ba un o Ysgrifenyddion y Cabinet y cyfeirir.

teitlau swyddi eraill

Cofiwch nad oes angen cyfieithu’r gair ‘to’ mewn teitlau swyddi yn Saesneg ee:

Clerk to the Board of Trustees – Clerc Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mae atalnod i’w weld yn aml ar ôl teitlau swyddi mewn cofnodion, yn y rhestr o’r bobl a oedd yn bresennol ee:
 
Chief Executive, Arts Council of Wales

Nid oes angen yr atalnod yn y Gymraeg gan fod enw’r sefydliad yn dilyn teitl y swydd yn naturiol:

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

Wedi dweud hynny, gall fod angen ei gynnwys o bryd i’w gilydd ee pe bai mwy nag un swydd yn dwyn yr un teitl yn y sefydliad:

Ymddiriedolwr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn yr achos hwn, mae gan yr Ardd Fotaneg nifer o Ymddiriedolwyr felly rhaid cynnwys yr atalnod i ddangos hynny.

teitlau cwrteisi ar sefydliadau, cwmnïau ac elusennau

Mae’n anodd gwybod ar adegau a yw’n briodol cyfieithu enwau sefydliadau sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus (yn enwedig rhai y tu allan i Gymru), a chwmnïau preifat ac elusennau.

 

Ar gyfer sefydliadau cyhoeddus sydd heb deitl Cymraeg swyddogol, gan gynnwys rhai nad ydynt yn ymwneud â Chymru, dylid rhoi teitlau cwrteisi Cymraeg fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn fwy addas defnyddio’r teitl Saesneg os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol: 

  • Nid yw’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r darn dan sylw’n cynnwys nifer o deitlau eraill nad oes modd rhoi teitl cwrteisi arnynt
  • Mae’r teitl mewn iaith heblaw Saesneg. (Os yw’r teitl yn gyfuniad o elfennau Saesneg ac iaith arall, ystyriwch drosi’r elfennau Saesneg yn unig.)

 

Ar gyfer cwmnïau preifat ac elusennau, ni ddylid rhoi teitlau cwrteisi fel arfer. Ond mae’n bosibl y bydd yn addas rhoi teitl cwrteisi Cymraeg, yn enwedig mewn dogfennau cyffredinol nad oes iddynt rym cyfreithiol, os yw un neu ragor o’r amgylchiadau isod yn berthnasol:

  • Mae’r cwmni neu’r elusen yn cyflawni gweithgareddau o natur gyhoeddus
  • Mae teitl cwrteisi wedi ei fathu’n barod, ac ar TermCymru
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y sefydliad ei hun (ee ar ei wefan neu ei gyfryngau cymdeithasol)
  • Mae teitl Cymraeg yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin gan bobl ar lawr gwlad neu yn y cyfryngau
  • Mae’r teitl Saesneg yn diffinio’r sefydliad mewn ffordd ramadegol-gonfensiynol, sy’n rhwydd ei chyfieithu’n ystyrlon
  • Mae’r teitl Saesneg yn dilyn patrwm tebyg i deitlau y mae’n arferol eu gweld yn Gymraeg
  • Mae gan y sefydliad deitlau mewn nifer o wahanol ieithoedd (gallwch wirio hyn ar IATE, cronfa dermau’r Undeb Ewropeaidd). 

 

Wrth bennu teitlau cwrteisi ar gyfer sefydliadau, cwmnïau ac elusennau:

  • Ymchwiliwch i weld a oes teitl cwrteisi sefydledig yn cael ei ddefnyddio’n barod
  • Os nad yw’r teitl yn ei gwneud yn glir nad yw sefydliad yn ymwneud â Chymru, ystyriwch ychwanegu elfen (ee ‘y DU’, ‘Lloegr’) i wneud hynny’n glir. 

teitlau unedau milwrol - trefnolion a rhifolion

Y drefn arferol wrth enwi unedau milwrol yn Saesneg yw defnyddio trefnolion ee 160th Infantry Brigade, 3rd Battalion The Royal Welsh. Er hynny, fe’u gwelir yn aml wedi’u hysgrifennu fel rhifolion ee 104 Regiment Royal Artillery. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yn Gymraeg yw defnyddio trefnolion ar gyfer rhifau rhwng un a deg, a rhifolion ar gyfer 11 ac uwch, waeth beth fo arddull y Saesneg. Byddai’r enghreifftiau uchod felly yn cael eu cyfieithu fel a ganlyn:

• Brigâd 160 y Milwyr Traed
• 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol
• Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol

Sylwer bod rhaid newid trefn y geiriau wrth newid o ddefnyddio trefnolion i rifolion.

termau slangaidd

Wrth gyfieithu testun sy’n cynnwys termau slangaidd Saesneg, mae angen cyfleu’r cysyniad dan sylw’n gywir, gan sicrhau bod yr ieithwedd mor addas â phosibl i gynulleidfa a diben y darn. 

