Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn dod â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector at ei gilydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl eu hardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn dod â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector at ei gilydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl eu hardal.

Cawsant eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant er mwyn:

  • gwella llesiant y boblogaeth
  • gwella’r ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu

Rhaid i bob un o’r byrddau partneriaeth rhanbarthol wneud y canlynol:

  • cynnal asesiad poblogaeth ar gyfer eu rhanbarth
  • llunio cynllun ardal ar gyfer y rhanbarth
  • darparu adroddiad rhanbarthol blynyddol
  • dangos bod ymgysylltu a chydgynhyrchu â dinasyddion yn digwydd

Mae 7 o Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol:

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae’r Gorllewin

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys

Aelodaeth

Mae hyn yn amrywio rhwng rhanbarthau ond gall gynnwys:

  • aelod etholedig o un awdurdod lleol yn y rhanbarh
  • aelod o’r bwrdd iechyd lleol
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pob awdurdod lleol yn y rhanbarth
  • cynrychiolydd o’r maes tai mewn awdurdod lleol
  • landlord cymdeithasol cofrestredig
  • cynrychiolydd o’r maes addysg mewn awdurdod lleol
  • o leiaf un person o’r trydydd sector sy’n gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol
  • aelod o’r cyhoedd
  • gofalwr