Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd TermCymru

Dysgwch am y meysydd gwybodaeth sy’n ymddangos gyda phob term yn TermCymru.

Yn achos pob term Cymraeg yn TermCymru, cofnodir pwnc, rhan ymadrodd a statws. Yn achos rhai termau, cofnodir hefyd ddiffiniad, brawddeg o gyd-destun a/neu nodiadau defnydd. Ers 2015, fel arfer cofnodir diffiniad a/neu frawddeg o gyd-destun wrth ychwanegu unrhyw dermau newydd ac wrth ddiwygio unrhyw dermau sydd eisoes yn y gronfa.

Bydd y cofnod am bob term yn dangos yr holl wybodaeth sydd wedi ei chofnodi gyda'r term yn y gronfa ddata.

Statws
Yma y cofnodir statws y term dan sylw. Cewch esboniad o drefn y statysau yn y ddewislen ar y dde.

Diffiniad
Yma y cofnodir unrhyw ddiffiniad o’r term dan sylw. Yn gyffredinol, bydd diffiniadau yn cael eu dyfynnu yn iaith wreiddiol y testun y maent yn deillio ohono.

Pwnc
Dyma’r pwnc y mae’r term yn berthnasol iddo.

Rhan ymadrodd
Yma y cofnodir manylion gramadegol y term.

Cyd-destun
Yma y cofnodir brawddegau sy’n dangos enghraifft o’r term yn cael ei ddefnyddio.

Yn achos pob term a ychwanegwyd neu a ddiwygiwyd ers haf 2015, dim ond brawddegau sy’n dangos y term yn ei gyd-destun sydd i’w gweld yn y maes hwn. Gall termau sy'n dyddio o gyfnod cynt gynnwys pob math o nodiadau yn y maes Cyd-destun.

Lluosog
Yma y cofnodir ffurf luosog safonol y term dan sylw.

Nodiadau
Yma y cofnodir unrhyw nodiadau defnydd ar gyfer y term dan sylw.