Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu negeseuon testun gan unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan eu ffrindiau a'u teuluoedd, gan eu cydweithwyr neu gan ymarferwyr sy'n chwilio am gyngor proffesiynol.

Wrth ddefnyddio'r gwasanaeth tecstio i linell gymorth Byw Heb Ofn, cofiwch ofalu ei bod yn ddiogel gwneud hynny, a dileu negeseuon y gallai eraill eu gweld (gan gynnwys aelodau o'ch teulu/partner sy'n eich cam-drin).

Anfonwch neges destun drwy 0786 00 77 333

Byddwch yn talu ffi cyfradd safonol eich rhwydwaith am y negeseuon testun.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn anfon neges destun 

Unwaith y daw neges destun i law, caiff neges awtomatig ei hanfon yn rhoi gwybod ichi ei bod, ar adeg brysur, yn gallu cymryd hyd at 4 awr inni ymateb. Mae'n bosibl y byddwn yn ymateb ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod gan fod y llinell gymorth ar agor 24 awr/7 diwrnod yr wythnos.

Unwaith byddwch wedi dechrau sgwrs, bydd gweithwyr cymorth proffesiynol, sydd wedi'u hyfforddi i lefel uchel, yn ymateb ichi. Os yw'n bosibl, byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cyfathrebu â'r un person bob amser. Fodd bynnag, efallai na fydd hynny'n bosibl bob amser, yn dibynnu ar ba mor hir y bydd y cysylltiad rhyngon ni a chi yn para.

Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich credu ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth ichi. Ni fyddwn yn eich beirniadu nac yn eich beio, ac nid oes rhaid ichi gymryd unrhyw gamau pellach os nad ydych yn barod i wneud hynny.

Mae hwn yn lle diogel a chyfrinachol ichi siarad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd yn rhaid inni dorri'r cyfrinachedd. Bydd yn rhaid inni wneud hynny pan fyddwn yn teimlo y gallai plant fod mewn perygl sylweddol, neu y gallech chithau fod mewn perygl, a byddem yn cyfeirio'r achos i'r asiantaethau mwyaf priodol.

Os ydych mewn perygl ar hyn o bryd, cysylltwch â'r heddlu ar 999 neu 101.