Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chefnogaeth i'r rheini sy'n dioddef caethwasiaeth fodern neu sy'n adnabod rhywun sy'n dioddef honno.

Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oedran, rhyw a hil ac mae’n cynnwys gwahanol fathau o gamfanteisio. 

Mae Caethwasiaeth Fodern ar gynnydd yng Nghymru. Yn 2021, cafwyd 479 o adroddiadau o atgyfeirio dioddefwyr posibl oherwydd caethwasiaeth fodern. Mae hyn yn gynnydd o 25% ar ffigurau 2020.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef caethwasiaeth, mae’n bwysig eich bod yn chwilio am gymorth cyn gynted â phosib. Gallwch siarad â phobl a fydd yn gallu darparu’r cymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ddianc o gaethwasiaeth.

Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern

Ffoniwch: 0800 01 21 700

Llinellau ar agor 24 awr y dydd ac maent yn ddi-dâl o linellau tir a'r rhan fwyaf o ffonau symudol.

Rhowch wybod am achos pryder ar wefan Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern

Bydd un o’n cynghorwyr yn ei ddarllen o fewn 24 ac yn penderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd.

Cwestiynau cyffredin

Beth yw caethwasiaeth fodern?

Mae caethwasiaeth fodern yn anghyfreithiol. Caiff ei diffinio i olygu bod plant, menywod neu ddynion yn cael eu recriwtio, eu symud, eu llochesu neu eu derbyn drwy ddefnyddio grym, pwysau, twyll, camdriniaeth neu unrhyw ddull arall er mwyn camfanteisio arnynt.

Beth yw arwyddion a symptomau caethwasiaeth fodern?

Mae caethwasiaeth yn cael ei galw’n drosedd gudd oherwydd mae’n gallu bod yn anodd nodi pwy sy’n dioddef.

Cafwyd achosion o bobl yn dianc ac yn mynd at yr heddlu. Ond does dim llawer yn gallu gadael eu mannau gwaith heb rywun yn eu hebrwng neu yn eu tywys, a dydyn nhw ddim yn rhydd i gysylltu â’u teulu, ffrindiau, neu aelodau o’r cyhoedd.

Dyma’r arwyddion mwyaf cyffredin i sylwi arnyn nhw:

Pryd a gwedd

  • Ofnus, gorbryderus, yn teimlo’n isel, yn ymostyngol, ar bigau’r drain, neu’n nerfus/paranoid.
  • Anarferol o ofnus neu orbryderus.
  • Ymddangos yn dawedog, encilgar.
  • Osgoi edrych i fyw llygaid rhywun.
  • Yn gyndyn o dderbyn cymorth.
  • Diffyg gofal iechyd/gofal deintyddol.
  • Golwg diffyg maeth.
  • Dangos arwyddion o gam-drin corfforol a/neu rywiol, atal yn gorfforol, caethiwed neu arteithio.

Wedi’i ynysu

  • Ddim yn cael teithio ar eu pen eu hunain.
  • Prin yn ymwneud ag eraill.
  • Ddim yn gyfarwydd â’r gymdogaeth na’r man gweithio
  • Yn ymddangos dan reolaeth eraill.

Diffyg rheolaeth

  • Dim llawer o eiddo personol, os o gwbl.
  • Ddim yn rheol eu harian eu hunain, a heb gofnodion ariannol neu gyfrif banc
  • Ddim yn rheoli eu dogfennau adnabod eu hunain (ID neu basbort).
  • Ddim yn cael/gallu siarad drostynt eu hunain (efallai bod trydydd parti yn mynnu bod yn bresennol ac/neu’n cyfieithu)
  • Efallai eu bod yn gwisgo’r un dillad o ddydd i ddydd neu’n gwisgo dillad anaddas i’r gwaith dan sylw.

Amodau gweithio gwael

  • Amgylchiadau budr a chyfyng.
  • Llety gorlawn.
  • Byw a gweithio yn yr un lle.

Amseroedd teithio anarferol

  • Efallai bod rhywun yn eu gollwng/casglu o’r gwaith ar adeg reolaidd, naill ai’n gynnar iawn neu’n hwyr yn y nos.

