Mae gwahaniaeth pwyslais rhwng y gwahanol ffurfiau rhediadol ar yr arddodiad i. Os nad oes pwyslais ar yr elfen hon mewn brawddeg, defnyddiwch imi, iti, inni, ichi ac ati. Os oes pwyslais ar yr elfen, defnyddiwch i mi, i ti, i ni, i chi.
Er enghraifft:
Dibwyslais: “Rhowch wybod imi a ydych am ddod i’r cyfarfod.”
Pwyslais: “Peidiwch â rhoi’r ddogfen i mi, anfonwch hi at y Pennaeth.”
Y ffurfiau yn llawn yw:
| Ffurf ddibwyslais | Ffurf â phwyslais |
|---|---|
| imi | i mi |
| iti | i ti |
| iddo/iddi | iddo ef/iddi hi |
| inni | i ni |
| ichi | i chi |
| iddynt | iddynt hwy |
