Mae’r atodiad hwn yn nodi dull lefel uchel o ddefnyddio data, tystiolaeth a gwybodaeth mewn ffordd sy’n gymesur, yn bwrpasol ac yn gyson ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Ni fwriedir iddo ychwanegu baich na rhagnodi gofynion technegol manwl. Yn hytrach, mae’n cynnig hawliau a disgwyliadau ymarferol i gefnogi proses asesu symlach, sy’n canolbwyntio ar y cyd-flaenoriaethau y gall partneriaethau ddylanwadu’n ystyrlon arnyn nhw.
Asesiad cymesur a phwrpasol
Rydym yn annog partneriaethau i fabwysiadu dull cymesur o ymdrin â thystiolaeth a dadansoddiad. Nid cynhyrchu adroddiad hollgynhwysfawr yw pwrpas yr asesiad. Yn hytrach, dylai ddarparu naratif clir sy’n:
- disgrifio beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos
- nodi rhagdybiaethau allweddol, cyfyngiadau a bylchau yn y dystiolaeth, gan gynnwys a oes dyddiad ar gyfer y data, neu ddata anghyflawn neu ddim ar gael, a beth mae hyn yn ei olygu o ran dehongli.
- tynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf
- esbonio pam mae rhai materion penodol yn dod i’r amlwg fel blaenoriaethau
- dangos pam mae angen gweithredu ar draws y bartneriaeth
Dylai partneriaethau nodi pa dystiolaeth maen nhw wedi’i defnyddio, er enghraifft, rhestr o setiau data allweddol, ffynonellau, ymchwil a gwybodaeth am gymunedau. Dylai darllenwyr allu nodi’r dystiolaeth sy’n sail i’r prif honiadau, casgliadau a blaenoriaethau, a bod unrhyw gyfyngiadau neu fylchau yn cael eu cydnabod yn glir. Gellir cynnwys hyn yn yr asesiad, ei gyhoeddi fel catalog data, atodiad technegol, neu ei gadw drwy adnodd digidol hygyrch. Un o’r prif ddisgwyliadau yw bod yr asesiad yn adrodd stori glir am sut mae’r dystiolaeth wedi llywio’r canfyddiadau a bod y dystiolaeth berthnasol ar gael yn glir.
Hawliau ymarferol ar gyfer gweithio gyda thystiolaeth
Efallai y bydd partneriaethau am ddefnyddio’r hawliau canlynol i wneud y broses asesu’n haws ei rheoli:
- Fformatau hyblyg: Gall partneriaethau ddefnyddio unrhyw fformat neu dechnoleg, fel llwyfannau ar-lein, dangosfyrddau rhyngweithiol, fideos, ffeithluniau, neu adroddiadau ysgrifenedig traddodiadol, ar yr amod bod allbynnau’n hygyrch, yn dryloyw ac yn hawdd i’r cyhoedd eu deall. Pan fo dangosfyrddau rhyngweithiol neu offer data byw yn cael eu defnyddio, dylai partneriaethau sicrhau bod dehongli yn hytrach na swmp y data yn parhau i fod yn ganolog. Dylai dangosfyrddau helpu i sicrhau tryloywder a dealltwriaeth, nid disodli barn ddadansoddol neu esboniad naratif.
- Mae bylchau’n dderbyniol: Os yw data’n gyfyngedig, yn aneglur neu’n esblygu, gallwch nodi hyn yn hytrach na cheisio llenwi pob bwlch.
- Cynnyrch tystiolaeth sy’n gyffredin: Efallai y byddwch yn dewis datblygu catalogau data rhanbarthol, proffiliau thematig neu ddangosfyrddau a rennir i gefnogi asesiadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Nodi a chasglu data a thystiolaeth ar gyfer eich asesiad
Bydd dealltwriaeth glir o’r hyn y bwriedir i’r asesiad ei gyflawni yn helpu i gyfeirio eich proses casglu tystiolaeth ar y materion sydd bwysicaf i’ch ardal. Mae esbonio eich diben yn glir o’r cychwyn cyntaf yn helpu i lunio strwythur yr asesiad, yn nodi lle mae angen archwilio’n ddyfnach, ac yn rhoi golwg glir ar y blaenoriaethau a fydd yn dilyn yn eich asesiadau Llesiant neu Gynlluniau Anghenion y Boblogaeth.