Arwyddion penodol i blant sy’n dioddef

Rhiant neu warcheidwad cyfreithiol yn absennol

  • Mae oedolyn nad yw’n rhiant neu warcheidwad cyfreithlon yn gofalu am y plentyn. 
  • Mae ansawdd y berthynas rhwng y plentyn a’r oedolyn sy’n ofalwr yn wael ac yn destun pryder
  • Efallai nad yw’n mynychu’r ysgol neu heb gofrestru gyda meddyg teulu.

Plant niferus

  • Mae nifer o blant nad ydyn nhw’n perthyn i’w gilydd yn byw yn yr un cyfeiriad.
  • Mae plant yn mynd a dod yn aml o’r adeilad.

Meithrin perthynas amhriodol

  • Mae’n bosib na fydd plant bob amser yn dangos arwyddion allanol o drallod ac efallai y bydd ganddynt ‘berthynas arbennig’ â’r rhai sy’n cam-fanteisio arnynt ac wedi’u paratoi i beidio â datgelu’r ffaith eu bod yn cael eu cam-drin - ond maen nhw’n debygol o fod yn ofnus ac yn dioddef trawma.

Dogfennau adnabod

  • Mae dogfennau ar goll, ffug neu wedi’u newid yn gyffredin.

Plant ar goll

  • Mae plant sy’n dod i gysylltiad â’r awdurdodau yn aml yn diflannu ac yn cael eu hailfasnachu o fewn y DU neu allan o’r wlad.

Os oes gennych unrhyw bryderon, ffoniwch Linell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 0800 0121 700 neu cysylltwch ag un o’r asiantaethau arbenigol sy’n ymdrin â dioddefwyr caethwasiaeth.

Beth fydd yn digwydd os bydda' i’n ffonio Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern?

Os ydych chi’n ffonio’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern, bydd eich galwad yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn sensitive.

Gall unrhyw un sydd â phryderon bod plant neu oedolion yn dioddef caethwasiaeth ffonio’r llinell gymorth hon. Rydym yn croesawu galwadau hefyd gan ddioddefwyr sydd angen cymorth ac ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol.

Mae’r holl alwadau’n gyfrinachol ac yn cael eu hateb gan staff profiadol iawn sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Byddant yn gwrando arnoch chi, yn eich credu ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i chi. Ni fyddwch yn cael eich barnu na’ch beio a does dim rhaid i chi fod yn barod i gymryd unrhyw gamau pellach.

Os oes angen rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, bydd hyn ond yn cael ei wneud os ydych chi’n cytuno’n llwyr. Yr eithriadau i hyn yw bydd eich bywyd mewn perygl dybryd neu os oes plant mewn perygl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu i sicrhau eich lles a’ch diogelwch chi a’ch plant.

Ni fydd rhif y Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern yn ymddangos ar eich bil ffôn.

Mae’r llinell gymorth yn cael ei chynnal a’i hariannu gan Unseen. 

Pa gwestiynau fydd yn rhai i mi eu hateb?

Yr ystyriaeth gyntaf yw a ydych chi mewn perygl dybryd ac a yw’n ddiogel i chi siarad. Efallai y bydd trefniadau diogel yn cael eu gwneud i’ch ffonio yn ôl os oes yn rhaid i chi ddod â’r alwad i ben.

Yna, bydd staff y llinell gymorth yn gwrando ar eich rhesymau dros ffonio ac yn ymateb i’ch anghenion. Beth bynnag fydd y rheswm dros yr alwad, a beth bynnag y canlyniad, bydd gweithwyr cymorth y Llinell Gymorth yn helpu i nodi sut gallwch chi gael gafael ar gymorth a chefnogaeth a sut y gallwch chi a’ch plant fod yn fwy diogel, pa bynnag benderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud am eich perthynas.

Gall y Llinell Gymorth:

  • gyfeirio pobl (gyda neu heb blant) at lety diogel brys
  • eich cyfeirio at gymorth wyneb yn wyneb drwy wasanaethau cymorth lleol
  • gwrando arnoch chi a chynnig cymorth emosiynol.

Hygyrchedd

Mae’r Llinell Gymorth yn darparu cymorth yn Saesneg. Rydym hefyd yn aelod o Language Line, ac yn gallu darparu cyfieithydd ar gyfer y rhai fydd yn ffonio sydd ag anghenion cymorth iaith. Mae gweithiwr cymorth y Llinell Gymorth yn trefnu sgwrs tair ffordd er mwyn i’r sawl sy’n ffonio allu siarad â gweithiwr y Llinell Gymorth drwy gyfieithydd.

