Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae meithrin diwylliant y bwrdd lle mae pob aelod yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed ac yn gallu gwneud cyfraniad ystyrlon yn hanfodol i lywodraethu teg ac effeithiol. Mae’r canllaw Byrddau Cynhwysol Ar Waith yn darparu canllawiau clir ac ymarferol i helpu byrddau i leihau rhagfarn ddiarwybod a chreu amgylcheddau lle gall talent amrywiol ffynnu go iawn.

Mae’r adnodd, a ddatblygwyd i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’r Strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru, yn nodi’r ymddygiadau a’r penderfyniadau bob dydd sy’n cryfhau cynhwysiant – nid fel arwydd tocynistaidd, ond fel rhan greiddiol o arweinyddiaeth gyfrifol.

Archwiliwch sut y gall eich bwrdd wneud penodiadau teg, croesawu aelodau newydd yn hyderus, a meithrin diwylliant lle mae galluogrwydd yn cael ei gydnabod a phawb yn cael eu grymuso i lwyddo.

Penodiadau bwrdd cynhwysol: cael pethau’n iawn o’r dechrau

Bod yn glir am yr hyn rydych chi’n chwilio amdano

Osgowch ofynion amwys fel “rhaid meddu ar brofiad ar fwrdd” oni bai bod hynny’n hanfodol. Ystyriwch sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad bywyd nad ydynt, o bosibl, wedi dod trwy lwybrau traddodiadol. Cydnabyddwch brofiad anweithredol o arweinyddiaeth gymunedol, ymgyrchu, ymgysylltu â’r cyhoedd, neu ymgynghori. 

Ar Waith

Cyflwynodd Epic Games “Reol Bwrw Golwg Arall” fel rhan o’u strategaeth recriwtio. Mae’r rheol yn annog aelodau’r panel recriwtio a rheolwyr cyflogi i oedi cyn diystyru ymgeiswyr nad ydynt yn dod o gefndir tebyg iddynt hwy eu hunain neu nad ydynt yn meddu ar broffil arferol ar gyfer y rôl. Boed hynny wrth ddarllen CV neu mewn cyfweliad, fe’u hanogir i gymryd eiliad a bwrw golwg arall – gan ofyn iddynt hwy eu hunain a allai rhagfarn ddiarwybod fod yn dylanwadu ar eu penderfyniad. 

Mae’r ymyrraeth syml hon yn arafu’r broses ddigon i wneud lle ar gyfer asesiadau tecach, mwy gofalus, a sicrhau ystyriaeth ehangach o ymgeiswyr sy’n meddu ar brofiadau a safbwyntiau gwahanol.

Ysgrifennu disgrifiadau rôl cynhwysol

Defnyddiwch iaith glir, gynhwysol. Osgowch jargon a chymwysterau diangen. Ysgrifennwch yn yr ail berson (“byddwch chi’n meddu ar...”) ac amlinellwch yn glir ymrwymiad y bwrdd i amrywiaeth – nid yn unig mewn troednodyn ond trwy’r hysbyseb yn ei chyfanrwydd.

Ar Waith

Mae Johnson & Johnson yn defnyddio offer ysgrifennu a bwerir gan AI fel Textio i gael gwared ar dermau sy’n allgáu neu sydd â chysylltiad penodol o ran rhywedd, ac i greu swydd-ddisgrifiadau cynhwysol.

Hyrwyddo cyfleoedd yn eang

Hysbysebwch y swydd y tu hwnt i sianeli arferol. Defnyddiwch rwydweithiau amrywiol, sefydliadau cymunedol, a llwyfannau wedi’u targedu at grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Manteisiwch ar rwydweithiau presennol yn eich sector neu ranbarth.  Trefnwch sesiynau gwybodaeth rhithwir fel y gall pobl ddysgu mwy am y rolau, darganfod sut i wneud cais, a chwrdd ag aelodau presennol y bwrdd.

Ar Waith

Mae Transport for London yn cydweithio ag ysgolion, colegau a phrifysgolion i gyrraedd pobl ifanc a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli trwy ymgyrchoedd wedi’u targedu ac allgymorth STEM.

