Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw BydTermCymru?

Nod BydTermCymru yw bod yn gasgliad arloesol o ddeunyddiau a fydd o gymorth i gyfieithwyr mewnol ac allanol Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys ein cronfa dermau, TermCymru, ein Harddulliadur, a phob math o adnoddau eraill.

Mae BydTermCymru yn cynnwys:

  • ein cronfa dermau chwiliadwy, TermCymru
  • fersiwn chwiliadwy o Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu
  • adnoddau ar gyfer cyfieithu testunau deddfwriaethol
  • casgliad o gofau cyfieithu y gallwch eu lawrlwytho i’ch meddalwedd cof cyfieithu eich hun
  • adnoddau eraill ar gyfer cyfieithwyr proffesiynol.

Cyhoeddir y rhain ar y we yn y gobaith y byddant o ddefnydd nid yn unig i gyfieithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru ond hefyd i gyfieithwyr yn gyffredinol ac i eraill sy’n gweithio mewn hinsawdd ddwyieithog.

Os ydych yn defnyddio BydTermCymru yn rheolaidd, gwnewch hafan BydTermCymru yn Ffefryn yn eich porwr, fel y cewch y newyddion diweddaraf am ychwanegiadau a datblygiadau.

Cysylltwch â ni

Rydym yn croesawu eich sylwadau ynghylch BydTermCymru. Cysylltwch â ni yn bydtermcymru@llyw.cymru.