Mae’n debygol y bydd llawer o’r data sydd ei angen arnoch yn bodoli’n barod. Un o’r tasgau cynnar allweddol yw nodi ffynonellau perthnasol a deall beth all pob un ei gyfrannu. Efallai y bydd ffynonellau defnyddiol yn cynnwys:
- Ystadegau swyddogol - fel data a gynhyrchir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r rhain yn darparu data cadarn y gellir ei gymharu dros amser ac ar draws ardaloedd, er yn aml nid oes llawer o fanylder ar lefel gymunedol.
- Data gweinyddol - gwybodaeth a gesglir drwy ddarparu gwasanaethau. Gall hyn gynnig cipolwg ar y galw a’r defnydd o wasanaethau amser real, ond gall amrywio o ran ansawdd neu o ran bod yn ddata cyflawn.
- Gwybodaeth leol a chymunedol - gwybodaeth a gynhyrchir drwy ymgynghoriadau, adroddiadau partneriaid neu ymgysylltu lleol, sy’n gallu datgelu materion nad ydynt i’w gweld mewn setiau data cenedlaethol.
- Llenyddiaeth lwyd - gwerthusiadau, crynodebau ymchwil ac adroddiadau rhanddeiliaid sy’n rhoi gwybodaeth gyd-destunol neu thematig. Gall y rhain amrywio o ran ansawdd a dylid eu dehongli’n ofalus.
- Gwybodaeth ansoddol a thystiolaeth gymunedol - fel cyfweliadau, gweithdai neu weithgareddau cyd-gynhyrchu, sy’n rhoi dyfnder ac esboniad ond efallai nad yw’n cynrychioli pob grŵp yn gyfartal.
- Ffynonellau tystiolaeth amgylcheddol – gan gynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth ranbarthol am gyfleoedd, pwysau, a risgiau amgylcheddol
Nid oes dim un ffynhonnell unigol yn rhoi darlun cyflawn. Gall defnyddio sawl math o dystiolaeth gyda’i gilydd helpu i ategu canfyddiadau, tynnu sylw at yr hyn sy’n croesddweud ei gilydd, a meithrin dealltwriaeth fwy cyflawn o lesiant ac angen.
Wrth ystyried y mathau uchod o dystiolaeth, dylai partneriaethau ddechrau drwy ystyried ffynonellau tystiolaeth cydnabyddedig a dibynadwy, gan gynnwys ystadegau swyddogol, fframweithiau dangosyddion cenedlaethol, setiau data gweinyddol, ac ymchwil sydd wedi ennill ei phlwyf. Mae defnyddio’r ffynonellau hyn yn hyrwyddo cymharedd, cysondeb a hyder mewn canfyddiadau ledled Cymru. Gellir defnyddio ffynonellau eraill wedyn i gasglu gwybodaeth a data ychwanegol a all ategu’r data hwn drwy wybodaeth fwy lleol.
Wrth ystyried y defnydd o ddata sy’n bodoli’n barod, gan gynnwys gwybodaeth ansoddol gan ddinasyddion a gasglwyd drwy sianeli ymgysylltu sydd eisoes yn bodoli neu ar waith, dylai partneriaethau fynd ati’n feirniadol i ystyried pa mor gadarn a chynrychioladol yw’r dystiolaeth a’i goblygiadau o ran canfyddiadau. Yn benodol, dylech ystyried:
- a oes amrywiaeth o grwpiau demograffig yn cael eu cynrychioli
- a yw amrywiadau daearyddol ar draws y rhanbarth yn cael eu hadlewyrchu
- a yw’r dystiolaeth yn ymdrin â’r themâu allweddol sy’n debygol o ddylanwadu ar lesiant a/neu anghenion gofal a chymorth
- a yw safbwyntiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol wedi cael eu cynnwys yn ystyrlon
Casglu data newydd
Pan fo bylchau yn cael eu nodi yn y dystiolaeth, efallai y bydd partneriaethau am gasglu data cymesur a phenodol i gryfhau’r asesiad. Nid oes disgwyl i neb gynnal gweithgarwch newydd helaeth i fynd i’r afael â phob bwlch yn y dystiolaeth, ond yn hytrach i gael sylfaen dystiolaeth gytbwys sy’n sail gredadwy i’ch canfyddiadau.