Defnyddio paneli amrywiol a hyfforddedig

Rhaid i baneli penodiadau cyhoeddus adlewyrchu cymysgedd o gefndiroedd a safbwyntiau, a bod wedi’u hyfforddi ar ragfarn ddiarwybod ac i ddeall hiliaeth, gwrth-hiliaeth a sut y gall anghydraddoldebau strwythurol ddod i’r amlwg yn ystod y broses benodi. 

Er mwyn cefnogi hyn, mae’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus wedi ymrwymo i adolygu a chryfhau ei ganllawiau a’i brosesau panel ar gyfer penodiadau cyhoeddus gan sicrhau eglurder, tryloywder a chynhwysiant ar bob cam. Mae hyn yn cynnwys datblygu offer fel fframweithiau sgorio strwythuredig, disgwyliadau cliriach ar gyfer ymddygiad y panel, ystyried dulliau asesu amgen a chanllawiau i leihau rhagfarn mewn asesiadau a thrafodaethau.

Herio barn ar ba mor “addas” yw unigolyn

Osgowch lunio barn oddrychol ar ba mor “addas” yw unigolyn. Gallai hyn adlewyrchu rhagfarn ddiarwybod ac allgáu ymgeiswyr sy’n cynnig ffyrdd amrywiol a gwerthfawr o feddwl. Yn hytrach, gofynnwch: “Pa werth unigryw mae’r person hwn yn ei ychwanegu at ein bwrdd?”

Ar Waith

Mae Google yn hyfforddi paneli i werthuso ymgeiswyr ar sail gwerthoedd a’u gallu i ddatrys problemau, yn hytrach na chydymffurfiaeth ddiwylliannol.

Cynnig cefnogaeth drwy gydol y broses

Gwnewch addasiadau gweladwy a hygyrch ar bob cam. Cynigiwch ddogfennau mewn iaith glir, galwadau arweiniad, a fformatau amgen ar gyfer cyfweliadau.

Ar Waith

Mae HSBC yn defnyddio offer cymorth a llinellau cymorth a yrrir gan AI i helpu ymgeiswyr – yn enwedig ymgeiswyr niwrowahanol – i lywio’r broses recriwtio gyda mwy o hyder.

Gweithredu’n gadarnhaol lle caniateir hynny

Pan fo ymgeiswyr yn gyfartal o ran teilyngdod, penodwch yr unigolyn o’r grŵp sydd wedi’i dangynrychioli. Mae hyn yn gyfreithlon a gall helpu i adeiladu byrddau amrywiol wrth gynnal tegwch.

Mae’n hanfodol bod paneli yn derbyn hyfforddiant ar y defnydd cyfreithlon o weithredu cadarnhaol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’u bod yn deall y gwahaniaeth rhwng gweithredu cadarnhaol (cam rhagweithiol ond cyfreithlon) a gwahaniaethu cadarnhaol (sy’n parhau i fod yn anghyfreithlon). Mae’r wybodaeth hon yn galluogi penderfyniadau hyderus, moesegol ac effeithiol.

Ar Waith

Mae Bwrdd y BBC wedi defnyddio camau gweithredu cadarnhaol yn agored a thryloyw, gyda negeseuon clir i leihau stigma a chamddealltwriaeth.

Cael cynefino yn iawn

Sicrhewch eich bod yn teilwra darpariaeth gynefino i anghenion unigol. Cynigiwch ‘gyfeillion’ bwrdd, trefniadau ymsefydlu hyblyg a deunyddiau hygyrch. Anogwch sgyrsiau o’r dechrau i feithrin ymdeimlad o berthyn.

Ar Waith

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio proffiliau ymddygiadol opsiynol a sgyrsiau cynefino wedi’u teilwra i gefnogi aelodau’r bwrdd o’r diwrnod cyntaf. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i’r rheini y mae rolau bwrdd yn newydd iddynt ac unigolion niwrowahanol.

Meithrin a Chynnal Diwylliant Bwrdd Cynhwysol

Hyrwyddo amrywiaeth meddwl

Anogwch wahanol ffyrdd o gyfathrebu, meddwl a chyfrannu. Crëwch le i fyfyrio a chynhwyswch ystod o leisiau wrth wneud penderfyniadau allweddol.

