Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ffoniwch 0808 8010 800

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael:

  • i unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
  • os bydd angen help ar rywun yr ydych chi'n ei adnabod, er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • i ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Beth fydd yn digwydd os bydda' i’n ffonio'r llinell gymorth? 

Mae pob galwad yn gyfrinachol ac yn cael eu hateb gan aelod o staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n briodol. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich credu ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth ichi. Ni fyddwn yn eich beirniadu nac yn eich beio, ac nid oes rhaid ichi fod yn barod i gymryd unrhyw gamau pellach.

Os bydd angen rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, ni fyddai hynny'n digwydd heb eich cydsyniad llawn. Yr eithriadau i hyn yw os byddwch chi, neu rywun arall, gan gynnwys plentyn, mewn perygl o niwed neu anafiad difrifol, neu fod bywyd yn y fantol. O dan yr amgylchiadau hynny, byddai'r awdurdodau'n cael eu hysbysu i sicrhau diogelwch a llesiant ar eich cyfer chi a'ch plant.

Beth fyddan nhw ei ofyn imi?

Yr ystyriaeth gyntaf fydd a ydych chi mewn perygl ar y pryd ac a yw'n ddiogel i siarad â chi. Gallai trefniadau diogel gael eu gwneud i'ch ffonio chi yn ôl os bydd rhaid ichi roi terfyn ar yr alwad.

Yna, bydd staff y llinell gymorth yn gwrando ar eich rhesymau dros gysylltu â'r llinell gymorth, a byddan nhw'n ymateb i'ch anghenion. Beth bynnag oedd y rheswm am yr alwad, a beth bynnag yw'r canlyniad, bydd gweithwyr cymorth y llinell gymorth yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd y gallwch chi gael cymorth a chefnogaeth, gan sicrhau eich diogelwch chi a'ch plant - beth bynnag fo'r dewisiadau y gallech chi fod yn eu gwneud am eich perthynas.

Efallai y bydd y llinell gymorth:

  • yn atgyfeirio pobl (gyda'u plant neu heb eu plant) i lety diogel brys
  • yn cynnal gwaith cynllunio ar-lein at ddibenion diogelwch ac ymateb mewn argyfwng
  • yn eich atgyfeirio i gymorth wyneb yn wyneb drwy wasanaethau eiriolaeth, galw heibio, cyngor neu allgymorth cymunedol yn eich ardal
  • yn gwrando arnoch ac yn cynnig cymorth emosiynol ichi ac (os yw'n briodol) eich atgyfeirio i wasanaethau cwnsela
  • yn cynnig cymorth a gwybodaeth ymarferol ynghylch galw'r heddlu, hawliau o ran tai, a gwybodaeth am sut i gael gwaharddeb, neu'n rhoi sicrwydd ynghylch mynd i Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol neu i'r llys.

Efallai y gofynnir sawl cwestiwn ichi er mwyn helpu i asesu lefel y perygl yr ydych chi ynddo. Os byddwch chi'n cael eich asesu i fod mewn perygl uchel iawn o niwed fel canlyniad i gam-drin domestig, bydd un o weithwyr cymorth y Llinell Gymorth yn siarad â chi i egluro sut y cewch chi ymateb cydgysylltiedig gan asiantaethau lleol i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Rydym yn monitro galwadau at ddibenion hyfforddi.

Mae'r llinell gymorth yn ddi-dâl ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar filiau ffôn

Ni fydd galwadau i’r Llinell Gymorth i’w gweld ar eich biliau ffôn. Yn y DU o ffonau symudol*: efallai y byddwch yn clywed neges wedi'i recordio yn rhoi gwybod y gellir codi tâl am alwadau i rifau 08. Mae'r neges honno'n cael ei chynhyrchu'n awtomatig pan fydd unrhyw rif 08 yn cael ei ddeialu, ond bydd eich galwad aton ni o'r rhwydweithiau hynny yn ddi-dâl o hyd. Efallai y bydd rhwydweithiau ffonau symudol eraill yn codi tâl am alwadau i'n llinell gymorth. Cysylltwch â'ch rhwydwaith i gael rhagor o wybodaeth.

(*Ni fydd galwadau i'r llinell gymorth yn ymddangos ar filiau ffôn llinellau tir, ac maent yn ddi-dâl o bob llinell dir yn y DU, ac o'r darparwyr ffonau symudol canlynol: 3 Mobile, O2, Orange, T-Mobile, Virgin Mobile a Vodafone).

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn cael ei rheoli gan Gymorth i Ferched Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.