Mae canfod bylchau’n gynnar yn caniatáu i bartneriaethau gynllunio eu dull gweithredu a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael. Mae ymarfer syml i fapio data yn gallu helpu i egluro pa wybodaeth sydd eisoes yn bodoli, ymhle mae’r bylchau, a pha fylchau sydd bwysicaf i fynd i’r afael â nhw.
Mae’r capasiti ar gyfer casglu data sylfaenol yn amrywio ledled Cymru. Efallai y bydd gan rai ardaloedd ddigon o gapasiti mewnol ar gyfer dadansoddi, tra bydd angen i eraill ddefnyddio ymchwilwyr allanol neu bartneriaid academaidd. Dylai penderfyniadau ynghylch sut mae casglu tystiolaeth newydd ystyried sgiliau lleol, adnoddau a phwysigrwydd cymharol eich angen am dystiolaeth.
Pan fo angen casglu data newydd, dylai partneriaethau ystyried pwy i’w cynnwys, pa ddulliau sy’n briodol, ac a oes angen cymryd camau i sicrhau bod grwpiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn cael eu cynnwys yn ystyrlon. Lle y bo’n bosibl, efallai y byddai’n briodol integreiddio data ychwanegol sy’n cael ei gasglu i weithgareddau ymgysylltu sydd wedi’u cynllunio ac sydd eisoes yn bodoli yn hytrach na chreu ymarferion cwbl newydd.
Dadansoddi a dehongli eich data
Ar ôl i chi gasglu eich data a’ch tystiolaeth, y cam nesaf yw dadansoddi a dehongli’r hyn maen nhw’n ei ddangos gyda’i gilydd am anghenion pobl, y ffactorau sy’n eu siapio, a’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol. Nod y cam hwn yw egluro beth mae’r dystiolaeth yn ei olygu a pham ei bod yn bwysig, nid cyflwyno pob dadansoddiad yn llawn nac atgynhyrchu pob set ddata. Dylai eich asesiad amlinellu’r dull dadansoddi a sut rydych chi wedi dod i’ch casgliad, wedi’i lywio gan y cwestiynau craidd a osodwyd ar ddechrau’r asesiad. Dylai’r rhain lywio eich dehongliad a helpu i weld beth yw’r negeseuon pwysicaf.
Fel rhan o’r dehongliad hwn, efallai y byddai’n ddefnyddiol i bartneriaethau ystyried eu penderfyniadau ynghylch ffiniau – y dewisiadau a wnaed ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad, yr hyn sydd wedi’i hepgor, a pham. Mae bod yn glir am y ffiniau hyn yn helpu i osgoi bylchau cudd neu dybiaethau ffug. Efallai y bydd partneriaethau am ofyn:
- Pa grwpiau, lleoedd, ffynonellau data neu themâu rydym wedi’u cynnwys – a beth sydd y tu allan i’r ffin?
- A oes unrhyw safbwyntiau, profiadau neu ffactorau dylanwadol pwysig ar goll o’n tystiolaeth?
- Pe byddem yn ehangu neu’n culhau’r ffin ychydig, a fyddai’r mater yn edrych yn wahanol?
- Sut gallai ein dewisiadau o ffiniau effeithio ar ein dealltwriaeth o anghydraddoldebau neu amrywiadau lleol?
Dadansoddi sefyllfa a dadansoddi ymateb
Mae’n debygol y bydd eich dadansoddiad yn cynnwys y ddau isod:
- Dadansoddiad o sefyllfa: deall yr amodau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol yn eich ardal, neu anghenion grwpiau penodol o’r boblogaeth.
- Dadansoddiad o’r ymatebion: ystyried beth mae’r dystiolaeth yn ei awgrymu ynghylch pa faterion y dylid eu blaenoriaethu, y mathau o ymyriadau a allai helpu, a’r hyn sy’n hysbys am yr hyn sy’n gweithio neu ddim yn gweithio.
Adnabod patrymau, anghydraddoldebau a thueddiadau
Dylai’r dadansoddiad edrych ar y prif batrymau a thueddiadau yn eich ardal, sut maen nhw’n amrywio rhwng grwpiau neu leoedd, a sut maen nhw’n cymharu ag ardaloedd eraill neu feincnodau cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys nodi anghydraddoldebau, ystyried a ydyn nhw’n mynd yn fwy neu’n mynd yn llai, a phwyso a mesur sut mae amodau wedi newid ers yr asesiad diwethaf.
Defnyddio dull meddwl trwy systemau wrth ddehongli
Wrth ddadansoddi tystiolaeth, efallai y bydd partneriaethau am ystyried sut mae materion yn gysylltiedig â’i gilydd, sut mae camau gweithredu neu bwysau mewn un rhan o’r system yn effeithio ar rannau eraill, a sut mae sbardunau cyffredin yn dylanwadu ar gyfrifoldebau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Gall defnyddio dull meddwl trwy systemau helpu i nodi dynameg sylfaenol nad yw efallai’n weladwy wrth edrych ar ffynonellau data unigol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i bartneriaethau ofyn:
- Beth sy’n achosi neu’n atgyfnerthu’r patrwm rydym yn ei weld?
- A yw gwasanaethau, mathau o ymddygiad, amgylcheddau, neu bolisïau’n rhyngweithio mewn ffyrdd annisgwyl?
- Pa ganlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o benderfyniadau neu bwysau presennol?
- Ymhle y gallai camau ataliol gael yr effaith fwyaf?
Mae’r dull hwn yn annog dehongliad mwy cyfannol ac ataliol ac yn helpu i osgoi tybiaethau cul neu gyfyng.
Deall yr hyn sy’n sbarduno ac yn achosi
Dylai’r dehongli fynd y tu hwnt i ddisgrifio patrymau, gan edrych ar y ffactorau sylfaenol sy’n sbarduno a’r ffactorau sy’n gallu achosi. Gall y rhain adlewyrchu newidiadau i wasanaethau lleol, datblygiadau polisi ehangach, newidiadau demograffig neu ddigwyddiadau allanol. Mae deall pam mae tueddiadau’n digwydd yn gallu helpu i lywio’r math o gamau gweithredu a allai fod yn ofynnol a lle gallai ymyrraeth gynnar ac ataliol gael yr effaith fwyaf.
Defnyddio nifer o ffynonellau
Mae defnyddio nifer o ffynonellau gyda’i gilydd yn caniatáu i bartneriaethau gryfhau eu dadansoddiad. Gall ffynonellau tystiolaeth ategu ei gilydd, tynnu sylw at bethau sy’n croesddweud ei gilydd neu ddatgelu gwahanol safbwyntiau. Pan fo ffynonellau’n cynnig gwybodaeth wahanol – er enghraifft, rhwng barn y cyhoedd a data gweinyddol – gall edrych ar y rhesymau dros y gwahaniaethau hyn gynnig cipolwg gwerthfawr.
Cysylltu tystiolaeth â chasgliadau
Dylai partneriaethau allu dangos sut mae tystiolaeth wedi llywio canfyddiadau, casgliadau a blaenoriaethau allweddol. Dylai dadansoddiad wahaniaethu’n glir rhwng tystiolaeth, dehongliad, a barn. Pan fo barn broffesiynol neu farn rhanddeiliaid yn dylanwadu ar gasgliadau, dylid gwneud hyn yn glir ochr yn ochr â’r dystiolaeth ategol.
Bod yn dryloyw ynghylch rhagdybiaethau a chyfyngiadau
Mae’n arferol i fylchau mewn tystiolaeth, ansicrwydd a chyfyngiadau fodoli. Mae cydnabod y rhain yn amlwg yn cryfhau eich dadansoddiad ac yn helpu i lywio meysydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae’n arfer da hefyd bod yn dryloyw ynghylch unrhyw dybiaethau sydd wedi’u gwneud yn ystod y dadansoddiad, a pham roedd angen y tybiaethau hyn. Mae hyn yn helpu i ddeall y canfyddiadau ac yn meithrin hyder yn y dehongliad.