Ar Waith

Fe wnaeth “Project Aristotle” Google  ganfod mai diogelwch seicolegol yw prif ragfynegydd llwyddiant tîm – lle mae unigolion yn teimlo’n ddigon diogel i leisio barn, cymryd risgiau a rhannu syniadau heb fod ofn embaras na chael eu gwrthod. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer meithrin amrywiaeth meddwl.

Mae PwC yn cefnogi diogelwch seicolegol a chynhwysiant trwy annog sgyrsiau agored rheolaidd am amrywiaeth a chynhwysiant trwy fforymau staff, arolygon a thrafodaethau pwrpasol. Mae’r rhain yn helpu wrth fynd i’r afael â heriau, olrhain cynnydd a meithrin diwylliant lle y cymerir camau gweithredol i annog a gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol.

Ymgorffori ymddygiadau cynhwysol

Sylwch ar ficroymosodiadau a rhagdybiaethau, a’u herio. Sicrhewch eich bod yn cylchdroi rolau mewn cyfarfodydd. Gofynnwch: “Llais pwy sydd ar goll?”

Ar Waith

Mae GoDaddy yn hyfforddi ei arweinwyr i nodi ymddygiadau sy’n allgáu ac yn cynnal sgyrsiau rheolaidd ar feithrin ymdeimlad o berthyn.

Normaleiddio mentora o chwith a sgyrsiau diogel

Galluogwch uwch-aelodau’r bwrdd i gael eu mentora gan unigolion o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli. Cynigwch leoedd anffurfiol i drafod hil, anabledd, rhywedd a phrofiad bywyd.

Ar Waith

Fe wnaeth Bank of America ddechrau trefnu “Sgyrsiau Dewr” rheolaidd er mwyn meithrin deialog agored i bontio gwahaniaethau a chynyddu empathi ar draws y sefydliad. Mae’r sgyrsiau yn darparu man diogel lle nad oes rhaid i aelodau fod ofn defnyddio’r derminoleg anghywir.

Gosod amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol cynhwysol

Sicrhewch eich bod yn cynnwys amcanion mesuradwy ar gyfer cynhwysiant – megis mentora, allgymorth neu recriwtio cynhwysol – yn nisgwyliadau perfformiad aelodau’r bwrdd. Lle bo’n amlwg bod grwpiau ethnig wedi’u tangynrychioli, dylai byrddau ystyried gosod targedau clir â therfyn amser i fynd i’r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r dull hwn yn llwyddiannus i ysgogi cynnydd mewn meysydd lle gwelir anghydraddoldeb parhaus.

Ar Waith

Mae Channel 4 yn dal ei uwch-arweinwyr a’r bwrdd yn atebol am ymddygiad cynhwysol ac yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd.

Mae’r Admiral Group, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi sefydlu gweithgorau mewnol ar amrywiaeth a chynhwysiant sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisïau, mentrau a phrofiadau gweithwyr. Mae’r grwpiau hyn yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar bob lefel yn cael eu gwneud ar sail gwerthoedd cynhwysol. Mae Admiral hefyd yn olrhain cynnydd yn erbyn ei ymrwymiadau amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn cynnwys gweithwyr yn y broses o lunio’r camau nesaf.

Dathlu a gwerthfawrogi talent amrywiol

Cyflwynwch a disgrifiwch aelodau’r bwrdd ar sail eu cryfderau a’u harbenigedd – nid eu hamrywiaeth yn unig. Crëwch lwybrau i aelodau amrywiol arwain is-bwyllgorau neu gynrychioli’r bwrdd yn gyhoeddus.

Ar Waith

Mae Awdurdod Llundain Fwyaf yn tynnu sylw yn eu gwaith cyfathrebu at gefndir proffesiynol a chyflawniadau unigolion sydd newydd eu penodi er mwyn symud y naratif o gynrychiolaeth i gyfraniad.

Mae Moneypenny, cwmni o Ogledd Cymru sy’n cael ei gydnabod am ei ddiwylliant gweithle blaengar, yn rhoi pwyslais cryf ar lesiant gweithwyr ac arweinyddiaeth gynhwysol. Mae ffocws y cwmni ar gymorth personol, cyfathrebu agored a dathlu cryfderau amrywiol wedi helpu i greu gweithle lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu.