Neidio i'r prif gynnwy

Yr Arddulliadur

Datblygwyd y canllawiau arddull hyn i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu testunau cyffredinol. Gallwch chwilio am eiriau penodol neu gallwch bori fesul adran.

a/neu'r maes
11 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl trefn yr wyddor.

atalnodi

atalnodi agored

Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Prif egwyddorion yr arddull yw defnyddio cyn lleied o atalnodi diangen â phosibl.

Er enghraifft:

  • peidio â defnyddio atalnodau llawn mewn talfyriadau - ‘ee’ a ‘hy’, nid ‘e.e’ a ‘h.y’, gan roi coma o’u blaenau
  • peidio â rhoi hanner colon ar ddiwedd yr eitemau mewn rhestr o bwyntiau bwled byr
  • mewn llythyr, peidio ag atalnodi’r cyfeiriad, y cyfarchiad ‘Annwyl …’ na’r ymadrodd ‘Yn gywir’ ar y diwedd.

Gan fod cryn anghysondeb yn arddull atalnodi dogfennau Saesneg – a hynny weithiau o fewn yr un ddogfen neu gyfres – ceisiwch sicrhau bod yr arddull atalnodi yn gyson yn y cyfieithiadau Cymraeg.

bylchau ar ôl atalnodau

Cyfarwyddyd y rhai sy’n cysodi dogfennau'r Llywodraeth yw mai dim ond un bwlch y dylid ei roi ar ôl pob atalnod – atalnod llawn, coma, colon, hanner colon ac ati. Felly, os bydd dau fwlch ar ôl yr atalnodau llawn mewn dogfen, gallwch roi un bwlch ar eu holau yn y cyfieithiad.

blynyddoedd

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd mewn ffigurau fel arfer.  

Ysgrifennir rhifau blynyddoedd yn llawn, hy ‘yn 2016’ nid ‘yn ’16’.  

Er cysondeb, trinnir yr elfen gyntaf mewn blynyddoedd o 1000 i 1999 fel mai ‘un’ sy’n cael ei ddweud yn hytrach na ‘mil’. Felly:  

  • ‘rhwng 1998 ac 1999’ nid ‘rhwng 1998 a 1999’  
  • ‘yn 1999’ nid ‘ym 1999’.  

Yr unig eithriad i hyn fyddai darn yn y cywair clasurol lle byddai angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau yn hytrach na ffigurau, gan ddefnyddio’r system ugeiniol. Bryd hynny, byddai’n rhesymol ysgrifennu ‘ym mil naw cant’ yn hytrach nag ‘yn un naw dim dim’.

Yn yr amgylchiadau prin pan fo angen ysgrifennu rhif y flwyddyn mewn geiriau, ee ar gyfer araith neu ddatganiad llafar, bydd y rhifau’n wrywaidd bob amser (ee ‘dwy fil a dau’ nid ‘dwy fil a dwy’). Mae hyn yn seiliedig ar eu trin fel rhifau (gwrywaidd), ac nid fel nifer o flynyddoedd (benywaidd).  

Bydd y ffordd o ysgrifennu’r rhif yn amrywio ar sail y cywair a’r flwyddyn dan sylw, ac hefyd (mewn araith neu ddatganiad llafar) ar sail yr hyn sy’n gweddu orau i’r siaradwr. Er enghraifft: 

  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn fwy addas na’r system ddegol, hyd yn oed yn y cyweiriau anffurfiol neu ffurfiol, ee bydd yn fwy addas ysgrifennu ‘dwy fil ac un ar ddeg’ na ‘dwy fil ac un deg un’ waeth beth yw’r cywair  
  • Weithiau bydd y system ugeiniol yn addas i’r cywair clasurol yn unig, a’r system ddegol yn fwy addas i gyweiriau eraill, ee gallai ‘dwy fil a thri ar hugain’ a ‘mil naw cant a phedwar ugain’ fod yn addas yn y cywair clasurol, a gallai ‘dwy fil a dau ddeg tri’ a ‘mil naw wyth deg’ fod yn fwy addas mewn cyweiriau eraill.  
  • Sylwer y bydd angen defnyddio ‘ym’ os penderfynir defnyddio’r system ugeiniol yn achos blynyddoedd rhwng 1000 a 1999.

Felly dylai’r cyfieithydd arfer ei grebwyll wrth benderfynu beth sy’n addas, a bod yn gyson o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau.

cyweiriau ac arddulliau

Yr arddulliau cyffredinol a deddfwriaethol 

Mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i’n gwaith cyfieithu ar gyfer testunau cyffredinol. Y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol sy’n berthnasol i’n gwaith ar destunau deddfwriaethol (deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, ar ffurf rheoliadau a gorchmynion). 