Beth sydd angen ei gynnwys (elfennau naratif sylfaenol)
Yn ogystal â’r pwyntiau hyn am y dull dadansoddi a thystiolaeth, dylai partneriaethau fod yn ymwybodol o gynnyrch terfynol eu hasesiadau. Dylai pob asesiad gynnwys naratif cryno sy’n ymdrin â’r canlynol:
- Yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddangos: y prif ganfyddiadau o ddata, ymchwil a phrofiad bywyd, gan gynnwys cyfeiriadau clir at y prif ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddiwyd
- Yr hyn mae’r asesiad yn ei gynnwys a ddim yn ei gynnwys: esboniad byr o unrhyw gyfyngiadau, ansicrwydd neu ffiniau allweddol yn y dystiolaeth, gan gynnwys lle dylid bod yn ofalus wrth drin casgliadau.
- Pam mae hyn yn bwysig: y goblygiadau i lesiant neu i anghenion gofal a chymorth
- Beth sy’n newid: y prif dueddiadau, pwysau, a chryfderau sy’n dod i’r amlwg ar draws y rhanbarth
- Pam mae hyn yn flaenoriaeth ar gyfer Cynlluniau Llesiant a Chynlluniau Ardal: pam mae hyn yn flaenoriaeth ar gyfer gweithredu.
- Pan fo’r bartneriaeth yn ychwanegu gwerth: materion lle mae angen gweithredu ar y cyd, ac ni all sefydliadau unigol gyflawni newid ar eu pen eu hunain
Dylai’r naratif hwn fynd ati’n uniongyrchol i lywio'r gwaith o nodi nifer lai o flaenoriaethau, gan adlewyrchu eich bwriad i asesiadau fod yn fwy dethol a strategol.
Dadansoddiad fesul ardal gymunedol yn yr Asesiad (Llesiant)
Ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu bod asesiadau’n “nodi’r cymunedau sy’n rhan o’r ardal” ac yn dadansoddi cyflwr llesiant ym mhob cymuned a’r ardal gyfan. Mae gan bartneriaethau hyblygrwydd o ran sut y cyflwynir hyn. Nid yw’n ofynnol cynhyrchu penodau unigol neu atodiadau ar gyfer pob ardal gymunedol, oni bai fod hyn yn cael ei ffafrio’n lleol.
Gellir integreiddio dadansoddiad o ardal gymunedol yn y prif naratif, ar yr amod bod yr asesiad yn tynnu sylw’n glir at le mae llesiant yn amrywio rhwng cymunedau ac yn nodi unrhyw anghydraddoldebau, amrywiadau neu batrymau lleol nodedig. Pan fydd atodiad unigol neu ddeunydd atodol yn fwy ymarferol, mae hyn hefyd yn dderbyniol. Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr asesiad yn dangos dealltwriaeth glir o amrywiadau ar lefel gymunedol ac yn adlewyrchu’r ddealltwriaeth hon yn y dadansoddiad cyffredinol.
Cynllunio ar gyfer senarios ac ar gyfer y dyfodol
Er mwyn helpu i sicrhau gwell penderfyniadau, efallai y bydd partneriaethau am gynnwys golwg gryno a chymesur sy’n edrych i’r dyfodol. Nid oes angen gwaith modelu cymhleth ar gyfer hyn. Yn hytrach, mae modd defnyddio dulliau syml ac ymarferol, megis:
- Trafodaethau “beth os” gyda phartneriaid
- Brasluniau o senarios byr (er enghraifft, optimistaidd, llinell sylfaen, heriol)
- Llinellau tuedd a ddaw o ddangosyddion cenedlaethol, rhagolygon demograffig neu wybodaeth leol
- Ystyried pa newidiadau sydd fwyaf tebygol o siapio’r 5-10 mlynedd nesaf
Nid rhagweld y dyfodol yw’r diben, ond helpu partneriaethau i ystyried sut gallai blaenoriaethau esblygu a lle bydd angen gweithredu ar y cyd fwyaf. Bydd y cipolwg hwn i’r dyfodol yn cefnogi’r broses flaenoriaethu a ddisgrifir yn Adran 5.