Mae’r Llinell Gymorth hefyd yn cynnig gwasanaeth BT Typetalk ar gyfer pobl sy’n ffonio  sydd ag anawsterau clyw.

Pa gymorth sydd ar gael imi fel goroeswr caethwasiaeth?

Mae sefydliadau yng Nghymru sy’n gallu darparu cymorth arbenigol os ydych chi’n oroeswr caethwasiaeth.

Mae Llwybrau Gofal a Bawso yn darparu cymorth i bobl 18 oed a hŷn ac mae Barnardo’s yn darparu cymorth i bobl ifanc a phlant dan 18 oed.

Darparu’r gofal priodol, ar yr adeg iawn, ar eich cyfer chi

Mae ‘Llwybr Gofal’ ar waith i unrhyw un y tybir sydd wedi goroesi caethwasiaeth yng Nghymru. Mae’r Llwybr yn sicrhau bod y cymorth iawn yn cael ei ddarparu i chi, yn dibynnu ar eich anghenion. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau iechyd, y rhai a ddarperir gan awdurdodau lleol a gwasanaethau arbenigol yn ôl y gofyn.

Yng Nghymru, y prif wasanaethau arbenigol yw:

Bawso – Prosiect Diogel

Mae gweithwyr cymorth Bawso yn gweithio gyda goroeswyr i greu cynlluniau cymorth unigol, sy’n gallu cynnwys cymorth ariannol, cymorth i fanteisio ar wasanaethau iechyd a thriniaethau, cynghori arbenigol, cyngor troseddol a chyngor cyfreithiol sy’n gysylltiedig â mewnfudo, cyfleoedd addysg a chyflogaeth a chymorth arall yn ôl yr angen.

Mae Bawso yn darparu llety ar gyfer dynion a menywod fel rhan o’u cymorth. Gallant weithio fel gwasanaeth allgymorth hefyd gyda’r rhai nad oes angen llety arnynt.

Os ydych chi angen cymorth, cysylltwch â’r Gweithiwr Cynghori ar 029 20644633 neu 0800 7318147.

Llwybrau Newydd – Prosiect Liberate

Bydd gweithwyr Liberate yn darparu cymorth seicolegol, eiriolaeth ymarferol a chymorth i oroeswyr osgoi sefyllfaoedd lle y gellid cam-fanteisio arnynt. Byddant yn cadw mewn cysylltiad â’r heddlu ac asiantaethau eraill hefyd drwy allgymorth.

Os ydych chi angen cymorth, ffoniwch 01633 250205 a gofynnwch am gael siarad â gweithiwr masnachu pobl.

Barnardo’s

Mae Barnardo’s yn darparu cymorth ar gyfer plant (dan 18 oed) sydd wedi dioddef caethwasiaeth. Bydd plant sydd wedi goroesi hyn yn cael eu paru â gweithwyr cymorth sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n deall bod plant sydd wedi dioddef masnachu pobl yn agored iawn i niwed ac angen cymorth sy’n benodol i’w hanghenion.

Os ydych chi dan 18 oed, wedi goroesi caethwasiaeth ac angen cymorth, ffoniwch linell gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 0800 0121700.

Mae Bernardo’s hefyd yn rhedeg gwasanaethau arbenigol y Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol ar Fasnachu mewn Plant  yng Nghymru, sy’n:

  • meithrin perthynas ar sail ymddiriedaeth ymhlith plant sydd wedi’u masnachu i’w cynorthwyo i adeiladu dyfodol cadarnhaol
  • helpu plant i ddeall y systemau cyfiawnder troseddol, mewnfudo a gofal cymdeithasol
  • rhoi cymorth ymarferol, megis help gyda thai, anghenion meddygol ac addysg
  • rhoi cymorth emosiynol a seicolegol
  • hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio â phlant, fel bod modd iddynt adnabod arwyddion mewn achosion tebygol o fasnachu a gwybod sut i roi cymorth i blant sydd wedi’u masnachu

Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru, cyflwynwch Ffurflen Gyfeirio’r Gwasanaeth.