Weithiau ceir erthyglau ar bynciau yn yr Arddulliadur nad oes erthyglau cyfatebol iddynt yn y Canllawiau, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae erthygl yn yr Arddulliadur ar dreiglo ‘bod’. Nid oes erthygl gyfatebol yn y Canllawiau, ond mae’r cyngor yn yr Arddulliadur yn berthnasol i gyfieithu deddfwriaethol hefyd. Yn yr un modd, mae erthygl yn y Canllawiau ar dreiglo testun sydd rhwng dyfynodau, ond nid oes erthygl gyfatebol yn yr Arddulliadur.

Mae peth tir cyffredin rhwng y Canllawiau ac Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, o ran cenedl enwau, mae’r Canllawiau a’r Arddulliadur ill dau yn cytuno ein bod fel arfer yn dilyn y genedl a nodir yn gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Ond o ran byrfoddau ac acronymau, er enghraifft, ceir cyngor gwahanol yn yr Arddulliadur i’r hyn a geir yn y Canllawiau.

Os ydych yn cyfieithu deddfwriaeth, a bod yr Arddulliadur yn rhoi cyngor gwahanol, dylech ddilyn y cyngor yn y Canllawiau Arddull Cyfieithu Deddfwriaethol.

Gall fod yn ddefnyddiol cyfeirio at y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol – hy, testunau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth, megis Cynigion a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a Memoranda Esboniadol, neu rai sydd mewn arddull lai ffurfiol ond sydd â pheth grym cyfreithiol, megis Cyfarwyddydau a Chodau Ymarfer. Wrth gyfieithu testunau lled-ddeddfwriaethol felly, rhaid pwyso a mesur i ba arddull  y mae’r ddogfen yn perthyn ac i ba raddau y mae’n briodol glynu at y ffurfiau a argymhellir yn y Canllawiau Arddull Deddfwriaethol, yn hytrach na’r hyn a argymhellir yn yr Arddulliadur, neu’n ogystal â hynny.

 

Cyweiriau cyffredinol 

Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith cyffredinol yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn. 

Mae mwyafrif yr egwyddorion a nodir mewn erthyglau eraill yn yr Arddulliadur yn berthnasol i bob cywair, ee defnyddir atalnodi agored (dim collnodau wrth ollwng llythrennau, dim atalnodau ar ôl byrfoddau ee hy ac etc) ac ni ddefnyddir ffurfiau lluosog ansoddeiriau (ee ‘pobl ifainc’) heblaw pan fo hynny’n arferol iawn. 

Pan fo mwy nag un dewis, cofiwch gadw cysondeb ffurfiau o fewn yr un darn neu gyfres o ddarnau. 

1. Y cywair clasurol

Mathau o waith:      

  • deunyddiau seremonïol ee proclamasiynau  
  • deunyddiau ffurfiol iawn ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

Nodweddion: 

  • ‘Yr wyf’, ‘y mae’, ‘yr oedd’ etc
  • ‘Hwy’ nid ‘nhw’ (ond ‘chi’, nid ‘chwi’). 
  • Fel arfer, defnyddir ffigurau ar gyfer rhifolion a dyddiadau, ond mewn rhai amgylchiadau fe’u hysgrifennir mewn geiriau, gan ddilyn y system ugeiniol. 

Fel arall, mae i’r cywair clasurol yr un nodweddion â’r cywair ffurfiol. 

 

2. Y cywair ffurfiol

Dyma’r cywair a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r Llywodraeth, ee:

  • papurau pwyllgorau
  • papurau’r Cabinet 
  • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
  • adroddiadau blynyddol
  • dogfennau polisi
  • rhai holiaduron a ffurflenni
  • llythyrau.

Nodweddion:

