Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwella’r cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Trosolwg
Mae’n rhaid i bob bwrdd gynnal asesiad llesiant a chyhoeddi cynllun llesiant lleol blynyddol. Bydd y cynllun yn amlinellu sut y byddant yn cyflawni eu cyfrifoldebau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Aelodau
Aelodau Statudol pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw:
- Yr Awdurdod Lleol
- Y Bwrdd Iechyd Lleol
- Yr Awdurdod Tân ac Achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn ogystal â’r aelodau statudol, bydd gwahoddiad i'r canlynol gymryd rhan:
- Gweinidogion Cymru
- Prif Gwnstabliaid
- Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Gwasanaethau Prawf Penodol
O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol.