Neidio i'r prif gynnwy

Sut i chwilio TermCymru

Mae cyfleuster chwilio TermCymru wedi newid rhyw ychydig gyda diweddariad mis Awst 2019.

Sylwch mai cronfa Saesneg>Cymraeg yw’r gronfa sy’n sail i TermCymru, yn y bôn, felly nid oes manylion fel rhannau ymadrodd ac ati wedi’u cofnodi ar gyfer y termau Saesneg.

Dyma rai cynghorion i’ch helpu chi i chwilio yn fwy effeithiol.

Ar y dudalen chwilio

Sylwch - ni allwch bellach chwilio am ran o air neu eiriau, ee ni allwch chwilio am “soc rent hous” i ddod o hyd i “social rented housing”.

Chwilio am derm Cymraeg ynte am derm Saesneg?
Gallwch chwilio am dermau Cymraeg neu Saesneg gan ddefnyddio’r blwch chwilio; nid oes raid ichi ddewis iaith cyn chwilio am derm.

Chwilio am ymadrodd penodol? 
Does dim angen ichi roi dyfynodau dwbl am y geiriau hynny. Bydd unrhyw gofnodion cyfatebol llawn yn y gronfa yn ymddangos tua brig y rhestr.

Chwilio am derm neu deitl â sawl gair ynddo?
Gall fod yn gynt chwilio am ambell un o’r geiriau mwyaf anarferol yn hytrach na chwilio am bob gair, ee “housing fraud detection” yn hytrach na “prevention of social housing fraud (detection of fraud) (wales) regulations”.

Eisiau cyfyngu’r canlyniadau i bwnc arbennig?
Dewiswch y pwnc hwnnw o’r gwymplen a chlicio ar ‘Chwilio’.

Bydd TermCymru yn chwilio am ffurfiau treigledig ar eiriau Cymraeg sydd yn y gronfa, yn ogystal â’r ffurf gysefin, ee bydd chwilio am “Cymru” yn dod o hyd i dermau sy’n cynnwys y ffurfiau "Cymru", “Gymru”, “Chymru” a/neu “Nghymru”. Bydd y ffurfiau treigledig i’w gweld yn is i lawr y rhestr ganlyniadau na’r ffurf gysefin.

Ar y dudalen ganlyniadau

Sylwch - mae dwy glust ar y dudalen ganlyniadau; y naill ar gyfer termau Saesneg a'r llall ar gyfer termau Cymraeg. Bydd TermCymru yn arddangos y glust y gwnaethoch ei dewis ddiwethaf. Os ydych yn newid i chwilio am derm yn yr iaith arall, gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio ar y glust arall i weld y canlyniadau perthnasol.

Wrth chwilio am dermau Saesneg, bydd TermCymru hefyd yn dod o hyd i amrywiadau ar y geiriau Saesneg hynny. Er enghraifft, wrth chwilio am 'organisation', bydd hefyd yn arddangos termau sy'n cynnwys 'organisations', 'organised' ac 'organising'. Ni ellir cynnig hyn ar gyfer termau Cymraeg ar hyn o bryd.

Gallwch glicio ar derm penodol i fynd i dudalen sy'n arddangos y term hwnnw yn unig. Gall y cyfleuster hwn fod yn ddefnyddiol os ydych am anfon dolen i rywun at derm penodol.