  • ‘Rwyf yn’ neu ‘Rwy’n’, nid ‘Rydw i’n’ na ‘Dw i’n’. ‘Rydych’ a ‘Rydym’ nid ‘Rych’ a ‘Rym’. 
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) ar ôl y ferf a’r arddodiad er mwyn pwysleisio’n unig, ee ‘Yn wahanol i’r llywodraeth flaenorol, rydym ni’n barod i gymryd cyfrifoldeb’, ‘Cyfeiriwyd y mater ato ef [yn unig]’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, peidio â chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘byddem ni’ nid ‘bydden ni’)
  • Ffurfiau cryno’r ferf fel arfer, ee ‘Deallwn’ nid ‘Rydym yn deall’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol (‘Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori’ ond ‘Dyma’r mater y mae’r Llywodraeth yn ymgynghori yn ei gylch’)
  • Osgoi defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Cynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘fe’ nid ‘mi’ 
  • Osgoi defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. Os oes rhaid ei gael er mwyn gwneud yr ystyr yn gliriach, ‘yna’ nid ‘’na’
  • ‘Hwn’ neu ‘hon’, nid ‘yma’ – ‘y ffurflen hon’ nid ‘y ffurflen yma’ 
  • Defnyddio’r geiryn holiadol ‘a’ – ‘A ydych yn’ nid ‘Ydych chi’n’ 
  • Defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd y cynhaliwyd y digwyddiad’. 

 

3. Y cywair anffurfiol

Mathau o waith:

  • datganiadau i’r wasg
  • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
  • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd 
  • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
  • rhai taflenni hysbysrwydd 
  • rhai holiaduron a ffurflenni 
  • posteri, sticeri

 

Nodweddion:

  • ‘Rwy’n’, ‘Wy’n’, ‘Rydw i’n’ neu ‘Dw i’n’, nid ‘Rwyf yn’. ‘Rydych chi’n’ neu ‘Rych chi’n’, a ‘Rydyn ni’n’ neu ‘Ryn ni’n’, nid ‘Rydych yn’ a ‘Rydym yn’. ‘Dyw e ddim’ neu ‘Dydi e ddim’, nid ‘Nid yw’
  • Defnyddio’r rhagenwau personol annibynnol (‘fi’, ‘hi’, ‘nhw’) yn fwy aml ar ôl y ferf a’r arddodiad, ee ‘Rydyn ni’n falch o gyhoeddi...’, ‘Dewch aton ni’. 
  • Wrth ddefnyddio’r rhagenwau personol annibynnol ar ôl y ferf a’r arddodiad, cysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw (‘bydden ni’ nid ‘byddem ni’) 
  • Ffurfiau cwmpasog y ferf fel arfer, ee ‘Rydyn ni’n deall’ nid ‘Deallwn’ 
  • Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’ / ‘yr’ o flaen ‘oedd’, hyd yn oed mewn brawddegau perthynol (‘Dyna’r broblem fwyaf roedden ni’n ei hwynebu’ nid ‘Dyna’r broblem fwyaf yr oedden ni’n ei hwynebu’)
  • Defnyddio’r geiryn rhagferfol – ‘Fe gynhaliwyd cyfarfod’ nid ‘Cynhaliwyd cyfarfod’. ‘Fe’ nid ‘mi’.
  • Defnyddio ‘yna’ pwysleisiol – ‘Bu ymgynghoriad’ nid ‘Bu yna ymgynghoriad’. ‘Yna’ nid ‘’na’
  • ‘Yma’ nid ‘hwn’ neu ‘hon’ – ‘y ffurflen yma’ nid ‘y ffurflen hon’. ‘Yma’ nid ‘’ma’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn holiadol ‘A’ – ‘Ydych chi’n’ nid ‘A ydych chi’n’ 
  • Peidio â defnyddio’r geiryn ‘y’ ar ôl ‘beth’, ‘sut’, ‘pryd’ etc, ee ‘Dyma pryd cynhaliwyd y digwyddiad’. 
  • Ar adegau, gellir defnyddio’r cymal negyddol llafar ‘sydd ddim’ yn hytrach nag ‘nad ydyn nhw’ os oes angen llawer o ystwythder, ond nodwedd anffurfiol iawn yw hon fel arfer. 

 

4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

Mathau o waith:

  • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
  • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
  • rhai posteri/pamffledi
  • gemau/cartwnau 

Ar y cyfan, mae i’r cywair llafar yr un nodweddion â’r cywair anffurfiol, gyda’r gwahaniaethau a ganlyn: 

