Neidio i'r prif gynnwy

Nod ymgyrch 'Paid cadw'n dawel' oedd dangos sut y gall cynnig help i rywun sy'n dioddef neu wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol fod yn rhywbeth pwerus iawn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwybodaeth am yr ymgyrch

Ein nod yw creu diwylliant ledled Cymru lle mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r hawl i gymryd camau i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Nod yr ymgyrch hon oedd annog pawb yng Nghymru i weithredu; i wneud rhywbeth pan fyddan nhw'n poeni y gallai rhywun y maen nhw'n ei adnabod fod yn dioddef trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Roedd yr ymgyrch amlgyfrwng hon yn cynnwys ffilm, radio, a chyfryngau digidol a chymdeithasol.

Deunyddiau hyrwyddo

Cymorth pellach

I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn.