Neidio i'r prif gynnwy

Sut i chwilio'r Arddulliadur

Mae sawl ffordd o chwilio am arweiniad yn yr Arddulliadur.

Mae’n debyg y bydd y dull a ddewiswch yn dibynnu a ydych yn chwilio am erthygl benodol, ynte a ydych am bori i weld a oes cyngor ar ryw bwnc neu gwestiwn.

Trefn yr wyddor

Mae’r erthyglau i gyd wedi’u rhestru yn ôl trefn yr wyddor erbyn hyn, felly os ydych chi am ddarllen erthygl benodol, dim ond sgrolio i lawr trwy’r rhestr a chlicio ar y teitl sydd raid.

Fesul adran

Mae’r erthyglau yn yr Arddulliadur wedi’u rhannu’n dair adran: Cywirdeb iaith, Cysondeb arddull a Chyfieithu da. Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â chynnwys y rhain yn Ynghylch yr Arddulliadur.

Os hoffech bori trwy’r erthyglau ar Gysondeb arddull, er enghraifft, i ddod yn fwy cyfarwydd ag arddull tŷ Llywodraeth Cymru, dewiswch yr adran honno yn y blwch ‘Pori fesul adran’ a chlicio ar ‘Chwilio’.

Chwilio am eiriau neu ymadroddion

Os ydych am bori trwy’r Arddulliadur i weld a yw’n cynnwys cyngor ar ryw bwynt sy’n peri penbleth, gallwch nodi gair neu eiriau yn y blwch chwilio.

Os rhoddwch fwy nag un gair yn y blwch, bydd y system yn chwilio am yr union ymadrodd hyd yn oed os nad ydych wedi defnyddio dyfynodau dwbl. Gall fod yn haws chwilio am un gair allweddol, felly, rhag cyfyngu gormod ar y canlyniadau.

Gallwch chwilio am ran o air. Felly os ydych yn rhoi ‘enw’ yn y blwch, cewch erthyglau sy’n cynnwys y gair ‘berfenw’ yn ogystal.

Oni bai eich bod yn fwriadol am gyfyngu eich chwilio i un adran, gofalwch mai ‘Pob pwnc’ sydd wedi’i ddewis yn y blwch ‘Pori fesul adran’. Fel arall, mae perygl y bydd y system yn chwynnu pethau a allai fod yn ddefnyddiol.