  • Gellir defnyddio ffurfiau tafodieithol ar y ferf, ee ‘So fe’ yn hytrach na ‘Dyw e ddim’ 
  • Gellir defnyddio rhagenwau tafodieithol, ee ‘Ma fe’ neu ‘Mae o’ 
  • Gellir defnyddio ‘’na’ neu ‘’ma’ yn hytrach nag ‘yna’ neu ‘yma’ 
  • Gellir hepgor llythrennau ar ddechrau a diwedd geiriau, ee ‘Ma fe’, ‘posib’, ‘cyfri’ 
  • Gellir defnyddio ffurfiau cywasgedig, ee ‘pnawn’ yn hytrach na ‘prynhawn’, ‘sgwennu’ yn hytrach na ‘sgrifennu’ neu ‘ysgrifennu’ 
  • Gellir cywasgu geiriau, ee ‘Sdim’ neu ‘Snam’ yn hytrach na ‘Does dim’
  • Yn ogystal â hepgor y geiryn ‘y’ gellir treiglo ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc, ee ‘Dyma pryd/sut fydd e’n digwydd’ nid ‘Dyma pryd/sut bydd yn digwydd’
  • Gellir defnyddio llafariaid ymwthiol, ee ‘pobol’, ‘cwbwl’, ‘sobor’
  • Gellir defnyddio geirynnau rhagferfol tafodieithol, ee ‘Mi aeth o’ 
  • Gellir defnyddio amrywiadau tafodieithol yn hytrach na’r ffurfiau mwy safonol, ee ‘taw’ yn hytrach na ‘mai’, ‘efo’ yn hytrach na ‘gyda’, ‘mâs’ yn hytrach nag ‘allan’, ‘lan’ yn hytrach nag ‘i fyny’, ‘rŵan’ yn hytrach na ‘nawr’, ‘ffaelu’ yn hytrach na ‘methu’. 
  • Pan geir amrywiadau tafodieithol sydd yr un mor safonol â’i gilydd, ee ‘iau’ ac ‘afu’, gellir dewis y ffurf fwyaf addas i’r siaradwr neu’r gynulleidfa, neu gynnwys y ddwy ffurf yn y testun.

ffigurau, rhifau a rhifolion

Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol yn bennaf i’r cyweiriau clasurol a ffurfiol. Yn y cyweiriau anffurfiol a llafar, gellir addasu yn ôl yr angen, ond dylid bod yn gyson o fewn un darn neu gyfres o ddarnau.  

Ffigurau ynteu geiriau  

Wrth gyfieithu dilynwch yr hyn sydd yn y testun Saesneg o ran defnyddio geiriau ynteu ffigurau, ond dilynwch y cyngor isod wrth ddrafftio testun gwreiddiol yn Gymraeg neu os oes ansicrwydd ynghylch sut i gyfieithu’r Saesneg.  

Yn gyffredinol, rhowch y rhifau ‘un’ i ‘deg’ mewn geiriau a defnyddiwch ffigurau ar gyfer rhifau o 11 ymlaen. Ond mae rhai eithriadau i hyn – defnyddir ffigurau ar gyfer un i ddeg yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • amserau, cyfnodau amser, oedrannau, dyddiadau  
  • canrannau, symiau arian, unedau mesur  
  • cyfrifiadau, fformiwlâu, rhifau sy’n cynnwys pwynt degol  
  • rhifau eiddo mewn cyfeiriadau 
  • pan fo rhifau hyd at ddeg ac uwchben deg yn cael eu defnyddio gyda’i gilydd 
  • gyda ‘miliwn’ a ‘biliwn’. Hefyd, peidiwch â threiglo ‘miliwn’ na ‘biliwn’ er mwyn osgoi amwysedd rhyngddynt (hy, peidiwch â dweud ‘2 filiwn’ ar gyfer ‘2 miliwn’ na ‘2 biliwn’).  

Rhoddir ffracsiynau mewn ffigurau mewn cyfrifiadau neu fformiwlâu, ond cânt eu mynegi mewn geiriau mewn testun (‘1/3’ mewn cyfrifiadau etc, ond ‘traean’ neu ‘un ran o dair’ mewn testun). 

 

Degol ynteu ugeiniol  

Caiff ffigurau eu trin fel ffurfiau clasurol neu ugeiniol, yn hytrach na ffurfiau degol. Felly wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (‘a dau ddeg un’).  

Caiff ffigurau mewn dyddiadau eu trin fel ffurfiau ugeiniol hefyd. Ni chaiff y fannod ei chynnwys yn ysgrifenedig, ond wrth ddefnyddio cysyllteiriau ac arddodiaid o flaen dyddiadau, tybir bod y fannod yn bresennol ar lafar. Hynny yw:  

  • ar gyfer ‘and 20 March’, defnyddir ‘a 20 Mawrth’ (‘a’r ugeinfed o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘from 31 March’, defnyddir ‘o 31 Mawrth’ (‘o’r unfed ar ddeg ar hugain o Fawrth’) 
  • ar gyfer ‘the period beginning with 1 December 2020’ defnyddir ‘y cyfnod sy’n dechrau â 1 Rhagfyr 2020’ (‘y cyfnod sy’n dechrau â’r cyntaf o Ragfyr 2020’). 