Mae termau slangaidd yn aml yn tarddu o ieithwedd lafar, anffurfiol, sydd fel rheol yn gyfyngedig i gyd-destunau penodol neu grwpiau penodol o bobl – ond gallant fagu defnydd mewn testunau ysgrifenedig swyddogol. Mae hynny’n dueddol o ddigwydd mewn meysydd lle gwelir dylanwad arbennig gan bobl ifanc. Ymysg y meysydd hyn mae ymddygiad ar-lein, carwriaethol a rhywiol (gan gynnwys ymddygiadau maleisus neu droseddol), a meysydd niwrowahaniaeth, rhywioldeb, rhywedd, a thechnoleg newydd. 

O ran eu ffurfiant, mae tuedd gref i dermau slangaidd Saesneg fod yn eiriau cyfansawdd (ee lovebombing), yn portmanteaux (ee sextortion), yn dalfyriadau o derm ffurfiol hirach (ee stimming), yn ddefnydd ffigurol o iaith (ee catfishing) a/neu yn chwarae ar eiriau yn orgraffyddol (ee phishing). O bryd i’w gilydd byddant yn cynnwys cyfeiriadau diwylliannol penodol (ee gaslighting). 

Wrth bennu termau ac ymadroddion Cymraeg ar gyfer y cysyniadau a ddynodir gan y labeli hyn, dylid cymhwyso’r meini prawf hyn:

  • Dylai’r term Cymraeg gyfleu’r un cysyniad â’r term Saesneg yn gyflawn ac yn fanwl-gywir (gan ystyried holl bosibiliadau’r term Saesneg o ran ystyr; gall y term Saesneg olygu mwy na’i ystyr lythrennol)
  • Dylai’r term fod yn ddealladwy, ac yn hawdd ei gyfateb i’r term Saesneg – wrth ddarllen y term Cymraeg dylai darllenwyr allu gwybod beth yw’r term Saesneg cyfatebol a’r cysyniad dan sylw
  • Os yw’r term Cymraeg yn addasiad o’r un Saesneg, dylai’r term Cymraeg roi sylw dyledus i etymoleg y term Saesneg
  • Dylai’r term Cymraeg fod yn gystrawennol-, orgraffyddol- a gramadegol-gonfensiynol yn Gymraeg, ac ni ddylai fod yn rhy dafodieithol
  • I’r graddau y mae’n bosib, dylai’r term Cymraeg fod mor gryno, ac mor hawdd ei ddefnyddio mewn brawddeg, â’r term Saesneg
  • Dylai’r term Cymraeg gyfleu’r un naws a chywair â’r term Saesneg, ond os nad yw hyn yn bosibl dylai’r term Cymraeg fod yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged (ee ni ddylai fod yn fwy neu’n llai cymhleth na’r term Saesneg). 

Wrth bennu term Cymraeg, dylid ystyried opsiynau o’r mathau canlynol, gan ddewis yr opsiwn sy’n cwrdd â’r meini prawf uchod orau:

  • Defnyddio gair neu ymadrodd Cymraeg sy’n cyfleu’r cysyniad, ond nad yw o angenrheidrwydd yn cyfateb i'r term Saesneg o ran ei ffurfiant – gorau oll os oes term cyffredin yn Gymraeg eisoes
  • Cyfieithu’r term Saesneg yn llythrennol – yn enwedig os bydd y term Saesneg yn gyfarwydd a bod ystyr y cysyniad yn glir o’r term
  • Cymreigio sillafiad y term Saesneg yn llwyr neu’n rhannol, gan gynnwys defnyddio terfyniad berfol Cymraeg ar fôn sy’n seiliedig ar air Saesneg a Gymreigiwyd.     

Gellir ychwanegu aralleiriad o’r term i'r testun, neu gynnwys y term Saesneg mewn cromfachau, os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn gwneud y term yn fwy dealladwy, neu i amlygu’r gyfatebiaeth â’r term slangaidd Saesneg. 

Yn yr amgylchiadau prin pan na ellir dod o hyd i derm Cymraeg sy’n cwrdd â’r meini prawf yn foddhaol, gellir defnyddio aralleiriad a/neu’r term Saesneg (mewn dyfynodau neu destun italig) yn y testun Cymraeg. Pan fo termau slangaidd wedi eu cynnwys yn TermCymru, mae’n bosib y nodir aralleiriadau posibl yn y blwch ‘Nodiadau’, ond ni fyddwn bellach yn cynnwys aralleiriadau fel termau yn y gronfa.

yr wyddor

At ei gilydd, er mwyn osgoi dryswch, gwell osgoi defnyddio’r wyddor mewn rhestrau lle bo modd. Defnyddiwch yn hytrach bwyntiau bwled neu gyfrwng gweledol arall, rhifau neu rifau Rhufeinig.
 
Wrth gyfieithu rhestrau sy’n defnyddio llythrennau’r wyddor, defnyddier yr un llythrennau yn y cyfieithiad. Felly: 
a, b, c, d, e mewn dogfen Saesneg = a, b, c, d, e yn y cyfieithiad.
a, b, c, ch, d  mewn dogfen Gymraeg = a, b, c, ch, d yn y cyfieithiad.

Gall fod cyfiawnhad dros beidio â dilyn y rheol hon mewn ambell achos, ee defnyddiwyd yr wyddor Gymraeg wrth gyfieithu pecyn addysg ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Wrth ddrafftio dogfen yn Gymraeg, defnyddiwch yr wyddor Gymraeg.