Mae rhai eithriadau i’r arfer o drin ffigurau fel ffurfiau ugeiniol. Defnyddir y system ddegol yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • rhifau tai – ‘ymweld ag 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld ag wyth deg Heol y Frenhines’) nid ‘ymweld â 80 Heol y Frenhines’ (‘ymweld â phedwar ugain Heol y Frenhines’)  
  • rhifau ffôn  
  • rhifau cyn ac ar ôl pwyntiau degol – ‘a 20.15 y cant’ (‘a dau ddeg pwynt un pump y cant’) nid ‘ac 20.15 y cant’ (‘ac ugain pwynt pymtheg y cant’) 
  • rhifau blynyddoedd – ‘rhwng 1995 ac 1996’ nid ‘rhwng 1995 a 1996’. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyngor yn yr erthygl ar flynyddoedd i drin y rhif cyntaf fel ‘un’ yn hytrach na ‘mil’. 

 

Treiglo ai peidio

Pan fo’r arferion gramadegol o ran treiglo ar ôl rhifau yn ddiamwys ac yn sefydledig, dilynir y rheini. Mae’r cyngor hwn yn ymwneud â sefyllfaoedd pan fo’r arferion yn amrywio neu’n ansicr. 

 

Mae ‘blwydd’ a ‘blynedd’ yn treiglo’n drwynol ar ôl pob rhifolyn ar wahân i 2, 3, 4 a 6, ond nid yw ‘diwrnod’ yn treiglo’n drwynol ar ôl rhifau, ond ceir anghytundeb ymhlith gramadegwyr o ran ‘6 blynedd/mlynedd’, yn enwedig ar lafar.

Ni threiglir enwau heblaw ‘cant’, ‘punt’ a ‘ceiniog’ yn feddal ar ôl ‘saith’ ac ‘wyth’, ee ysgrifennir ‘saith parc’ ac ‘wyth rhanbarth’, nid ‘saith barc’ ac ‘wyth ranbarth’.  

Ni threiglir ‘diwrnod’ yn drwynol ar ôl rhifau, ee ysgrifennir ‘saith diwrnod’ a ‘15 diwrnod’. 

 

Y ffurfiau cyswllt ynteu’r ffurfiau dyfynnol  

Defnyddir y ffurfiau cyswllt ‘pum’ (5), ‘chwe’ (6) a ‘can’ (100) yn gyffredinol ee ‘pum arth’, ‘pum dyn’, ‘chwe adroddiad’, ‘chwe menyw’, ‘can metr’, ‘can merch’. 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

Ni fydd y ffurfiau cyswllt ‘deuddeng’ (12) a ‘pymtheng’ (15) yn codi yn ein gwaith fel arfer gan y defnyddir ffigurau ar gyfer rhifau o 11 i fyny.  

 

Y lluosog ynteu’r unigol  

Gyda ffigurau a rhifolion hyd at ddeg, defnyddir yr unigol, ee ‘2 filltir’, ‘dau ddyn’.  

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir yr unigol pan fo’r hyn a gyfrifir yn dod ar ôl y rhif ee ‘18 mis’ (‘deunaw mis’) yn hytrach na ‘18 o fisoedd’ (‘deunaw o fisoedd neu ‘un deg wyth o fisoedd’). 

Gyda ffigurau a rhifolion o 11 i fyny, defnyddir y lluosog yn y sefyllfaoedd hyn:  

  • pan ddefnyddir y system ugeiniol a phan fo’n arferol rhoi’r hyn a gyfrifir yn y canol – defnyddir ‘11 o filltiroedd’ (‘un ar ddeg o filltiroedd’) nid ‘11 filltir’ (‘un filltir ar ddeg’)  
  • pan ddefnyddir y system ddegol – defnyddir ‘17.34 o filltiroedd’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar o filltiroedd’) nid ‘17.34 filltir’ (‘un deg saith filltir pwynt tri pedwar’) nac ‘17.34 milltir’ (‘un deg saith pwynt tri pedwar milltir’). 

 

Rhifau ar ddechrau brawddegau 

Peidiwch â dechrau brawddegau â ffigurau. Yn lle hynny:  

  • gallwch ddefnyddio’r geiriau yn lle’r ffigurau – ‘Ugain cais yn unig a dderbyniwyd’, yn hytrach nag ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’  
  • gallwch aildrefnu’r frawddeg – ‘Derbyniwyd 20 cais yn unig’ yn hytrach na ‘20 cais yn unig a dderbyniwyd’.   
     

Pwyntiau perthnasol eraill 

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion – 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee ‘mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg’).  

Mae cyngor perthnasol arall yn yr erthyglau ynghylch: 

  • dyddiadau  
  • blynyddoedd 
  • canrifoedd 
  • teitlau unedau milwrol – trefnolion a rhifolion.  

 

Gellir defnyddio’r ffurf gyswllt ‘deng’ o flaen llafariaid e.e. ‘deng awdurdod’ ac ‘m’ e.e. deng mis. Mae hyn yn gyffredin yn y cywair clasurol yn arbennig, ac i raddau yn y cywair ffurfiol hefyd. Mae’n fwy arferol gweld y ffurf ddyfynnol ‘deg’ yn y cyweiriau anffurfiol a llafar.

geiriau jargonllyd

Mae’n bosibl mai geiriau jargonllyd mewn testunau Saesneg yw un o gas bethau rhai cyfieithwyr. A ddylid defnyddio neu fathu jargon Cymraeg? A fyddai’n well aralleirio neu symleiddio? Y nod yma yw rhoi gair o gyngor ynghylch y pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu, a chynnig rhai enghreifftiau ac awgrymiadau.

Yn ogystal â’r geiriaduron arferol, mae nifer o ffynonellau defnyddiol eraill ar gael sy’n cynnig gwahanol ffyrdd o gyfieithu geiriau ac ymadroddion, ee rhestrau geiriau Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: Geiriaduron - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Chorpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad: Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad |.

termau yn y lle anghywir

Un diffiniad o ‘jargon’ yw termau sy’n cael eu defnyddio mewn mannau amhriodol. Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term, a phan fo’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd honno rhaid defnyddio’r term Cymraeg cyfatebol. Ar y llaw arall, os defnyddir y term mewn maes gwahanol neu i gyfleu ystyr mwy cyffredinol, gallai gair neu ymadrodd mwy cyffredin fod yn addas.

Dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged helpu’r cyfieithydd i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg. Wrth ddewis gair neu ymadrodd amgen, ystyriwch a yw’n cyfleu’r hyn y mae awdur y darn yn dymuno’i ddweud yn llawn ac yn gywir. Rhoddir rhai enghreifftiau isod, gan bwysleisio mai cynigion yn unig yw’r geiriau neu’r ymadroddion amgen, ac y gallai opsiynau eraill fod yn briodol.

Term Saesneg Term Cymraeg Gair neu ymadrodd

projection

Economeg / Ystadegau: cyfrifiad neu ragolwg
ar sail tueddiadau presennol

amcanestyniad rhagolygon

scoping

Ymchwil academaidd: prosiect sy’n edrych yn
ystemataidd ar y dogfennau mewn maes penodol,
gan nodi’r cysyniadau a damcaniaethau allweddol,
y ffynonellau tystiolaeth a bylchau yn y gwaith ymchwil

Dadansoddi data: adnabod is-set o elfennau o fewn
set ehangach

cwmpasu pennu hyd a lled

align

Technoleg iaith: y broses o drefnu testun yn segmentau
cyfochrog cyfatebol mewn dwy iaith.

alinio

cyd-fynd
cydweddu
gwneud yn gydnaws â

geiriau aneglur neu eang iawn eu hystyr

Ceir math arall o jargon lle mae ystyr y Saesneg yn aneglur, neu lle mae llu o wahanol ystyron ymhlyg yn y gair neu’r ymadrodd. Nid yw’r rhain yn dermau mewn unrhyw faes penodol. Gellid barnu ar adegau mai bod yn ymhonnus y mae’r awdur, a bryd hynny dylid ystyried ai tôn bwriadol sydd wedi’i daro, ynteu a fyddai’n briodol symleiddio wrth gyfieithu. Fodd bynnag, dylai’r cyfieithydd ystyried a yw pob elfen, neu’r elfennau allweddol, yn cael eu cyfleu yn llawn. A yw ‘trafod’, er enghraifft, yn cyfleu pob agwedd ar y gair ‘negotiate’ yn y cyd-destun dan sylw?

Rhaid cadw mewn cof hefyd y gall fod pwrpas bwriadol i’r amwysedd yn Saesneg. Mae’n bosibl y defnyddir ‘minded to’, er enghraifft, er mwyn osgoi cyfleu bwriad pendant neu benderfyniad terfynol. Os felly, rhaid i’r cyfieithydd ystyried a oes angen cyfleu’r un amwysedd.

Mae temtasiwn weithiau i gyfieithu rhai o’r geiriau hyn yn llythrennol. Rhoddir enghreifftiau o’r rhain yn y grŵp cyntaf isod, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gwahanol ffyrdd o’u cyfieithu.

Mae’r ail grŵp yn ymadroddion sydd, o bosibl, yn fwy trosiadol ac yn defnyddio geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr newydd.

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
overarching trosfwaol

cyffredinol
rhychwantol
sy’n llywodraethu
prif
hollbwysig

[gain / give an] insight

mewnwelediad

dealltwriaeth
[cael / cynnig] darlun eglur
[cael / cynnig] cipolwg ar
taflu goleuni ar

maximise uchafu

manteisio i’r eithaf ar
cynyddu i’r eithaf
sicrhau’r xxx mwyaf

engage(ment) ymgysylltu

ymwneud â
ymgymryd â
ennyn diddordeb
ennyn sylw
trafod

 

Saesneg Cymraeg llythrennol Cymraeg amgen
gain access to cael mynediad at

manteisio ar
cael gafael ar

inform

[ee This will be crucial in informing
policy going forward.]
hysbysu

cyfrannu at
elwa ar
cyfoethogi
defnyddio

look at [doing] edrych ar

ystyried
bwriadu
ceisio

ymadroddion trosiadol

Dyma ymadroddion sydd wedi cael eu gorddefnyddio nes iddynt ddod yn ystrydebol, bron. Maent yn gyffredin ym maes marchnata a busnes, ond i’w gweld mewn meysydd eraill hefyd. Sylwch y gall ystyr rhai o’r ymadroddion hyn fod yn ddifrïol neu’n ffafriol – mae’n dibynnu ar y cyd-destun a thôn y darn.

Saesneg Cymraeg
blue sky thinking

meddwl yn greadigol
cynnig syniadau mewn byd delfrydol
syniadau anymarferol

thinking outside the box

meddwl mewn ffordd arloesol
meddwl yn agored
meddwl yn wahanol i’r arfer

close of play

diwedd y diwrnod gwaith
diwedd y prynhawn

 

golwg

Mae cenedl ‘golwg’ yn amrywio yn ôl yr ystyr.

Mae’n wrywaidd pan fo’n golygu’r gallu i weld a’r y broses o weld (ee ‘golwg gwan’, ‘amhariad ar y golwg’), a chwmpas yr hyn y gall y llygad ei weld (ee ‘yn y golwg’, ‘dod i’r golwg’).

Mae’n wrywaidd pan fo’n golygu golygfa neu bersbectif, yn enwedig mewn cyd-destunau technegol fel dylunio neu feddalwedd (ee ‘golwg deheuol yr adeilad’, ‘golwg dwy dudalen’) ond mae’n bosib y bydd ‘gwedd’ yn air mwy addas na ‘golwg’ mewn cyd-destunau o’r fath.

Mae’n fenywaidd gan amlaf pan fo’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol i olygu safbwynt (ee ‘cynigiodd olwg wahanol ar y mater’) ond mae’r genedl yn amrywio mewn ymadroddion cyffredin – dylid bod yn gyson o fewn yr un darn.

Mae’n fenywaidd pan fo’n golygu cipdrem neu ganlyniad y weithred o edrych ar rywbeth (ee ‘golwg fanwl ar y mater’, ‘golwg gyflym ar y papur’) – a gwedd ac edrychiad rhywbeth, sef y ffordd y mae rhywbeth yn ymddangos (ee ‘mae golwg daclus ar y stryd’).

Gweler hefyd yr erthygl am 'cenedl enwau'.

lluosog

Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma'r geiriau y cytunwyd i fabwysiadu lluosog gwahanol ar eu cyfer:

adfocad, adfocadau

dehongliad, dehongliadau

gorchudd, gorchuddion

gwerth, gwerthoedd

harbwr, harbyrau

label, labeli

lens, lensys

sedd, seddi

sudd, suddoedd

 

Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin. 

nifer

Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

Gall ‘nifer’ fod yn fenywaidd ac yn wrywaidd ond er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu dylid ei drin fel enw gwrywaidd.

o fewn

Ceisiwch osgoi gorddefnyddio ‘o fewn’. Yn aml mae ‘yn’ yn ddigon yn lle ‘o fewn’ hyd yn oed lle bo ‘within’ yn Saesneg. Mae ‘yng Nghymru’ yn golygu’r un peth ag ‘o fewn Cymru’ oni bai bod gwir angen y pwyslais.

rhoi / rhoddi

Mae’n gyffredin ac yn gywir defnyddio ffurfiau rhediadol “rhoddi” a “rhoi” ill dau yn y gorffennol a’r presennol, ee “rhoesoch”/“rhoddoch”, “rhoddir”/“rhoir” neu “rhoddwn”/“rhown”. Dylid anelu at gysondeb o fewn yr un darn, ond gellir defnyddio ffurfiau rhediadol naill ai “rhoddi” neu “rhoi” yn unol â chywair a gofynion y testun.

Fodd bynnag defnyddir y berfenw “rhoi” yn hytrach na “rhoddi” fel arfer. Ffurf gywasgedig ar “rhoddi” yw “rhoi”. Defnyddir “rhoddi” mewn cyd-destunau tra ffurfiol yn unig.

Yng nghronfa dermau TermCymru, defnyddir y berfenw “rhoi” (ee “rhoi’r gorau i smygu”) ond y ffurfiau rhediadol ar “rhoddi” (ee “etholiad y rhoddwyd y gorau iddo”). Gellir addasu’r ffurfiau ar y ferf yn y termau hyn yn unol â chywair a gofynion y testun.

sloganau, strapleins ac ati - canllawiau ynghylch defnyddio’r ail berson

Your Vote, Your Future!

Beth ddywedech chi am hwn – ‘Eich Pleidlais Chi’ ynte ‘Dy Bleidlais Di’? Efallai y bydd y cyntaf yn rhy ffurfiol a swyddogol gan rai, a’r ail yn rhy agos atoch gan eraill.

Mae’n anodd penderfynu sut i gyfarch y gynulleidfa wrth lunio sloganau, strapleins ac ati. Yn anffodus, mae hefyd yn amhosibl rhoi rheol bendant gan fod cymaint yn dibynnu ar y cyd-destun, y gynulleidfa darged a natur y neges. Dyma rai pwyntiau i’w hystyried wrth benderfynu.

Cofiwch ei bod yn hollbwysig sicrhau cysondeb o fewn yr un ymgyrch, neu o bosibl ar draws ymgyrchoedd o fewn yr un ‘teulu’. Felly chwiliwch, neu holwch, yn gyntaf i weld beth sydd wedi cael ei ddefnyddio’n barod.

Unigol neu luosog

  • A yw’r slogan yn cyfarch y gynulleidfa gyfan ar y cyd ynte a yw’n siarad â phob aelod o’r cyhoedd fesul un?

Y gynulleidfa darged

  • Pwy sy’n cael ei annerch?

Mae ambell sefyllfa’n ddigon eglur ee defnyddir ‘ti’ pan fo’r neges yn cael ei thargedu at blant neu bobl ifanc, a ‘chi’ pan fo’n annerch pobl hŷn.

Y pwnc dan sylw

  • A yw’n bwnc amhersonol, swyddogol neu weinyddol ei natur?
  • A yw’n ymdrin â phwnc o natur bersonol, ee iechyd a lles?
  • A yw’n gofyn i ni, fel unigolion, wneud penderfyniad o natur bersonol?

Mae’n debygol mai ‘chi’ fyddai’n fwy priodol yn yr achos cyntaf, ac mae’n debygol mai i’r categori hwn y byddai’r rhan fwyaf o waith y Llywodraeth yn perthyn. Efallai y gellid ystyried ‘ti’ yn yr ail a’r trydydd achos.

Natur y neges

  • Pwy sy’n ein hannerch?
  • Ai rhoi gorchymyn mae’r slogan?
  • A yw’n ein gwahodd neu geisio ein darbwyllo i wneud rhywbeth, neu’n rhoi cyngor?

Mae’n bosibl y byddai’n codi gwrychyn i gael rhywun mewn awdurdod yn ein galw’n ‘ti’, yn enwedig os yw’n rhoi gorchymyn. Ar y llaw arall, gallai’r ‘llais’ sy’n annerch fod yn ceisio siarad â ni ar yr un lefel wrth estyn gwahoddiad neu geisio darbwyllo.

Beth os oes gwrthdaro?

Gall sawl un o’r ystyriaethau hyn fod yn berthnasol ar adegau. Er enghraifft, gall y pwnc fod yn swyddogol, ond natur y neges yn anffurfiol neu’n ddoniol. Dyna pryd mae’n anodd penderfynu wrth gwrs, ac efallai mai dyna pryd y byddai’n briodol holi’r cwsmer pa nodyn y mae’n dymuno’i daro.

Ffurfiau eraill posibl

  • A oes modd osgoi’r broblem, ee trwy ddefnyddio berfenw?
  • Neu beth am ddefnyddio’r person cyntaf lluosog, os mai’r nod yw annog pawb i wneud rhywbeth, ee Achubwn y Morfil?